Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

  1. Mae’r Papur Gwyn yn nodi’r cynigion ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol i drawsnewid y ffordd yr ydym yn meddwl am y Gymraeg a rôl addysg o fewn hynny, gan roi ffocws clir a phendant ar ddeilliannau ieithyddol dysgwyr. Mae’r Papur Gwyn hefyd yn cynnwys cynigion y gellir eu gwireddu heb ddeddfu, fel rhan o’r rhaglen waith. Nid yw’r ddogfen hon yn cynnwys costau nac effeithiau’r cynigion hyn.
  2. Bydd asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r Bil pan gaiff ei gyflwyno gerbron y Senedd. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r ystyriaethau cychwynnol ar y darpariaethau arfaethedig a nodir yn y Papur Gwyn. Mae’n cyflwyno, felly, y camau cychwynnol o gasglu tystiolaeth i gefnogi asesiad o’r costau, buddion ac anfanteision sy’n gysylltiedig â’r newidiadau arfaethedig, ac yn fan cychwyn sy’n rhoi cyfle i ystyried y mathau o gostau a fydd yn codi ac ar bwy fyddant yn disgyn, ar sail y cynigion presennol. Rydym yn gwahodd sylwadau ar y cynigion hyn. Mae natur y darpariaethau'n golygu y bydd yr wybodaeth am gostau, buddion ac anfanteision yn parhau i ddatblygu wrth i'r darpariaethau hyn newid o ganlyniad i'r adborth ar y Papur Gwyn.
  3. Lle bo costau ariannol yn cael eu cynnwys, maent yn seiliedig ar y gwariant a gyllidebwyd ar gyfer 2022 i 2023. Mae'r costau hyn wedi'u cynnwys fel procsi i'r mathau o wybodaeth a fydd yn cael eu cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol terfynol, ac nid ydynt yn ymrwymiadau i wariant yn y dyfodol gan fod y broses ddatblygu'n mynd rhagddi o hyd.
  4. Nid yw’r ddogfen hon yn cynnwys costau’r rhaglen ehangach i gefnogi darpariaeth addysg Gymraeg. Yn hytrach, cyfeirio a wna at gostau’r gofynion deddfwriaethol cysylltiedig yn unig, sydd wedi eu mynegi yn y Papur Gwyn.

Cwmpas

  1. Bydd y cynigion yn cael effaith wahanol ar grwpiau gwahanol. Mae’r rheini sydd wedi’u cynnwys yn y ddogfen wedi’u rhannu fel a ganlyn:
  2. Prif fuddiolwyr y cynigion: Disgyblion a rhieni.
  3. Partneriaid gweithredu: Y grwpiau o unigolion neu sefydliadau sy’n gyfrifol am weithredu’r darpariaethau: Mae’r rhain yn cynnwys ysgolion a gynhelir a dosbarthiadau meithrin, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion ac ysgolion arbennig; ymarferwyr yn y sectorau hyn; awdurdodau lleol; consortia addysg rhanbarthol; darparwyr addysg gychwynnol i athrawon a darparwyr hyfforddiant mewn swydd.
  4. Partneriaid gweithredu strategol cenedlaethol: Y grwpiau o unigolion neu sefydliadau sy’n gyfrifol am weithredu’r darpariaethau ar lefel strategol: Llywodraeth Cymru, Estyn, Cymwysterau Cymru, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
  5. Mae nifer o gyrff a phartneriaid yn cefnogi taith unigolion ar hyd y continwwm sgiliau Cymraeg o ddarpariaeth gychwynnol sy’n cael ei chynnig gan y Mudiad Meithrin hyd at y dilyniant i barhau i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg bellach ac uwch gyda chefnogaeth ac arweiniad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cynigion y Papur Gwyn

  1. Mae’r cynigion o fewn y Papur Gwyn a’u heffaith wedi’u rhannu fel a ganlyn:
     
  2. Gwneud y targed miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged statudol a gwneud darpariaeth ynghylch deilliant ieithyddol i ddysgwyr drwy’r system addysg
  • Rhoi’r targed miliwn o siaradwyr Cymraeg ar wyneb y Bil fel bod sail statudol iddo.
  • Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i weithio tuag at wireddu deilliant ieithyddol ar ddiwedd addysg statudol erbyn 2050, sef pob disgybl yn gallu siarad Cymraeg yn hyderus, a hynny fel isafswm ar lefel sy’n gyfystyr â B2 Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR).
  1. Continwwm sgiliau Cymraeg gydol oes
  • Gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatgan y continwwm sgiliau Cymraeg.
  1. Categoreiddio ysgolion yn ôl cyfrwng iaith
  • Sefydlu cyfundrefn statudol i gategoreiddio ysgolion yn ôl cyfrwng iaith.
  • Rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i bennu disgrifiadau statudol i bob categori, gan gynnwys yr isafswm o ran amser a ddarperir drwy’r Gymraeg.
  • Awdurdodau lleol i gymeradwyo categori ieithyddol ysgolion a gynhelir yn eu sir, ac i fonitro bod gofynion y categori hwnnw’n cael eu gwireddu.
  • Gosod dyletswydd ar ysgolion a gynhelir i gyhoeddi cynllun yn manylu sut y maent am gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg a’r amserlen briodol.
  • Holi barn ynghylch sut ddylai awdurdod lleol benderfynu a ddylai ysgol newydd a sefydlir fod yn un cyfrwng Cymraeg.
  1. Cynllun cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg
  • Rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Cynllun Cenedlaethol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg.
  • Gweinidogion Cymru i bennu targedau ynghylch nifer yr athrawon tybiedig sydd eu hangen er mwyn hwyluso’r twf mewn addysg Gymraeg. 
  • Gweinidogion Cymru i bennu targedau o ran cynyddu nifer y dysgwyr sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
  1. Cynllunio’r Gymraeg mewn addysg mewn awdurdodau lleol
  • Diwygio’r system o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA)
  • Newid enw’r CSCA i Gynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg (CGCA) a fydd yn nodi sut bydd yr awdurdod lleol yn gweithredu i gyrraedd y targed(au) a osodir gan Weinidogion Cymru yn y Cynllun Cenedlaethol. 
  • Gweinidogion Cymru i osod targedau ar bob awdurdod lleol yn y Cynllun Cenedlaethol ynghylch cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
  • Cyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol i adolygu eu CGCA ar ôl 5 mlynedd i alinio gydag adroddiad cynnydd 5 mlynedd y Cynllun Cenedlaethol.
  • Gweinidogion Cymru i gomisiynu adolygiad allanol o gynnwys CGCA drafft, cyn cynnig addasiadau pan fo’n briodol. 
  • Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i bennu targedau 10 mlynedd yn eu CGCA arfaethedig, a’u hadolygu bob 5 mlynedd, ar gyfer cynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i bennu targedau 10 mlynedd yn eu CGCA arfaethedig, a’u hadolygu bob 5 mlynedd, ar gyfer cynyddu nifer yr ymarferwyr â sgiliau iaith Gymraeg ar sail dadansoddiad o’r data perthnasol yn y Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgolion (CBGY).
  • Awdurdodau lleol i gyhoeddi eu hadroddiadau adolygu blynyddol.
  • Gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi adroddiad cenedlaethol o gynnydd yn erbyn y targedau yn y Cynllun Cenedlaethol bob blwyddyn.
  • Rhoi swyddogaeth i Estyn, ar gais Gweinidogion Cymru, i gynnal adolygiad chwim a chynnig argymhellion mewn sefyllfaoedd lle mae’n ymddangos bod risg na fydd awdurdod yn gwireddu ei dargedau.
  1. Dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol
  • Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg i rieni a gofalwyr.
  • Holi barn ar y syniad o osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg drochi hwyr i rieni, gofalwyr a disgyblion.
  • Holi barn am y syniad o osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu trochi hwyr i ddisgyblion.
  1. Cefnogaeth i wireddu amcanion y Bil
  • Canoli cefnogaeth arbenigol ar gyfer dysgu’r Gymraeg gydol oes, gan gynnwys addysg ysgolion, o fewn un sefydliad.
  • Ystyried ehangu rôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, neu fodel arall, i ymgymryd â’r swyddogaeth.
  • Ystyried gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i warantu bod digon o ddarpariaeth dysgu Cymraeg a strwythurau addas mewn lle i gefnogi dysgwyr o bob oed yng Nghymru.

Gwneud y targed miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged statudol a gwneud darpariaeth ynghylch deilliant ieithyddol i ddysgwyr drwy’r system addysg

  • Rhoi targed miliwn o siaradwyr Cymraeg ar wyneb y Bil fel bod sail statudol iddo.

  • Nod i awdurdodau lleol weithio tuag at wireddu deilliant ieithyddol ar ddiwedd addysg statudol erbyn 2050 sef pob disgybl yn gallu siarad Cymraeg yn hyderus, a hynny fel isafswm ar lefel sy’n gyfystyr â B2 Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR).

Cost

  1. Byddai rhoi’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg ar wyneb y Bil yn golygu gosod targed sydd eisoes yn bodoli o fewn strategaeth Cymraeg 2050 ar sail statudol. Ni ragwelir y byddai cost ychwanegol o wneud hyn. Mae cost gwireddu’r ddyletswydd yn ddibynnol ar y cynigion eraill a amlinellir yn y Papur Gwyn a cheir amlinelliad cychwynnol o’r costau hyn yng ngweddill y ddogfen hon. Fodd bynnag, byddai cost ar Estyn wrth gynnal adolygiad o berfformiad awdurdod lleol (manylir ar hyn ym mharagraff 84.)
  2. Mae goblygiadau i'r cynnig o ran sut y bydd cynnydd dysgwyr hyd at lefel sy’n gyfystyr â B2 yn cael ei ddehongli, ei ddeall a'i asesu. Bydd angen i hyn gael ei archwilio a’i ddeall ymhellach wrth i'r cynnig gael ei ddatblygu.
  3. Byddai cost gosod nod i awdurdodau lleol weithio tuag at alluogi pob disgybl i adael addysg statudol yn gallu siarad Cymraeg yn hyderus, a hynny fel isafswm ar lefel sy’n gyfystyr â B2 CEFR, yn cael ei gwmpasu gan gostau’r cynigion a amlinellir yn y ddogfen hon.

Buddion ac anfanteision

  1. Mae’r cynigion hyn yn cefnogi gweledigaeth strategaeth Cymraeg 2050, a’r thema strategol gyntaf o ‘gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.’ Dros amser, byddai’r cynigion yn ehangu mynediad at y Gymraeg i ddisgyblion yng Nghymru.
  2. Mae’r cynigion hyn yn rhoi sail gref i resymeg cyrff wrth wneud penderfyniadau ar draws y maes addysg.
  3. O wireddu’r deilliant yr amcenir i’w gyrraedd i bob disgybl erbyn 2050, gallai hyn arwain at ystod ehangach o gyfleodd i ddisgyblion o ran cyflogaeth ac yn eu bywydau bob dydd.  
  4. Yn y tymor hir, byddai’r cynigion yn rhoi cyd-destun i’r gwelliant y disgwylir ei weld yn sgiliau’r gweithlu, gan gynnwys y gweithlu addysg, gyda mwy o ddisgyblion yn mynd i’r gweithle gyda gwell sgiliau Cymraeg.

Continwwm sgiliau Cymraeg gydol oes

  • Gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatgan y continwwm sgiliau Cymraeg

Cost

  1. Ni fyddai costau ymgyfarwyddo na gweithredu i ysgolion.
Cost ar Lywodraeth Cymru
  1. Byddai’r rhaglen waith o lunio’r continwwm yn cael ei wneud gan swyddogion presennol Llywodraeth Cymru, felly byddai hyn yn gost cyfle (opportunity cost) i Lywodraeth Cymru.
  2. Byddai costau ar Lywodraeth Cymru i lunio’r ddogfen arfaethedig yn datgan y continwwm. Ni fyddai gwariant cyllidol ychwanegol ond byddai hyn yn gost cyfle. Byddai’r ddogfen yn cynnig disgrifiadau manwl i ddisgrifio taith iaith dysgwyr ar hyd continwwm sgiliau Cymraeg gydol oes. Byddai’r ddogfen yn cael ei llunio’n fewnol gan swyddogion Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Grŵp Gorchwyl. Byddai hyn yn rhan o waith swyddog SEO presennol Llywodraeth Cymru:
Cost ar Lywodraeth Cymru

Gradd staff

Nifer Cost (Mae’r holl ffigurau yn y ddogfen hon am gostau staff wedi eu seilio ar gyfraddau talu 2022-2023, oni nodir fel arall)

 

SEO 1 £66,364
  1. Byddai hefyd cost i Lywodraeth Cymru wrth ymgynghori ar y ddogfen hon gydag arbenigwyr ym maes caffael a dysgu iaith.

Buddion ac anfanteision

  1. Byddai’r cynnig hwn yn rhoi cyd-destun i’r ffordd y mae disgyblion Cymru yn dysgu’r Gymraeg, yn gwella eu sgiliau Cymraeg ac yn gwneud cynnydd ar eu taith iaith, beth bynnag yw cyfrwng iaith yr ysgol maen nhw’n ei mynychu ac ym mha bynnag ardal maen nhw’n byw. Mae’r cynnig yn cefnogi gofyniad y Cwricwlwm i Gymru i bob ysgol addysgu’r Gymraeg.
  2. Gallai’r cynnig gyfrannu at osod sail i gynllunio darpariaeth dysgu Cymraeg gydol oes. Byddai nid yn unig yn cyfrannu at ddealltwriaeth dysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr o’r daith i ddysgu’r Gymraeg a’r deilliannau ieithyddol disgwyliedig ar bob cam o’r daith honno, ond byddai hefyd yn cael ei sefydlu fel dull cyffredin o adnabod hyfedredd Cymraeg gan lunwyr polisi a chyflogwyr ymhlith eraill.

Categoreiddio ysgolion yn ôl cyfrwng iaith

  • Rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i bennu beth yw’r categorïau ieithyddol gan gynnwys pennu lleiafswm amser o ran cyswllt gyda’r Gymraeg y disgwylir i ddysgwyr eu derbyn yn unol â’u categori, mewn rheoliadau.

  • Awdurdodau lleol i gymeradwyo categori ieithyddol ysgolion a gynhelir yn eu sir, ac i fonitro bod gofynion y categori hwnnw’n cael ei wireddu.

  • Gosod dyletswydd ar ysgolion a gynhelir i gyhoeddi cynllun yn manylu sut y maent am gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg a’r amserlen briodol.

  • Holi barn ynghylch sut ddylai awdurdodau lleol benderfynu a ddylai ysgol newydd a sefydlir fod yn un cyfrwng Cymraeg.

Cost

Cost ar Lywodraeth Cymru
  1. Byddai costau gweinyddol ar Lywodraeth Cymru ar gyfer llunio’r categorïau a hefyd wrth greu canllawiau i ysgolion ynghylch sut i fynd ati i bennu eu categori ieithyddol. Byddai’r costau hyn yn cynnwys ymgynghori ar y canllawiau. Byddai’r canllawiau’n rhoi eglurder ynghylch y data sydd i’w ddefnyddio i bennu categori ieithyddol, unrhyw ystyriaethau y dylid eu rhoi, ac unrhyw brosesau ac amserlenni y mae’n rhaid eu dilyn. Byddai hyn yn cael ei wneud gan swyddogion presennol felly byddai’n gost cyfle.
  2. Byddai cost ar Lywodraeth Cymru ar gyfer swyddog i greu rheoliadau i bennu manylion y categorïau. Rydym yn tybio byddai hyn yn gost swyddog SEO am gyfnod o 6 mis. Ar sail cyflog SEO am flwyddyn (£66,364), byddai hyn yn gost o £33,182. Byddai hyn yn cael ei wneud gan swyddog bresennol felly byddai’n gost cyfle.
Cost ar Lywodraeth Cymru

Gradd staff

Nifer Hyd Cost
SEO 1 6 mis £33,182
Cost ar ysgolion
  1. Byddai cost ar ysgolion o ran cynyddu’r gyfran o bob wythnos a gaiff ei neilltuo i ddarpariaeth Gymraeg, yn ôl categori ieithyddol yr ysgol ac wrth symud tuag at gategori ieithyddol uwch. Byddai hyn yn cynnwys:
  • Hyfforddiant i arweinwyr ysgol
  • Hyfforddiant i uwch-sgilio staff
  • Costau cyflenwi ar gyfer staff
  1. Byddai’r gost hon yn dod o’r cyllid mae ysgolion yn ei dderbyn gan awdurdodau lleol. Mae dysgu proffesiynol yn un o nodweddion allweddol ein dull o symud ysgolion ar hyd y continwwm er mwyn darparu mwy o addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i sicrhau bod ymarferwyr yn cael eu hadnabod a'u cefnogi i ymgymryd â dysgu proffesiynol er mwyn gwella addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a chefnogi pob ysgol i symud ar hyd y continwwm categoreiddio ysgolion. Mae Grant y Gymraeg mewn Addysg sy’n rhan o’r Grant Gwella Addysg ar hyn o bryd (cyfanswm o £6.7 miliwn trwy gyfraniad Llywodraeth Cymru a chyllid cyfatebol awdurdod lleol) a Grant dysgu proffesiynol y Gymraeg (£2.5 miliwn) yn cael eu dyrannu’n flynyddol i’r awdurdodau lleol a/neu’r consortia i gefnogi nifer o weithgareddau sy’n cefnogi’r Gymraeg. Mae’r rhain yn cynnwys ariannu darpariaeth i hwyrddyfodiaid, darparu hyfforddiant i gefnogi ymarferwyr yn y sector cyfrwng Cymraeg a chefnogi addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Yn unol â Chynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg, rydym yn adolygu'r cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd i gefnogi'r gwaith o ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol a chymorth i weithredu CSCA er mwyn sefydlu ffrydiau ariannu a deilliannau clir. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Bydd arian ychwanegol yn cael ei fuddsoddi dros y 3 blynedd nesaf i weithredu'r cynllun. Bydd cyfanswm o £1.845 miliwn yn cael ei ddyrannu yn 2022 i 2023 (cynnydd o 1 miliwn) gyda chynnydd pellach o £500,000 yn 2023 i 2024 a £2 miliwn yn 2024 i 2025. Bydd y cyllid hwn yn cael ei flaenoriaethu i gefnogi amcanion y cynllun, sy’n cynnwys hyfforddiant gweithlu.
  2. Mae cyllid arall hefyd yn cael ei flaenoriaethu i gefnogi datblygiad ieithyddol y gweithlu addysg megis y Cynllun Sabothol a chyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yn ogystal, mae cyllid yn cael ei neilltuo i gefnogi twf yn nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg trwy’r Cynllunio Pontio a chymhelliannau Addysg Gychwynnol Athrawon. Nid yw awdurdodau lleol yn derbyn y cyllid hwn ond byddai’r cyllid hwn yn eu cynorthwyo i wireddu eu cynlluniau. 
  3. Byddai gwaith i gyrff llywodraethu ysgolion i bennu categori ieithyddol yr ysgol bob 5 mlynedd, i’w drafod gyda’r awdurdod lleol. Mae cyrff llywodraethu eisoes yn gwneud hyn yn flynyddol dan y drefn bresennol.
  4. Yn ôl y cynnig hwn, byddai dyletswydd ar ysgolion i gyhoeddi cynllun cyflawni yn adrodd sut y byddant yn mynd ati i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg.
Costau ar Awdurdodau Lleol
  1. Byddai awdurdodau lleol â rôl gymeradwyo dros bennu categorïau ysgolion, ac er mwyn iddynt wneud hyn, byddai angen iddynt gael darlun eglur o sefyllfa ieithyddol pob ysgol yn yr ardal. Byddai hyn yn cynnwys ysgolion gwirfoddol ac ysgolion sefydledig. Byddai’r broses yn digwydd bob 5 mlynedd. Byddai awdurdodau lleol yn cyllido hyn fel rhan o’u pecyn cefnogaeth i ysgolion.
  2. Byddai costau ar awdurdodau lleol i fonitro bod ysgol yn:
    • Darparu addysg yn unol â’r categori ieithyddol a bennwyd
    • Gwneud cynnydd tuag at y targed a osodwyd arni, o ran gwneud cynnydd oddi fewn i gategori neu’n symud i gategori uwch
    Sail y gwaith monitro hwn fyddai’r cynllun cyflawni y byddai pob ysgol yn ei baratoi. Byddem yn disgwyl i’r ysgol a’r awdurdod drafod y cynllun yn rheolaidd.
  3. Fel rhan o hyn, byddai trafodaethau rhwng llywodraethwyr, arweinwyr ysgol, athrawon a rhieni a swyddogion awdurdod lleol am gynllun cyflawni ysgolion a sut y byddant yn mynd ati i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg. Disgwylir i swyddogion awdurdod lleol sy’n gweithio ar y CSCA yn bresennol gyflawni hyn, felly byddai hyn yn gost cyfle.
  4. Ni fyddai gofyniad i adeiladu ysgolion newydd mewn ymateb i’r cynnig hwn, felly ni fyddai hyn yn esgor ar gostau ychwanegol. 
Costau ar Estyn
  1. Byddai Estyn yn ystyried cynllun cyflawni ysgol wrth arolygu ysgolion yn unol â’r cylch arolygu arferol. Byddai hyn yn digwydd fel rhan o weithgareddau mae Estyn eisoes yn eu cynnal. Ni fyddai cost ychwanegol ar gyfer hyn.

Buddion ac anfanteision

  1. Byddai’r cynnig hwn yn arwain at fwy o ddisgyblion mewn addysg statudol ledled Cymru yn cael mwy o ddarpariaeth Gymraeg. Byddai’n gwneud hyn trwy wella mynediad disgyblion at addysg cyfrwng Cymraeg ym mha bynnag ardal mae disgybl yn byw, a sicrhau bod y ddarpariaeth Gymraeg ym mhob ysgol yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Gallai greu cymunedau mwy cydlynus wrth i ddisgyblion ledled y wlad, wella eu sgiliau Cymraeg. Yn ei dro, y bwriad fyddai cynyddu’r cyfleoedd i bobl ymwneud a chyfathrebu â’i gilydd yn y Gymraeg, mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol, gan gynnwys y gweithle.
  2. Yn y tymor hir, byddai’r cynnig yn cyfrannu at wella sgiliau’r gweithlu, gan gynnwys y gweithlu addysg, gyda mwy o ddisgyblion yn mynd i’r gweithle gyda gwell sgiliau Cymraeg.
  3. O gymharu â’r gyfundrefn anstatudol bresennol, byddai cyfundrefn gategoreiddio statudol yn sail gadarn i fonitro perfformiad ysgolion wrth wireddu gofynion eu categori, ac yn rhoi cyd-destun clir ar gyfer y targedau cynnydd a fydd yn cael eu gosod yn y Cynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg.
  4. Gallai’r cynnig arwain at fwy o unffurfedd a dealltwriaeth gytûn o fewn ac ar draws awdurdodau lleol ynghylch categorïau ieithyddol ysgolion.
  5. Cyhoeddwyd canllawiau categoreiddio anstatudol yn 2007 a chategorïau anstatudol newydd yn 2021, felly gallai’r newid pellach roi baich ychwanegol ar randdeiliaid.
  6. Gallai’r cynnig roi’r argraff i gyrff llywodraethu bod eu pŵer yn cael ei leihau a bod categori neu darged o ran symud i gategori ieithyddol uwch yn cael ei osod arnynt yn erbyn eu hewyllys. Byddai angen sicrhau bod trefniadau clir ar gyfer trafodaethau eglur ac agored rhwng awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion.

Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg

  • Rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio cynllun cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg, a’i adolygu ym mhob tymor Seneddol.

  • Gweinidogion Cymru i barhau i bennu targedau ynghylch nifer yr athrawon tybiedig sydd eu hangen er mwyn hwyluso’r twf mewn addysg Gymraeg. 

  • Gweinidogion Cymru i bennu targedau o ran cynyddu nifer y dysgwyr sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.

Cost

  1. Byddai cost weinyddol ar Lywodraeth Cymru i greu cynllun cenedlaethol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg bob 10 mlynedd, i’w adolygu ym mhob tymor Seneddol. Byddai hyn yn gost cyfle gan y byddai’n rhan o waith swyddogion presennol yn para cyfnod 6 i 18 mis, gan gynnwys sgopio ac ymgynghori.
  2. Rhagwelir y byddai angen yr adnodd canlynol:
Cost ar Lywodraeth Cymru

Gradd staff

Nifer Hyd Cost
SEO 1 6 mis £33,182
SEO 1 12 mis £66,364
SEO 1 18 mis £99,546
Gradd 7 1 6 mis £43,365.50
Gradd 7 1 12 mis £86,731
Gradd 7 1 18 mis £130,096.50
  1. Yn ogystal, byddai buddsoddiad amser ymgysylltu gyda swyddogion eraill o fewn Llywodraeth Cymru, ynghyd ag amser Dirprwy Gyfarwyddwr.
  2. Byddai cost ar gyfer gwneud dadansoddiadau o’r data er mwyn pennu targedau cenedlaethol ar gyfer awdurdodau lleol. Mae’n debygol y byddai’r gwaith hwn yn cael ei wneud yn fewnol gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Rhagwelir y byddai hyn yn golygu pythefnos yr un i ddwy swydd SEO (cost o £66,364 yr un y flwyddyn), a deuddydd o amser Gradd 7 (cost o £86,731 y flwyddyn).
Cost ar Lywodraeth Cymru

Gradd staff

Nifer Cost
SEO 2 £5,105
Gradd 7 1 £667
  1. Mae costau rhoi’r cynllun ar waith a’i fonitro wedi eu cynnwys yn adran cynllunio’r Gymraeg mewn addysg mewn awdurdodau lleol.

Buddion ac anfanteision

  1. Byddai’r cynnig hwn yn cefnogi nod Cymraeg 2050 ar gyfer addysg statudol o ‘[g]reu system addysg statudol sy’n cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg hyderus’ trwy roi cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth glir i awdurdodau lleol am y disgwyliadau sydd arnynt i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg. Byddai’n creu dolen gyswllt rhwng y targed o filiwn o siaradwyr a Chynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg yr awdurdodau lleol. Byddai’r cynnig yn ymateb i’r neges sydd wedi ei rhoi mewn fforymau addysg sirol gan awdurdodau lleol eu bod yn croesawu arweiniad strategol gan Lywodraeth Cymru yn y maes. Byddai’r cynnig hefyd yn cyflwyno i awdurdodau lleol a’r cyhoedd ddarlun mwy cynhwysfawr o’r disgwyliadau ar awdurdodau lleol er mwyn gwneud cynnydd yn y ganran o ddisgyblion sy’n cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
  2. Byddai’r cynnig yn creu un system gydlynol o ddysgu a chaffael y Gymraeg, gan uno’r holl elfennau a sicrhau bod yr holl bartneriaid yn y maes yn gweithio tuag at un nod. Byddai’n rhoi arweiniad i’r sawl sydd yn rhoi cefnogaeth i’r system addysg o ran caffael a dysgu’r Gymraeg a thrwy hyn, gosod y seiliau ar gyfer hwyluso’r daith ieithyddol ar gyfer ysgolion a disgyblion Cymru.
  3. Byddai’r cynnig yn arwain at ddysgwyr, beth bynnag fo’u hoedran, yn gallu parhau i ddysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg gydol oes.
  4. Gall y cynnig hwn, yn ei dro, gyfrannu at yr agenda trechu tlodi drwy roi sgiliau Cymraeg i ddisgyblion na fyddent o bosibl wedi cael y cyfle i’w datblygu heb y cynnig hwn. O ganlyniad, mae'n bosibl y bydd y disgyblion hyn yn gallu ymgeisio am swyddi lle mae'r Gymraeg yn ddymunol neu'n hanfodol, gan eu galluogi i fanteisio ar ran o'r farchnad lafur na fyddai fel arall wedi bod yn agored iddynt.
  5. Byddai’r cynnig hwn yn cyfrannu at hybu’r Gymraeg ym mhob ardal.

Cynllunio’r Gymraeg mewn addysg mewn awdurdodau lleol

  • Diwygio’r system o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA)

  • Gweinidogion Cymru i osod targedau yn y Cynllun Cenedlaethol ynghylch cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob awdurdod lleol.

  • Newid enw’r CSCA i Gynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg (CGCA)

  • Cyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol i adolygu eu CGCA ar ôl 5 mlynedd i alinio gydag adroddiad cynnydd 5 mlynedd y Cynllun Cenedlaethol.

  • Gweinidogion Cymru i gomisiynu adolygiad allanol o gynnwys CGCA drafft pan eu bod yn ystyried yn briodol.

  • Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i bennu targedau 10 mlynedd yn eu CGCA arfaethedig, a’u hadolygu bob 5 mlynedd, ar gyfer cynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

  • Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i bennu targedau 10 mlynedd yn eu CGCA arfaethedig, a’u hadolygu bob 5 mlynedd, ar gyfer cynyddu nifer yr ymarferwyr â sgiliau iaith Gymraeg ar sail dadansoddiad o’r data perthnasol yn y CBGY.

  • Awdurdodau lleol i gyhoeddi eu hadroddiadau adolygu blynyddol.

  • Gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi adroddiad cenedlaethol o gynnydd yn erbyn y targedau yn y Cynllun Cenedlaethol bob blwyddyn.

  • Rhoi swyddogaeth i Estyn gynnal adolygiad chwim a chynnig argymhellion mewn sefyllfaoedd lle mae’n ymddangos bod risg na fydd awdurdod yn gwireddu ei dargedau.

Cost

  1. Mae’r costau ar gyfer cynlluniau presennol awdurdodau lleol wedi eu rhannu’n dair rhan, yn disgyn ar Lywodraeth Cymru ac ar awdurdodau lleol:
  • Costau gweinyddu Llywodraeth Cymru
  • Costau ar awdurdodau lleol - costau sy’n ymwneud â pharatoi’r cynlluniau a chostau rhoi’r cynlluniau ar waith
Costau Llywodraeth Cymru
  1. Byddai’n ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno eu cynlluniau drafft i’w cymeradwyo a byddai’r cynlluniau’n cael eu monitro’n flynyddol ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo. Byddai hyn yn ymofyn neilltuo staff Llywodraeth Cymru i oruchwylio’r broses o gyflwyno cynlluniau ac ymgymryd â’r broses gymeradwyo a monitro.
  2. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweinyddu system Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ers 2013 felly mae ganddi ddealltwriaeth gadarn yn seiliedig ar dystiolaeth o’r lefelau staffio sydd eu hangen i ymdrin â’r system. Mae’r tasgau sy’n cael eu gwneud gan staff Llywodraeth Cymru yn cynnwys asesu pob cynllun drafft unigol, rhoi adborth ysgrifenedig ac ar lafar i awdurdodau lleol, derbyn diweddariadau ar gynnydd a diwygiadau ac ymateb iddynt, a chynghori Gweinidogion ar gynnwys cynlluniau, ac ar y cynnydd a wnaed wrth fonitro eu hadroddiadau adolygu. Defnyddir tri swyddog SEO cyfwerth ag amser llawn ac un swyddog Gradd 7 cyfwerth ag amser llawn i weithio ar y cynlluniau. Mae’r costau staffio blynyddol cylchol presennol fel a ganlyn:
Costau Llywodraeth Cymru

Gradd staff

Nifer Cost Cyfanswm y gost (i’r £000 agosaf)
SEO 4 £66,364 £265,456
Gradd 7 1 £86,731  £86,731
    Cyfanswm: £352,187
  1. Byddai cost weinyddol ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ar sut i fanylu a dadansoddi sgiliau ieithyddol y gweithlu addysg. Mae’r gwaith o ddatblygu canllawiau yn digwydd eisoes mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol ac yn rhan fach o waith ehangach swyddogion, a mater o’u diwygio yn ôl yr angen fyddai hyn. Byddai hyn felly yn gost cyfle.
  2. O dan y cynnig, bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi adroddiad cenedlaethol o gynnydd yn erbyn y targedau yn y Cynllun Cenedlaethol bob blwyddyn. Byddai’r gwaith hwn yn cael ei wneud gan swyddogion Llywodraeth Cymru, felly ni fyddai gwariant cyllidol ychwanegol ond byddai hyn yn gost cyfle. Rhagwelir y byddai hyn yn golygu pythefnos yr un i ddwy swydd SEO, a deuddydd o amser Gradd 7.
Costau Llywodraeth Cymru

Gradd Staff

Nifer Cost
SEO 2 £5,105
Gradd 7 1 £667
  1. I grynhoi, felly, byddai costau cyfle yn gysylltiedig â chymeradwyo a monitro cynlluniau.             
  2. Mae costau Llywodraeth Cymru wrth bennu targedau yn y Cynllun Cenedlaethol ynghylch cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg yn cael eu trafod yn adran y Cynllun Cenedlaethol (gweler paragraff 52.)    
  3. Wrth i awdurdod lleol fynd trwy’r broses o ymgynghori ar gynllun a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru, yn ôl y cynnig, byddai Gweinidogion Cymru yn gallu comisiynu adolygiad annibynnol allanol o gynllun arfaethedig drafft. Byddai hyn mewn amgylchiadau penodol lle maent yn ystyried, yn dilyn asesiad o’r cynllun, y byddai’n fuddiol derbyn barn allanol annibynnol cyn penderfynu p’un a i gymeradwyo, cymeradwyo gydag addasiadau neu i wrthod cymeradwyo.
Costau ar awdurdodau lleol: Costau’n ymwneud â pharatoi cynlluniau
  1. Mae awdurdodau lleol yn neilltuo amser swyddogion i baratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg presennol, ac ymateb i adborth gan Lywodraeth Cymru. Caiff amser swyddogion ei neilltuo hefyd er mwyn helpu i roi’r cynlluniau ar waith yn eu hardal leol. Fel rheol, nid swydd llawn amser o fewn awdurdod lleol yw’r rôl hon. Yn seiliedig ar brofiad Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r awdurdodau lleol ers i’r trefniadau hyn gael eu rhoi ar waith, rydym yn amcangyfrif eu bod yn gofyn am amser swyddog SEO cyfwerth ag amser llawn ym mhob ardal awdurdod lleol am gyfnod o bedwar mis y flwyddyn yn fras.
  2. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyhoeddi eu cynlluniau. Maent yn tueddu i wneud hyn drwy eu cyhoeddi ar eu gwefannau eu hunain a gallant argraffu copïau ar gais os oes angen. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â hyn yn fach iawn ac nid yw rhan fwyaf yr awdurdodau lleol yn cyhoeddi copïau caled o’u cynlluniau fel rheol.
  3. Amcangyfrifir costau staffio cylchol y flwyddyn i awdurdodau lleol sy’n ymwneud â pharatoi cynlluniau a’u rhoi ar waith fel a ganlyn:
Costau ar awdurdodau lleol
Gradd Staff Nifer Cost (i’r £000 agosaf)
SEO 0.33 £21,900 x 22 (nifer yr awdurdodau lleol)

Cyfanswm

  £481,003
  1. Dan y cynnig hwn, byddai awdurdodau lleol yn adolygu eu cynlluniau gweithredu bob 5 mlynedd. Byddai disgwyl i hyn gael ei wneud gan swyddogion presennol awdurdodau lleol, yn yr un modd ag y byddant wedi adolygu eu cynlluniau 10-mlynedd. Mae costau gweithredu a fydd yn disgyn i awdurdodau lleol yn cael eu cwmpasu gan eu pecynnau cefnogaeth presennol. Mae cynllunio’r Gymraeg mewn addysg yn rhan o swyddogaethau addysg awdurdodau lleol, felly mae’n briodol i gostau o ran y Gymraeg fod yn rhan o unrhyw ystyriaethau lleol ynglŷn â sut i flaenoriaethau eu cyllidebau addysg. Mae Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ers 2019 wedi bod yn fodd i weld sut mae awdurdodau lleol yn ymateb i ddisgwyliadau cenedlaethol. Mae’r cynlluniau 10-mlynedd wedi cynrychioli symudiad i weithredu ar sail targedau a gyfrifir gan yr awdurdodau lleol ond sydd hefyd yn cael eu gyrru gan gerrig milltir Cymraeg 2050. Nid yw’r cynnig yn y Papur Gwyn, felly, yn cynnig newidiadau sylweddol i’r hyn y mae awdurdodau lleol eisoes wedi eu hystyried fel rhan o’u paratoadau CSCA presennol. Mae ymrwymiadau i barhau i ddarparu cyllid ychwanegol i’r Gymraeg i gefnogi awdurdodau lleol i weithredu eu cynlluniau.
  2. Mae eisoes dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynhyrchu adroddiadau adolygu blynyddol o darn y drefn bresennol. Byddai hyn yn parhau o dan y drefn newydd. Yn ogystal, o dan y cynnig hwn, byddai disgwyl i awdurdodau lleol gyhoeddi eu hadroddiadau blynyddol. Yn debyg i gyhoeddi’r CSCA presennol, byddai’r costau sy’n gysylltiedig â hyn yn fach iawn.
  3. Yn gysylltiedig â chynnig y gweithlu addysg, byddai costau’n disgyn ar awdurdodau lleol i bennu unigolion i ymgymryd â phroses flynyddol o ddadansoddi’r data a gesglir trwy’r Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgolion (er mwyn pennu targedau fel rhan o’r cynllun a monitro cynnydd blynyddol). Fodd bynnag, mae eisoes yn ofyniad ar ysgolion i gasglu data a’i gyflwyno i awdurdodau lleol o dan Reoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth am y Gweithlu Ysgolion) (Cymru) 2017. Yn ogystal, o dan y CSCA presennol mae gofyniad i’r awdurdodau lleol i ddadansoddi’r data, ond mae hyn yn cael ei wneud mewn gwahanol ffyrdd.
  4. Byddai angen i awdurdodau lleol fuddsoddi amser er mwyn paratoi’r cynlluniau gweithredu, fel y maent yn ei wneud ar gyfer y CSCA. I grynhoi, felly, ni chredwn y byddai dilyn y cynigion yn y Papur Gwyn yn cael effaith ar gostau paratoi cynlluniau, gan eu bod yn cyflwyno fframwaith newydd, yn hytrach na newid sylweddol.
Costau ar awdurdodau lleol: Costau rhoi’r cynlluniau ar waith
  1. Unwaith y bydd y cynlluniau wedi’u cymeradwyo gan Weinidogion Cymru dylent gael eu rhoi ar waith gan awdurdodau lleol.
  2. Mae costau’n gysylltiedig â chynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Gall y costau hyn gynnwys adeiladu ysgolion newydd neu redeg canolfannau trochi. Fodd bynnag, dylid ystyried hyn fel gwariant ar y system addysg yn hytrach na gwariant ar gyflwyno polisi iaith Gymraeg. Mae gwariant ar gynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, i raddau, yn disodli gwariant a fyddai wedi cael ei wario fel arall ar addysg drwy gyfrwng y Saesneg. Os yw awdurdod lleol yn creu llefydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â’i gynlluniau i gwrdd â tharged ond does neb yn ymgeisio am y llefydd hynny, gan greu llefydd dros ben, mae risg o gostau ychwanegol.
  3. Caiff cyllid ar gyfer addysg oedran statudol mewn ysgolion yng Nghymru, fel yn achos gwasanaethau eraill a ddarperir gan lywodraeth leol, ei ddarparu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru drwy’r setliad refeniw llywodraeth leol (y Grant Cynnal Refeniw). Nid yw’r cyllid wedi’i glustnodi’n benodol, gan fod Llywodraeth Cymru o’r farn mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i farnu anghenion ac amgylchiadau lleol ac ariannu ysgolion yn unol â hyn.
  4. Bydd Cynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg yn helpu awdurdodau lleol i nodi anghenion a phenderfynu sut i gynllunio eu gwariant ar ysgolion. Ar ôl i’r Grant Cynnal Refeniw gael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol, yr awdurdodau unigol sy’n gyfrifol am bennu cyllidebau ar gyfer eu hysgolion drwy ddefnyddio fformiwla ariannu leol. Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i 70% o’r cyllid ar gyfer cyllidebau ysgolion gael ei ddosbarthu yn unol â un neu ragor o ddulliau sy’n ymwneud a niferoedd disgyblion.
  5. Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i ddosbarthu’r 30% sy’n weddill ar sail amrywiaeth o ffactorau er mwyn iddynt ystyried amgylchiadau ysgolion unigol. Wrth bennu eu fformiwla gyllid, gall awdurdodau lleol ystyried p’un a yw disgybl yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a chyllido ysgolion yn unol â hynny, gan ystyried y costau sy’n gysylltiedig â darparu’r un gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
  6. Felly, ar awdurdodau lleol y mae’r ddyletswydd i sicrhau bod pob darpariaeth addysgu addas ar gael i bob plentyn a nhw yn unig sy’n penderfynu ar y swm o gyllid a neilltuir gan bob awdurdod lleol ar gyfer cyllidebau ysgolion.  
  7. Mae Grant y Gymraeg mewn Addysg (cyfanswm o £6.7 miliwn trwy gyfraniad Llywodraeth Cymru a chyllid cyfatebol awdurdod lleol) ar wahân i’r Grant Cynnal  Refeniw ac yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol neu’r consortia rhanbarthol i gefnogi datblygiad y Gymraeg mewn ysgolion. Mewn rhai siroedd, caiff ei wario ar ganolfannau trochi neu ddarpariaeth trochi hwyr o fewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mewn siroedd eraill, caiff ei wario’n bennaf ar gefnogi dysgu Cymraeg mewn ysgolion Saesneg a hyfforddiant i ddatblygu ymarferwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Byddai disgwyl i’r cyllid hwn barhau i fod ar gael i gefnogi datblygiad ymarferwyr yn ogystal â’r cyllid arall sy’n cael ei ddyrannu i randdeiliaid eraill i gefnogi datblygiad iaith ymarferwyr ac i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg (gweler paragraff 34).
  8. Felly dylid ystyried y broses o roi Cynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg ar waith a’r costau sy’n gysylltiedig â hynny yng nghyd-destun ehangach cyllido system addysg yr awdurdod.
  9. Ni fyddai’r cynnig ei hun yn arwain at sefyllfa lle mae’n rhaid i awdurdodau addysgu mwy o blant na phenodi ymarferwyr ychwanegol yn y tymor byr, gan na fyddai’n effeithio ar dueddiadau poblogaeth na demograffig. Fodd bynnag, byddai angen cynllunio sut i symud tuag at fwy o leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a mwy o ymarferwyr sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg i ddiwallu’r angen dros amser.
  10. Mae costau cyfalaf i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hamsugno trwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Dyrennir hefyd cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i gefnogi canfyddiadau eu hadolygiadau o dan Adran 63 y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 i wella darpariaeth iaith Gymraeg ar gyfer pobl gydag anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer cynllunio’r gweithlu o fewn y sector anghenion dysgu ychwanegol.
Cost ar Estyn
  1. Wrth i Weinidogion Cymru fonitro cynnydd awdurdodau lleol yn erbyn eu targed, os oes patrwm o dangyflawni’n ymddangos dros gyfnod o amser, yn ôl y cynnig hwn, byddai Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud cais i Estyn i gynnal adolygiad chwim o’r awdurdod lleol a gwneud argymhellion i’r awdurdod lleol a/neu Weinidogion Cymru ynghylch y camau y dylid eu cymryd. Amcangyfrifir cost o £23,500 y flwyddyn ar gyfer hyn.

Buddion ac anfanteision

  1. Byddai’r cynnig hwn yn gwella eglurder ynghylch gofynion Gweinidogion Cymru ac awdurdodau lleol, â Gweinidogion Cymru yn cynllunio cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol ar lefel strategol, ac awdurdodau lleol yn dangos sut maent yn cynllunio ac yn gweithredu i’w gwireddu.
  2. Bydda’r cynnig hwn yn gwella tryloywder o ran y prosesau o osod targedau, casglu data a chytuno cynlluniau.
  3. Byddai’r cynnig hwn yn ehangu mynediad disgyblion ledled Cymru at addysg cyfrwng Cymraeg, pa bynnag ardal yng Nghymru maent yn byw ynddi, ac yn cynyddu nifer y disgyblion sy’n datblygu sgiliau Cymraeg. Byddai’r cynnig hwn yn sicrhau cyfleoedd cynhwysol o ran y gallu i gael darpariaeth Gymraeg, a allai, yn eu tro, arwain at well cydlyniant cymunedol ledled Cymru.
  4. Gallai gynyddu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg ganiatáu i ddisgyblion aros yn eu cymunedau a chwtogi ar deithio.

Dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol

  • Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg i rieni a gofalwyr.

  • Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo darpariaeth trochi hwyr i rieni, gofalwyr a disgyblion.

  • Holi barn am y syniad o osod dyletswydd ar awdurdodau i ddarparu trochi hwyr i ddisgyblion.

Cost

  1. Byddai gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ac i ddarparu a hyrwyddo addysg drochi hwyr yn gosod dyletswyddau ynghlwm wrth amcanion sydd eisoes wedi eu mynegi yn Cymraeg 2050. Ni ragwelir y byddai cost ychwanegol yn deillio o wneud hyn. Er mwyn cyflawni’r dyletswyddau hyn, byddai awdurdodau lleol yn defnyddio cyllid maent eisoes yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth Gymraeg trwy’r Grant Gwella   Addysg neu’r Grant Cynnal Refeniw, a amlinellir ym mharagraffau 34 a 76 i 80 ac 83.
  2. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £6.6 miliwn o gyllid refeniw dros gyfnod y Senedd hon i gefnogi pob awdurdod lleol i ddatblygu neu ehangu eu darpariaeth trochi hwyr. Mae darpariaethau trochi hwyr awdurdodau lleol wedi bod yn cael eu hariannu gynt trwy Grant y Gymraeg mewn Addysg neu’r Grant Cynnal Refeniw felly mae’r cyllid refeniw hwn yn cynnig cyfle i awdurdodau lleol ail-bwrpasu’r cyllid o’r Grant Cynnal Refeniw i gefnogi ysgolion newydd lle bo’n briodol.
  3. Mae Gweinidogion Cymru yn darparu £106 miliwn yn flynyddol i ddarparu cludiant o’r cartref i’r ysgol. Mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio’r dyraniad hwn i ariannu disgyblion sy’n teithio i ganolfannau trochi neu i’r ysgol.

Buddion ac anfanteision

  1. Byddai’r cynigion hyn yn gosod sail gref i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau uchelgeisiol am addysg cyfrwng Cymraeg.
  2. Byddai’r cynigion yn cynorthwyo rhieni a gofalwyr i ddeall yr opsiynau sydd ar gael iddynt o ran iaith addysg eu plant.
  3. Petai dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu darpariaeth trochi hwyr, byddai hyn yn rhoi sicrwydd i rieni a gofalwyr y bydd y ddarpariaeth ar gael, os yw Llywodraeth Cymru yn ei ariannu drwy grant neu beidio. Byddai’n sicrhau bod disgyblion yn gallu manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg ar wahanol bwyntiau mynediad. 

Cefnogaeth i wireddu amcanion y Bil

  • Canoli cefnogaeth arbenigol ar gyfer dysgu’r Gymraeg gydol oes, gan gynnwys addysg ysgolion, o fewn un sefydliad.

  • Ystyried ehangu rôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, neu fodel arall, i ymgymryd â’r swyddogaeth.

  • Ystyried gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i warantu bod digon o ddarpariaeth dysgu Cymraeg a strwythurau addas mewn lle i gefnogi dysgwyr o bob oed yng Nghymru.

Cost

  1. Byddai cost y cynnig ynghylch canoli’r gefnogaeth dysgu Cymraeg yn dibynnu a natur a ffurf y corff a fyddai’n cael ei ddatblygu i gynyddu’r gefnogaeth arbenigol sydd ar gael o ran caffael a dysgu’r Gymraeg. Mae gwaith pellach i’w wneud o ran y cynnig hwn. Byddwn yn ystyried pa fodel fyddai fwyaf addas, a bydd asesiad o gostau a buddion perthnasol opsiynau yn rhan o’r gwaith hwn.
  2. Mae’r cynigion ynghylch canoli’r gefnogaeth dysgu Cymraeg wedi eu llunio gyda’r bwriad eu bod yn cael eu gwireddu y tu allan i’r Bil.
  3. Bydd costau i Weinidogion Cymru ynghlwm â’r cynigion i sicrhau fod yna ddigon o ddarpariaeth dysgu Cymraeg ar gael i gefnogi dysgu Cymraeg i ddysgwyr o bob oed yng Nghymru; a sicrhau bod strwythurau addas yn cael eu rhoi yn eu lle i gefnogi dysgu’r Gymraeg. Byddwn yn ystyried costau, buddion ac anfanteision wrth wneud gwaith pellach i ystyried hyd a lled unrhyw ddyletswyddau ar Weinidogion Cymru.

Cwestiynau

Noder: Mae rhifau’r cwestiynau yn dilyn y cwestiynau a ofynnir yn y brif ddogfen ymgynghori.

  • Cwestiwn Ymgynghori 30: Ydych chi’n cytuno gyda’n dehongliad ni o’r grwpiau a’r cyrff sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau? A oes grwpiau neu gyrff eraill yn dod o fewn cwmpas y newidiadau ar wahân i’r grwpiau a’r cyrff a nodir yn yr amlinelliad o gostau ac effeithiau a fydd yn sail i Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Addysg Gymraeg?
  • Cwestiwn Ymgynghori 31: Ar wahân i’r grwpiau a’r cyrff a nodir yn yr amlinelliad o gostau ac effeithiau a fydd yn sail i Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Addysg Gymraeg, ar ba grwpiau neu gyrff fyddai’r costau’n disgyn?
  • Cwestiwn Ymgynghori 32: Beth yw’r effeithiau eraill (ariannol ac anariannol) sy'n ymwneud â'r ddeddfwriaeth arfaethedig nad ydynt wedi'u hamlinellu yn yr amlinelliad o gostau ac effeithiau a fydd yn sail i Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Addysg Gymraeg?  
  • Cwestiwn Ymgynghori 33: A oes unrhyw sylwadau eraill ar yr amlinelliad o gostau ac effeithiau a fydd yn sail i Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Addysg Gymraeg?

Rhestr gyfeiriadau gychwynnol