Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi Papur Gwyn sy’n amlinellu cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg. Bydd y Bil yn cymryd camau i alluogi holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus drwy'r system addysg statudol.

Ymhlith y prif gynigion mae:

  • Adlewyrchu’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn y gyfraith;
  • Creu un continwwm sgiliau Cymraeg i ddisgrifio lefelau sgiliau fel bod dysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr yn dod i ddealltwriaeth gyffredin o'r daith tuag at ddysgu Cymraeg;
  • Sefydlu system statudol o gategoreiddio ysgolion a gynhelir yn ôl cyfrwng iaith;
  • Dros amser, cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion a gynhelir nad ydynt eisoes yn ysgolion cyfrwng Cymraeg penodedig;
  • Gofyniad i Weinidogion Cymru greu Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu'r Gymraeg, a'i adolygu bob tymor Seneddol;
  • Diwygio sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio darpariaeth Gymraeg mewn ysgolion er mwyn cyrraedd targedau a osodir gan Weinidogion Cymru;
  • Gofynion ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol, gan gynnwys darpariaeth trochi hwyr; a
  • Rhoi cymorth arbenigol i ysgolion o ran dysgu Cymraeg.

Mae hwn yn gam arwyddocaol ymlaen tuag at wireddu’r ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru i gyflwyno Bil Addysg Gymraeg yn ystod tymor presennol y Senedd hon.

Mae copi o’r Papur Gwyn, ynghyd ag Asesiad Effaith Integredig ac amlinelliad o gostau ac effeithiau a fydd yn sail i Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Addysg Gymraeg ar gael o wefan Llywodraeth Cymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos, hyd at 16 Mehefin 2023. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac felly rwy’n annog pawb i ymateb i’r ymgynghoriad. Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn ystod eang o bobl ar ein cynigion.