Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o gyhoeddi bod y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle wedi’u gwneud. Bydd y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle busnes, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae aelwydydd eisoes yn ei wneud ar draws y rhan fwyaf o Gymru. Bydd y gofynion yn dod i rym ar 6 Ebrill 2024.

Bydd y Rheoliadau yn lleihau faint o wastraff yr ydym yn ei anfon i’w losgi neu i safleoedd tirlenwi, gan wella ansawdd a nifer y deunyddiau ailgylchadwy a gasglwn o weithleoedd. Bydd hyn yn ei dro yn cadw deunyddiau pwysig i’w bwydo’n ôl i economi Cymru ac yn gwella cysondeb o ran y ffordd yr ydym yn casglu deunyddiau ailgylchu ac yn rheoli’r broses ailgylchu yng Nghymru.

Mae’r Offerynnau Statudol canlynol yn ffurfio’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle; Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023; Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023; a Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023, ac maent ar gael yma: Ddeddfwriaeth.gov.uk

Rwyf hefyd wedi gosod a chyhoeddi’r ddogfen Casglu Deunyddiau Gwastraff Ar Wahân i’w Hailgylchu: Cod Ymarfer Cymru (‘y Cod’), sy’n nodi canllawiau ymarferol ar sut i gydymffurfio â’r gofynion i wahanu gwastraff. Mae’r Cod hwn ar gyfer:

  • meddianwyr eiddo annomestig (gan gynnwys busnesau, y sector cyhoeddus ac elusennau) y mae’n ofynnol iddynt gyflwyno deunyddiau gwastraff ailgylchadwy penodedig i’w casglu mewn ffrydiau gwastraff ailgylchadwy ar wahân;
  • y rhai sy’n casglu, neu’n trefnu i gasglu, gwastraff ac y mae’n ofynnol iddynt gasglu, neu drefnu i gasglu, y ffrydiau gwastraff ailgylchadwy ar wahân; a
  • y rhai sy’n casglu, derbyn, cadw, trin neu gludo gwastraff ac y mae’n ofynnol iddynt beidio â chymysgu’r ffrydiau gwastraff ailgylchadwy a gesglir ar wahân gydag unrhyw ffrwd wastraff ailgylchadwy arall neu gyda mathau eraill o wastraff neu sylweddau neu eitemau eraill.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer ym mis Tachwedd 2022 ac mae wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r adborth o’r ymgynghoriad hwnnw ac i sicrhau cysondeb â’r Offerynnau Statudol terfynol. Gallwch weld y Cod Ymarfer yma: https://www.llyw.cymru/casglu-deunyddiau-gwastraff-ar-wahan-ar-gyfer-ailgylchu-cod-ymarfer

Rydym hefyd wedi llunio fersiwn Hawdd ei Deall o adran grynhoi’r Cod Ymarfer. Gallwch weld y Cod Ymarfer Hawdd ei Deall yma: https://www.llyw.cymru/casglu-deunyddiau-gwastraff-ar-wahan-ar-gyfer-ailgylchu-cod-ymarfer

Mae ymgyrch gyfathrebu genedlaethol eisoes ar y gweill i roi gwybod i weithleoedd am y newidiadau sydd ar ddod ac i ddarparu canllawiau, astudiaethau achos ac adnoddau eraill penodol i’r sector i gefnogi gweithleoedd a’r sector gwastraff i gydymffurfio â’r gyfraith newydd hon. Mae canllawiau a chymorth ar gael yn: www.llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle

Mae’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle yn un o’r camau hanfodol yr ydym yn eu cymryd yng Nghymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, ac yn gam sylweddol arall tuag at sicrhau economi gryfach, wyrddach fel yr ymrwymwyd iddo yn ein Rhaglen Lywodraethu. Felly mae’n briodol bod y Rheoliadau hyn wedi’u gwneud ar adeg sy’n cyd-fynd â Chynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP28) gan eu bod yn adeiladu ar ein hymrwymiad i fod yn ddiwastraff ac i sicrhau allyriadau carbon sero net erbyn 2050.