Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol


Datganiad yw hwn i roi gwybod i Aelodau fod Erthygl Ystadegol wedi’i chyhoeddi ar oriau agor meddygfeydd yn ystod 2010 a 2011. Mae’r erthygl yn dangos bod oriau agor meddygfeydd wedi gwella ac yn tynnu sylw at y canlynol:  

  • Roedd 149 o feddygfeydd yng Nghymru (31 y cant) ar agor drwy’r dydd yn ystod yr oriau craidd, sef rhwng  8:00am a 6:30pm – cynnydd o 12 y cant rhwng 2010 a 2011;
  • Roedd 229 o feddygfeydd (48 y cant) ar agor am 95 y cant neu fwy o’r oriau craidd – 11 pwynt canran yn uwch nag yn 2010;
  • Roedd 12 y cant o feddygfeydd ar agor yn ystod oriau ychwanegol yn 2011 – cynnydd o 3 y cant ar y flwyddyn flaenorol;
  • Roedd 19 y cant o feddygfeydd ar gau am hanner diwrnod ar un diwrnod neu fwy bob wythnos yn 2011 - 6 y cant yn is na’r flwyddyn flaenorol.

Mae hwyluso mynediad i wasanaethau meddygon teulu yn un o ymrwymiadau pwysicaf y Llywodraeth. Erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd llai fyth o feddygfeydd yn cau am hanner diwrnod, a bydd mwy o feddygfeydd yn cynnig apwyntiadau min nos (hyd at 6.30pm) er mwyn ei gwneud yn haws i bobl sy’n gweithio weld eu meddyg.    

O fis Ebrill 2013, ymestyn oriau agor a chynnig mwy o apwyntiadau ar ôl 6.30pm fydd y nod. Mae’r syniad o gynnig mwy o apwyntiadau yn gynnar yn y bore hefyd yn derbyn sylw, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae’n rhaid i bobl deithio’n bell i’r gwaith. Mae adolygiad ar y gweill hefyd i archwilio’r posibilrwydd o agor meddygfeydd ar fore Sadwrn.    

Cyflawni’r ymrwymiad hwn o fewn cyllidebau presennol yw’r bwriad, trwy adolygu ac ail-flaenoriaethu cyllid yn gyson.    

Er bod meddygon teulu yn gweithio’n galed i sicrhau eu bod yn diwallu gofynion cleifion yn eu bröydd, mae mwy i’w wneud o hyd i sicrhau ein bod yn cyflawni ymrwymiad y Llywodraeth i’w gwneud yn haws i bobl weld eu meddyg teulu. Bu’r Byrddau Iechyd yn gweithio gyda meddygon teulu ac yn gweithredu i wella mynediad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn benodol:

  • Lansiodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ei Gynllun Achredu Mynediad ym mis Ionawr 2012 er mwyn adlewyrchu safon y mynediad y mae pob meddygfa’n ei gynnig. O’r 90 meddygfa, mae 26 wedi cyrraedd y radd uchaf bosibl, sef 5A;
  • Mae Byrddau Iechyd Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf yn canolbwyntio’n gryf ar sicrhau bod llai o feddygfeydd yn cau am hanner diwrnod. Dim ond un feddygfa sy’n cau am hanner diwrnod yng Nghwm Taf erbyn hyn, ac yng Nghaerdydd a’r Fro, mae cynlluniau ar y gweill i ddod â’r arfer o gau am hanner diwrnod i ben ym mhob un ond 2 feddygfa erbyn mis Mai 2012;
  • Mae 31% o feddygfeydd bellach yn cynnig apwyntiadau ar ôl 6.30pm yn ardal Abertawe Bro Morgannwg. Mae gan y Bwrdd Iechyd hefyd Fforwm Mynediad er mwyn cynnig mwy o apwyntiadau a sicrhau bod llai o apwyntiadau yn cael eu gwastraffu wrth i gleifion beidio â’u cadw;
  • Mae Bwrdd Iechyd Powys wedi ysgrifennu at bob meddygfa yn nodi’r safonau allweddol o ran mynediad, a chynhelir trafodaethau rheolaidd gyda’r Cyngor Iechyd Cymuned i sicrhau bod barn cleifion yn cael ei hystyried;
  • Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda Weithdy Mynediad i feddygon teulu, rheolwyr practis a Chynghorau Iechyd Cymuned yn ddiweddar;
  • Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ystyried datblygu Cynllun Achredu Mynediad, sy’n golygu na fydd modd i feddygfeydd gau am hanner diwrnod os ydynt am sicrhau gradd A.