Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 27 Chwefror 2023, gosodais Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig oherwydd pryderon difrifol am effeithiolrwydd y bwrdd, diwylliant sefydliadol, ansawdd ac ad-drefnu gwasanaethau, trefniadau llywodraethu, diogelwch cleifion, cyflawni gweithredol, arweinyddiaeth a rheolaeth ariannol.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, rwyf wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn rheolaidd ac wedi cyhoeddi tri adroddiad sy'n amlinellu'r cynnydd a wnaed yn ystod pob chwarter o'r trefniadau mesurau arbennig presennol.  Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r pedwerydd adroddiad cynnydd sy'n ymdrin â'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn gyntaf o fesurau arbennig, yr hyn sydd wedi'i ddysgu a'r gwelliannau a'r heriau sydd wedi'u nodi.

Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi cyhoeddi ei fyfyrdodau ei hun ynghylch ei ymateb i'r mesurau arbennig dros y 12 mis diwethaf.

Mae arwyddion bod y bwrdd iechyd yn gwneud gwelliannau: 

  • Mae perfformiad yn dechrau gwella. Rhwng mis Chwefror a mis Tachwedd 2023, gwelwyd gostyngiad o 65% yn nifer y bobl sy’n aros mwy na thair blynedd am eu triniaethau.
  • Yn yr un cyfnod, gostyngodd nifer y bobl sy’n aros mwy na 52 o wythnosau am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf, a gwelwyd gostyngiad o 33% yn nifer y bobl sy’n aros mwy nag 8 wythnos am eu profion diagnostig.
  • Mae amseroedd aros llwybrau orthopedig wedi gwella, ac ym mis Tachwedd 2023, roedd nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 104 o wythnosau ar ei lefel isaf ers mis Ebrill 2021. Bydd y cynnydd cadarnhaol hwn yn parhau yn sgil adeiladu canolfan orthopaedig newydd yn Llandudno, a fydd wedi’i chwblhau erbyn diwedd 2024.
  • Fis Mawrth y llynedd, roedd 91% o bractisau ymarferwyr cyffredinol yn y Gogledd yn cyflawni’r holl Safonau Mynediad. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu nifer o gamau yn y Contract Unedig newydd ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol er mwyn sicrhau bod ein disgwyliadau o ran mynediad yn ofyniad contractiol gorfodol.
  • Mae adroddiad dilynol diweddar Archwilio Cymru ar effeithiolrwydd y Bwrdd yn amlygu sefydlogrwydd y Bwrdd a pherthnasau gweithio gwell. 
  • Yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae uned gofal ôl-anesthesia wedi'i hehangu ar gyfer pobl sydd angen gofal arbenigol ar ôl llawdriniaethau.
  • Yn Ysbyty Glan Clwyd, mae uned cymorth anadlol wyth gwely wedi agor i helpu pobl â phroblemau anadlol y mae angen arsylwadau rheolaidd arnynt, ond nad oes angen gofal dibyniaeth fawr arnynt.
  • Yn Ysbyty Gwynedd, mae llawdriniaeth laser arloesol yn cael ei defnyddio i dynnu cerrig o'r arennau, ac mae'r tîm orthopedig wedi cyflawni dros 100 o lawdriniaethau i osod pengliniau newydd gan ddefnyddio technoleg robotig. Roeddwn hefyd yn falch o glywed bod meddygon o dan hyfforddiant wedi nodi mai Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd yw'r lle gorau i hyfforddi yn y Deyrnas Unedig.
  • Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio triniaeth newydd sef laser arloesol i dynnu tiwmorau o’r bledren neu ardaloedd amheus. Bydd hyn yn gwella canlyniadau a phrofiadau pobl.
  • Yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno, mae canolfan adsefydlu ar ôl strôc newydd wedi agor i sicrhau bod cleifion yn cael y siawns orau bosibl o ymadfer ar ôl cael strôc. 
  • Mae dull treialu "prawf yn syth" wedi’i roi ar waith fel bod cleifion yn cael prawf mpMRI yn gynt ar ôl cael eu hatgyfeirio am brofion diagnostig pan amheuir canser. Mae pobl yn cael eu gweld yn gynt ac yn cael sgan MRI tua 18 diwrnod ar ôl atgyfeiriad gan ymarferydd cyffredinol. 
  • Roedd penderfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fis Mehefin diwethaf i isgyfeirio gwasanaethau fasgwlaidd o 'wasanaeth sydd angen ei wella’n sylweddol' yn galonogol.  Yn ogystal, nododd yr asesiad sicrwydd dilynol gan Weithrediaeth y GIG fod y gwasanaeth yn gwneud y gwelliannau gofynnol. Edrychaf ymlaen at ganlyniadau adolygiad pellach o nodiadau achos, y mae disgwyl adroddiad yn ei gylch ym mis Mawrth.

Yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus agored, ac yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus, gallaf gadarnhau bod pedwar aelod annibynnol ac aelod annibynnol yr undeb llafur wedi'u penodi i'r bwrdd iechyd. Mae gan y bwrdd bellach y nifer gofynnol o aelodau annibynnol.

Y pedwar aelod annibynnol yw Karen Balmer, Clare Budden, Christopher Field a Rhian Watcyn Jones, ac aelod annibynnol yr undeb llafur yw Billy Nichols. 

Y llynedd, yn rhan o'r fframwaith mesurau arbennig, nodais nifer o amodau o ran cynaliadwyedd ar gyfer y bwrdd iechyd. Mae'r rhain yn parhau'n ddilys a bydd angen eu bodloni cyn y gellir ystyried isgyfeirio'r bwrdd iechyd i lefel pedwar (a elwid yn flaenorol yn ymyrraeth wedi'i thargedu). 

Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn datblygu cyfres glir o feini prawf isgyfeirio, ac yn cytuno arni, mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd. Nod hyn yw sicrhau dealltwriaeth gyffredin ynghylch blaenoriaethau ac eglurder ynghylch fy nisgwyliadau ar gyfer gwelliannau ar unwaith a gwelliannau cynaliadwy. Bydd y meini prawf hyn yn cael eu cyhoeddi unwaith y cytunir arnynt. 

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.