Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rwyf wedi ysgrifennu at gadeiryddion a phrif weithredwyr holl sefydliadau'r GIG yn nodi fy mlaenoriaethau i wella gofal, gwasanaethau a pherfformiad yn ystod y flwyddyn hon Cymru iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol | LLYW.CYMRU.
Gyda'i gilydd, bydd y camau gweithredu yn y meysydd blaenoriaeth hyn yn helpu i newid y ffordd y mae'r GIG yn cael ei redeg – gan atgyfnerthu'r adferiad ar ôl y pandemig, sicrhau bod pawb yn cael mynediad gwell a chyflymach at ofal, a sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn barod ar gyfer heriau'r dyfodol.
Mae ein GIG wedi cyrraedd trobwynt – mae'r 12 mis nesaf yn allweddol o ran cynaliadwyedd ein gwasanaethau yn y tymor hwy. Mae'n rhaid inni weithredu nawr. Mae hyn yn golygu gwneud mwy i atal afiechyd; darparu mwy o ofal a gwasanaethau yn agosach at gartrefi pobl, mewn cymunedau lleol; byrhau amseroedd aros a lleihau nifer yr achosion o oedi cyn i bobl gael eu rhyddhau o’r ysbyty. Rhaid inni ganolbwyntio ar seilwaith digidol a thrawsnewid yn y GIG; cryfhau ei arweinyddiaeth, a galluogi mwy o weithio rhanbarthol, ar draws ffiniau traddodiadol y byrddau iechyd. Bydd angen i'r newidiadau hyn gael eu gwneud law yn llaw â bodloni ein disgwyliadau o ran cyflawni ariannol, a chan gadw o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
Mae'r themâu yn adlewyrchu'r hyn a amlinellais yn fy araith i Gydffederasiwn GIG Cymru ar 7 Ebrill. Maent hefyd yn adlewyrchu gwaith ac argymhellion y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Atebolrwydd a'r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Berfformiad a Chynhyrchiant y GIG.
Mae'r camau gweithredu yn fy llythyr yn cadarnhau fy ymrwymiad i sicrhau ein bod yn parhau i wella cynhyrchiant a pherfformiad ein system iechyd a gofal, gan gyd-fynd â'r weledigaeth yn Cymru Iachach a'r disgwyliadau yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru 2025-28 https://www.llyw.cymru/fframwaith-cynllunio-blynyddol-gig-cymru-2025-i-2028.
