Rydym am glywed eich barn ar ein cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar gynigion a fydd yn sail i Fil Addysg Gymraeg. Bydd y Bil yn cymryd camau i alluogi holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus drwy'r system addysg statudol. Ymhlith y prif gynigion mae:
- Adlewyrchu’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn y gyfraith
- Creu un continwwm sgiliau Cymraeg i ddisgrifio lefelau sgiliau fel bod dysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr yn dod i ddealltwriaeth gyffredin o'r daith tuag at ddysgu Cymraeg
- Sefydlu system statudol o gategoreiddio ysgolion a gynhelir yn ôl cyfrwng iaith
- Dros amser, cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion a gynhelir nad ydynt eisoes yn ysgolion cyfrwng Cymraeg penodedig
- Gofyniad i Weinidogion Cymru greu Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu'r Gymraeg, a'i adolygu bob tymor Seneddol
- Diwygio sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio darpariaeth Gymraeg mewn ysgolion er mwyn cyrraedd targedau a osodir gan Weinidogion Cymru
- Gofynion ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol, gan gynnwys darpariaeth trochi hwyr; a
- Rhoi cymorth arbenigol i ysgolion o ran dysgu Cymraeg
Dogfennau ymgynghori
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 16 Mehefin 2023, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Is-adran Cymraeg 2050
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ