Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

  1. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 wedi amlygu’r angen i ni weithredu’n bwrpasol er mwyn mynd i’r afael â’r her ddeublyg o dyfu niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg ar draws Cymru a gwarchod cymunedau Cymraeg sydd â chanrannau uchel o siaradwyr Cymraeg ond sy’n dangos gostyngiad.
  2. Mae gan y system addysg rôl annatod i’w chwarae wrth i ni ymateb i’r heriau hyn. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd yng Nghymru lle bynnag yr ydym ar y continwwm ieithyddol. Mae pob disgybl yng Nghymru felly yn haeddu dod yn siaradwr Cymraeg, ac mae cyfrifoldeb arnom ni oll sy’n gweithio yn y system addysg i weithio tuag at y nod hynny.
  3. Mae cynigion y papur hwn yn adlewyrchu’r nod ac uchelgais newydd yma ar gyfer ein system addysg. Bydd gwireddu hyn yn golygu cynyddu’r nifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg, ond hefyd, cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion sydd ddim eisoes yn ysgolion cyfrwng Cymraeg penodedig. Yn sylfaenol, rydyn ni am i bob disgybl ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg statudol.
  4. Rydym yn ymrwymo i sicrhau dros amser bod pob plentyn yn derbyn cyfran o’u darpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg y tu hwnt i’r Gymraeg fel pwnc, er mwyn meithrin sgiliau Cymraeg ar draws y cwricwlwm.
  5. Mae’r taflwybr presennol a osodwyd gan 'Cymraeg 2050' yn 2017 yn gosod nod bydd o leiaf 40% o holl ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.
  6. Fel rhan o’r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Plaid Cymru, bydd y Llywodraeth hefyd yn cynnal astudiaeth dechnegol llawn ynghylch y taflwybr gyda mewnbwn arbenigol i gyd-fynd gyda’r uchelgais newydd fydd y ganolog i’r Bil. Bydd yr astudiaeth yn ystyried taflwybr mwy serth ar gyfer 2050 a thu hwnt sy’n modelu ar gyfer 50% o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050. Bydd gofyn i randdeiliaid rannu barn ar y gwaith yma ar ôl iddo gael ei gyflawni.
  7. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac felly rydym am annog pawb i ystyried y cynigion yn y papur yma. Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos, hyd at 16 Mehefin 2023. Rydym yn edrych ymlaen at glywed barn ystod eang o bobl ar ein cynigion.

Jeremy Miles AS
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyflwyniad

Caiff y cynigion yn y Papur Gwyn hwn ar gyfer y Bil Addysg Gymraeg eu cyflwyno yng nghyd-destun yr her sylweddol y mae strategaeth Cymraeg 2050, a’r targed o filiwn o siaradwyr, yn ei osod. Mae hyn yn galw am newidiadau trawsnewidiol i’r ffordd yr ydym yn meddwl am y Gymraeg a rôl addysg oddi fewn i hynny.

  1. Rydym am gyflwyno rhaglen uchelgeisiol o newid sydd yn gofyn am weithredu ar sawl lefel. Mae gan ddeddfwriaeth gyfraniad pwysig i’w chwarae wrth osod y seiliau ar gyfer gwireddu’r newid. Ond pwysig yw nodi mai un rhan o’r darlun yw deddfwriaeth, a bydd gan weithgareddau ac ymyraethau eraill megis polisïau ar draws y maes addysg, ariannu, ymgysylltu a newid ymddygiad gyfraniad allweddol i’w chwarae.
  2. Yn y cyd-destun yma, rhaid hefyd wynebu realiti yr heriau sy’n bodoli o ran:
  • yr angen i dyfu gweithlu addysg sydd â’r sgiliau iaith angenrheidiol i’n galluogi i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a gwella deilliannau ieithyddol dysgwyr ym mhob ysgol
  • rhagamcanion poblogaeth plant sy’n debygol o fod yn statig dros y degawdau nesaf
  • ffactorau lleol gan gynnwys natur ieithyddol amrywiol, dwysedd poblogaeth, daearyddiaeth a mannau cychwyn gwahanol o ran argaeledd a graddfeydd twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg
  • sgiliau Cymraeg dysgwyr nad ydynt mewn addysg cyfrwng Cymraeg

Rhoi’r ffocws ar ddeilliannau ieithyddol

  1. Er mwyn llwyddo rydym yn cynnig camau uchelgeisiol a chynaliadwy sy’n ymateb i’r heriau uchod mewn dull un-system, sy’n cydnabod mai disgyblion heddiw fydd siaradwyr Cymraeg, athrawon a gweithlu Cymraeg yfory. Rydym yn cydnabod bod y system addysg gyfredol yn arwain at ddeilliannau ieithyddol tra gwahanol yn ddibynnol ar gyfrwng yr addysg. Rydym am i’r system addysg gofleidio’r Gymraeg fel iaith sy’n perthyn i holl ddisgyblion Cymru. Felly rydym yn cynnig yn y Papur hwn gamau fydd yn lleihau’r bwlch o ran deilliannau ieithyddol.
  2. Cynigiwn felly fod angen ffocws clir a phendant ar ddeilliannau ieithyddol disgyblion a taw hynny ddylai fod yn brif egwyddor drefniadol ar gyfer y rhaglen hwn o waith a’r cynigion ar gyfer Bil. Bydd gwneud hynny’n rhoi neges eglur i’r holl gyfundrefn addysg, ac ysgolion ymhob categori ieithyddol, o’r angen i wella deilliannau ieithyddol pob disgybl.
  3. Gan hynny, cynigiwn mai’r deilliant ieithyddol sydd wrth wraidd ein huchelgais ar gyfer y system addysg erbyn 2050 yw fod pob disgybl yn gadael addysg statudol yn gallu siarad Cymraeg yn hyderus. Cynigiwn mai’r nod ar gyfer hynny fydd, fel isafswm, lefel sy’n gyfystyr â lefel B2 Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR). (Continwwm sgiliau iaith rhyngwladol yw’r CEFR. Cyflwynir cynigion yn y papur hwn ynghylch creu continwwm sgiliau ar gyfer y Gymraeg sy’n efelychu’r CEFR.)
  4. Cynigiwn y bydd y deilliant ieithyddol hwn yn isafswm ar gyfer 2050, ac yn nod i’r holl ddysgwyr pa bynnag gategori ieithyddol yw eu hysgolion.
  5. Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i bob disgybl ddysgu’r Gymraeg. Yr allwedd ar gyfer dysgu iaith yw’r oriau cyswllt y mae’r dysgwr yn eu derbyn wrth ei dysgu a’i defnyddio, ynghyd â dysgu neu addysgu safonol ac arweinyddiaeth glir.
  6. Addysg cyfrwng Cymraeg sydd, ac fydd yn parhau, i roi’r cyfle gorau a’r llwybr cyflymaf i ddod yn siaradwr Cymraeg. Rydym felly yn cynnwys cynigion yn y Papur hwn i gryfhau’r system ar gyfer cynllunio twf yn y nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac felly, y nifer y disgyblion sy’n eu mynychu.
  7. Ond er mwyn caniatáu i bob disgybl, ym mhob ysgol, ddod yn siaradwr Cymraeg, ac i gau’r bwlch rhwng deilliannau ieithyddol yn ddibynnol ar gyfrwng yr addysg, rydym yn cynnwys cynigion yn y Papur i gynyddu dros amser y gofynion o ran cyfran o bob wythnos a gaiff ei neilltuo i ddarpariaeth Gymraeg yn ôl categori ieithyddol.
  8. Credwn fod gosod disgwyliadau rhesymol ond heriol sy’n cynyddu dros amser yn fodd cynaliadwy o gyrraedd y nod gan roi cyfle i gynllunio ddigwydd ar sawl agwedd allweddol yn gydamserol. Yn hollol greiddiol i hynny fydd cynllunio i gynyddu ein gweithlu Cymraeg yn y sector addysg.

Y cynigion yn y Papur Gwyn hwn

  1. Rydyn ni wedi ymrwymo yn y Rhaglen Lywodraethu, ac yn y Cytundeb Cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, i gyflwyno Bil Addysg Gymraeg yn ystod tymor presennol y Senedd hon.
  2. Bwriad y cynigion yn y Papur Gwyn hwn yw gofyn am farn ynghylch cynigion ar gyfer y Bil. Mewn rhai mannau gwneir cynigion y gellir eu gwireddu heb ddeddfu. Maent wedi eu cynnwys yn y Papur hwn gan eu bod yn greiddiol i’r cynigion deddfwriaethol.
  3. Mae’r penodau sy’n dilyn yn ymwneud â’r themâu canlynol. Gyda rhai eithriadau, mae’r prif gynigion yn ymwneud â’r system addysg statudol (3 i 16 oed), ond pwysig yw nodi bod ein gweledigaeth o ran dysgu a chaffael y Gymraeg yn un gydol oes:
  • Pennod 1: Gwneud y targed miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged statudol a gwneud darpariaeth ynghylch deilliant ieithyddol i ddysgwyr drwy’r system addysg.
  • Pennod 2: Continwwm sgiliau Cymraeg gydol oes.
  • Pennod 3: Sefydlu cyfundrefn statudol i gategoreiddio ysgolion yn ôl cyfrwng iaith a chreu mecanwaith i symud ysgolion i gategori uwch.
  • Pennod 4: Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg.
  • Pennod 5: Cynllunio’r Gymraeg mewn addysg mewn awdurdodau lleol.
  • Pennod 6: Dyletswyddau ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol.
  • Pennod 7: Cefnogaeth i wireddu amcanion y Bil.

Pennod 1: Gwneud y targed miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged statudol a gwneud darpariaeth ynghylch deilliant ieithyddol i ddysgwyr drwy’r system addysg

Yn yr adran hon cyflwynwn gynnig ynghylch gwneud darpariaeth yn y Bil ar gyfer y targed nifer siaradwyr Cymraeg.

Mae’r system addysg am chwarae rhan hollbwysig wrth wireddu’r targed miliwn o siaradwyr, ac felly cynigiwn y dylid rhoi’r targed ar wyneb y Bil fel bod sail statudol iddo gan lywio penderfyniadau a wneir yn genedlaethol ac yn lleol ym maes cynllunio addysg.

Rydym hefyd yn cynnig y dylai’r system addysg fod yn anelu i bob dysgwr gyrraedd deilliant ieithyddol penodol erbyn eu bod yn gadael yr ysgol – a hynny fel isafswm ar lefel sy’n gyfystyr â B2 Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR).

  1. Mae Cymraeg 2050 yn strategaeth hirdymor, a bydd cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr yn galw am weithredu pwrpasol gan nifer o sefydliadau. O ystyried pwysigrwydd addysg i’r dasg o greu siaradwyr newydd, rydym am sicrhau bod yna gyswllt clir rhwng y targed o filiwn o siaradwyr a’r prosesau cynllunio ar gyfer tyfu addysg cyfrwng Cymraeg a chyrraedd y deilliannau ieithyddol y mae’r Bil yn ceisio eu cyflawni.
  2. Yng nghanllawiau 2021 ar gyfer y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, cydnabuwyd bod “gwella’r ffordd y caiff addysg cyfrwng Cymraeg ei chynllunio yn cyfrannu at gyflawni ein huchelgais genedlaethol hirdymor ar gyfer y Gymraeg a amlinellir yn ein strategaeth Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr”.
  3. Mae canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf wedi amlygu hyn eto fyth, ac mae’r Bil Addysg Gymraeg yn cynnig cyfle i gryfhau seiliau a statws y targed hwn. Y cynnig polisi yw y bydd y targed uchelgeisiol nid yn unig yn cael ei adlewyrchu mewn strategaeth, dogfen a all gael ei newid ar unrhyw adeg, ond hefyd mewn cyfraith sylfaenol. Bydd hynny’n adlewyrchu’r pwysigrwydd a roddir ar y targed a bod y targed yn llywio penderfyniadau hollbwysig a wneir ym maes cynllunio addysg.
  4. Cynigiwn y byddai cynnwys darpariaeth yn y Bil ynghylch y targed yn rhoi cyd-destun ac eglurder i’r hyn y mae’r Bil am gyflawni. Mae cyfleu mewn deddfwriaeth dargedau neu ddeilliannau mewn meysydd polisi penodol yn ddull o geisio sicrhau bod dyhead polisi hirdymor yn cael y sylw angenrheidiol gan gyrff perthnasol. Yr hyn sy’n gyffredin ynghylch y math yma o ddarpariaethau mewn deddfwriaeth yw eu bod wedi eu bwriadu i gael effaith gadarnhaol a hirdymor ar ymddygiad, hynny yw effaith sydd yn fwy pellgyrhaeddol na’r effaith gyfreithiol yn unig.
  5. Yn achos y targed o filiwn o siaradwyr, ac yng nghyd-destun penodol y system addysg, yr ymddygiad hirdymor yr ydym am ei weld yn lledaenu yw bod arweiniad clir, cynllunio bwriadus a gweithredu pwrpasol yn digwydd ar yr holl elfennau angenrheidiol sydd angen eu datblygu er mwyn cynyddu a gwella’r Gymraeg mewn addysg. Mae hynny’n cynnwys cyfrwng y dysgu ynghyd a dysgu a chaffael yr iaith gydol oes. (Manylir yn yr adran isod ar y deilliant ieithyddol y cynigiwn y dylai’r system addysg fod yn gweithio tuag ati erbyn 2050).
  6. Cynigiwn y dylai Gweinidogion Cymru ac awdurdodau lleol fod o dan ddyletswydd i roi sylw dyladwy i’r targed o filiwn o siaradwyr wrth arfer eu swyddogaethau yn y maes addysg. Byddai hynny yn fodd o wreiddio’r targed ym mhob agwedd o gynllunio addysg yng Nghymru.
  7. Byddai angen i ddarpariaeth mewn Bil ynghylch targed fod yn fesuradwy ac eglur. Fel y nodir yn strategaeth Cymraeg 2050, rydym yn ystyried mai’r cyfrifiad yw’r ffynhonnell awdurdodol ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a’r cyfrifiad yw sail ein huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru mewn deialog barhaus gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch dyfodol ystadegau yn ymwneud â’r Gymraeg.
  8. Bwriad creu darpariaethau ynghylch y targed miliwn o siaradwyr yn y Bil fyddai gosod cyd-destun clir i gyfraniad y system addysg tuag at y targed, newid ymddygiad a normaleiddio’r cysyniad fod y system addysg yn ei chyfanrwydd yn gwbl allweddol i’w wireddu.
Cwestiwn ymgynghori 1: Ydych chi’n cytuno y dylid cynnwys mewn Bil ddarpariaeth ynghylch y targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

Deilliant ieithyddol dysgwyr ar ddiwedd addysg statudol

  1. Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn cynnwys sawl cyfeiriad at gyfraniad y system addysg i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg.
  2. Fel y nodwyd eisoes yn y cyflwyniad, y deilliant ieithyddol rydym yn ceisio ei gyflawni – ac sy’n egwyddor drefniadol i’r cynigion yn y papur hwn – yw sicrhau, erbyn 2050, fod pob disgybl yn gadael addysg statudol yn gallu siarad Cymraeg yn hyderus. Rydym yn diffinio hynny, fel isafswm, ar lefel sy’n gyfystyr â B2 Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR). Ein bwriad yw clymu’r lefel ddisgwyliedig i lefel o fewn y continwwm sgiliau Cymraeg.
  3. Rydym yn meddwl bod cyfraniad awdurdodau lleol wrth weithio tuag at y deilliant yma o ran lefel disgwyliedig disgyblion yn elfen bwysig o’r darlun. Rydym yn ystyried y ffordd orau o wireddu hyn. Ein nod yw sicrhau bod y deilliant yn llywio penderfyniadau y mae’r awdurdodau lleol yn eu gwneud wrth gynllunio darpariaeth addysg y sir. Rydym yn awyddus i awdurdodau lleol hyrwyddo’n rhagweithiol gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg gan anelu i bob disgybl ddod yn hyderus yn siarad yr iaith erbyn eu bod yn gadael yr ysgol.
  4. Rydym hefyd yn cynnig bod y deilliant yn cael ei fabwysiadu’n llawn gan Weinidogion Cymru ym maes addysg, a’i gyfleu yn y Cynllun Cenedlaethol (gweler Pennod 4: Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg).
Cwestiwn ymgynghori 2: Ydych chi’n credu y dylai fod rôl bendant gan awdurdodau lleol i weithio tuag at y deilliant sy’n gyfystyr â lefel B2 erbyn 2050? Ac os felly, beth ddylai’r rôl honno fod?
Cwestiwn ymgynghori 3: Ydych chi’n credu y dylai fod rôl bendant gan Weinidogion Cymru i weithio tuag at y deilliant sy’n gyfystyr â lefel B2 erbyn 2050? Ac os felly, beth ddylai’r rôl honno fod?

Pennod 2: Continwwm sgiliau Cymraeg gydol oes

Mae gennym raglen eang o waith i droi’r cysyniad o gontinwwm sgiliau Cymraeg yn realiti. Yn yr adran hon cyflwynwn gynnig ynghylch gwneud darpariaeth yn y Bil am y continwwm.

  1. Ein bwriad yw sefydlu a gweithredu un continwwm o sgiliau Cymraeg fel bod gan ddysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr ddealltwriaeth gyffredin o’r daith i ddysgu’r Gymraeg a’r deilliannau ieithyddol disgwyliedig ar bob cam o’r daith honno. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn gweld y continwwm fel un llinell o sgiliau ieithyddol, a bydd modd mapio pob dysgwr a siaradwr (beth bynnag eu hoed a’u hyfedredd) ar y llinell honno. Wrth i sgiliau y dysgwr neu siaradwr gynyddu byddant yn symud ar hyd y llinell.

Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatgan y continwwm sgiliau Cymraeg

  1. Er mwyn sicrhau bod gan Gymru a’r Gymraeg fframwaith cyffredin a bod yr ieithwedd a ddefnyddir yn addas, cynigiwn y dylai’r Bil osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddiffinio’r continwwm sgiliau iaith Gymraeg, gan ddisgrifio gwahanol lefelau o hyfedredd. Y bwriad polisi y tu ôl i’r cynnig hwn yw byddai’r continwwm yn efelychu cysyniad y safonau rhyngwladol y mae’r Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin o ran lefelau iaith (a adnabyddir fel CEFR) yn ei gynnig. Byddai continwwm y Gymraeg yn sefyll ar ei draed ei hun fel continwwm sy’n bodloni gofynion Cymru a’r Gymraeg.
  2. Rydym wedi bod yn archwilio gyda rhanddeiliaid y buddion o gael eglurder o ran disgrifio lefelau iaith. Mae’r CEFR yn cynnig disgrifiadau cynhwysfawr, cydlynol a thryloyw o hyfedredd iaith a defnydd iaith ac mae hynny yn rhywbeth rydym yn cynnig y dylid ei efelychu yng Nghymru. Mae eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn rhai sectorau penodol yng Nghymru. Er enghraifft, mae lefelau dysgu iaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi eu seilio ar lefelau’r CEFR.
  3. Er ei fod yn offeryn defnyddiol ar gyfer rhoi arweiniad i ni yng Nghymru, cynigiwn y byddai budd mewn datblygu continwwm sgiliau penodol ar gyfer y Gymraeg a fyddai’n cael ei ddefnyddio fel sail i gynllunio a gwella darpariaeth dysgu Cymraeg gydol oes. Nid oes gwarant, wedi’r cyfan, y bydd y CEFR (a gaiff ei berchnogi gan Gyngor Ewrop) yn parhau fel ag y mae yn y tymor hir. Byddai’n fwy hwylus i gynllunio ar sail dogfennaeth a grëir yng Nghymru ar gyfer y Gymraeg yn benodol.
  4. O ystyried pa mor ganolog yw deilliannau ieithyddol dysgwyr i’r Bil a rhaglen ehangach Cymraeg 2050, cynigiwn y byddai’n bwysig bod gan y continwwm sail cyfreithiol, cadarn. Bydd hynny’n galluogi polisïau a gweithredu yn y dyfodol i gyfeirio at y continwwm gydag awdurdod.
  5. Bydd hon yn ddogfen gyfeirio a all gael ei defnyddio fel sail i gynllunio darpariaeth dysgu Cymraeg, boed hynny mewn addysg statudol neu mewn cyfnodau a lleoliadau y tu hwnt i hynny, gan helpu i ddatblygu gwerslyfrau a deunyddiau addysgu neu dysgu eraill, profion a mathau eraill o asesu. Ein bwriad yw bydd y continwwm yn cael ei ddefnyddio i sicrhau trafodaethau cyson ar draws Cymru ac ar draws sectorau, gan gynnwys, er enghraifft, wrth gynllunio ymyraethau i wella sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg.
  6. Er mwyn sicrhau’r hyblygrwydd i adolygu’r ddogfen yn y dyfodol, cynigiwn y bydd y Bil hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ei hadolygu a’i diwygio. Cyn cyhoeddi’r ddogfen, boed hynny am y tro cyntaf neu cyn ei diwygio, byddai’n rhaid i Weinidogion ymgynghori gydag arbenigwyr yn y maes caffael a dysgu iaith.
  7. Bydd y ddogfen yn eistedd ochr yn ochr ag egwyddorion cynnydd Cwricwlwm i Gymru, gan gynnig disgrifiadau mwy manwl i ddisgrifio taith iaith dysgwr ar hyd continwwm sgiliau iaith Gymraeg gydol oes. Bydd y lefelau hyn yn gallu cael eu defnyddio fel man cyfeirio ar gyfer dysgwyr ac addysgwyr y Gymraeg dros bob cyfnod (statudol, pellach, uwch a’r gweithlu). Ni allwn ragdybio yr holl ddatblygiadau posib yn sgil dogfen y continwwm, ond o’i pharatoi a’i chyhoeddi, mi fydd yn barod i’w defnyddio a’i haddasu yn y dyfodol fel man cyfeirio clir ac rydym ni’n rhagweld byddai hyn yn hwyluso darpariaeth a dysgu’r Gymraeg.
Cwestiwn ymgynghori 4: Ydych chi’n cytuno gyda’r cynnig y dylai dyletswydd fod ar Weinidogion Cymru i ddatgan y continwwm sgiliau Cymraeg?

Pennod 3: Categoreiddio ysgolion yn ôl cyfrwng iaith

Rydym yn ymrwymo i gynyddu faint o addysg Gymraeg y bydd pob ysgol sydd ddim eisoes yn un cyfrwng Cymraeg penodedig yn ei ddarparu, tra’n cynyddu’r gyfran o ddysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Yn yr adran hon cyflwynwn gynigion ynghylch sefydlu cyfundrefn statudol i gategoreiddio ysgolion yn ôl cyfrwng iaith. Bydd hyn yn clymu gyda chynigion o ran:

  • rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i bennu disgrifiadau statudol i bob categori, gan gynnwys yr isafswm o ran amser a ddarperir drwy’r Gymraeg

  • caniatáu i Weinidogion gynyddu’r isafswm dros amser wrth i ffactorau megis argaeledd gweithlu newid

  • camau i ysgogi awdurdodau lleol ac ysgolion i symud ysgolion i gategori ieithyddol uwch dros amser

  • trefniadau i fonitro bod ysgolion yn darparu addysg Gymraeg yn unol â’u categori

  • dull o gynyddu dros amser y gofynion o ran cyfran o bob wythnos a gaiff ei neilltuo i ddarpariaeth Gymraeg yn ôl categori ieithyddol

  1. Cyflwynwyd categorïau iaith ysgolion am y tro cyntaf yn 2007. Bwriad hyn oedd rhoi darlun cyflawn o’r ffordd yr oedd addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei rhoi ar waith, yn ogystal â sicrhau cysondeb drwy grwpio ysgolion a oedd yn defnyddio dulliau trochi tebyg.
  2. Ym mis Rhagfyr 2021, cyflwynwyd canllawiau anstatudol newydd yn gostwng nifer y categorïau i dri yn y sector cynradd a thri yn y sector uwchradd. Roedd hyn yn cymryd i ystyriaeth y dadansoddiad o ddata CYBLD (Mae’r CYBLD, neu’r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion, yn cael ei gynnal bob mis Ionawr gan bob ysgol feithrin, cynradd, uwchradd, canol ac arbennig a gynhelir yng Nghymru. Rhaid i bob disgybl sydd ar y gofrestr gael ei gynnwys ar y datganiad CYBLD, ac ymhlith data eraill mae’n cynnwys gwybodaeth am ddarpariaeth Gymraeg yr ysgolion) a wnaed fel rhan o’r adolygiad o’r trefniadau categorïau presennol a awgrymai fod ysgolion Cymru’n fras yn disgyn i dri grŵp. Crëwyd hefyd is-gategorïau trosiannol os yw ysgolion ar daith tuag at y categori ieithyddol nesaf. Yn y canllawiau hyn hefyd, fe sefydlwyd yr egwyddor na ddylai ysgol gynnig llai o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol nag a wnaed yn y gorffennol.
  3. Fodd bynnag, cydnabuwyd wrth gyhoeddi’r canllawiau anstatudol hyn yn 2021 mai’r cam cyntaf oedd cyhoeddi’r canllawiau, a bod angen parhau i ychwanegu at y manylion fel y gellid creu seilwaith cyflawni cadarn. Mae’r tirwedd wedi newid yn sylweddol ers 2007 pan gyflwynwyd y gyfundrefn gategoreiddio am y tro cyntaf, ac mae’r seilwaith bresennol wedi cael cryn effaith eisoes. Serch hyn, ac fel y soniwyd yn rhagair canllawiau 2021, mae’n briodol ystyried y manteision o roi sail statudol i’r gyfundrefn gategoreiddio ac atgyfnerthu’r seilwaith i gyflawni nodau addysg strategaeth Cymraeg 2050.
  4. Nodwyd eisoes ar ddechrau’r Papur Gwyn bwysigrwydd oriau cyswllt gyda’r Gymraeg er mwyn rhoi’r amodau gorau i’w dysgu. Rydym felly am weld dau beth yn digwydd er mwyn gwireddu hynny. Yn gyntaf, rhaid parhau i gynyddu faint o ddysgwyr sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg. Ac yn ail, rhaid gwella’r ddarpariaeth a chynyddu dros amser y cyswllt gyda’r Gymraeg y mae dysgwyr ym mhob ysgol yn ei dderbyn er mwyn rhoi’r cyfle gorau i gyrraedd deilliant ieithyddol dysgwyr ar ddiwedd addysg statudol (gweler Pennod 1: Gwneud y targed miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged statudol a gwneud darpariaeth ynghylch deilliant ieithyddol i ddysgwyr drwy’r system addysg).
  5. Hanfod y cynigion yn yr adran hon, felly, yw:
  • rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu beth yw’r categorïau ieithyddol, gan gynnwys pennu lleiafswm amser o ran cyswllt gyda’r Gymraeg y disgwylir i ddysgwyr ei dderbyn yn unol â’r categori
  • awdurdodau lleol i gymeradwyo categori ieithyddol ysgolion a gynhelir yn eu sir, ac i fonitro bod gofynion y categori hwnnw’n cael ei wireddu
  • gosod dyletswydd ar ysgolion a gynhelir i gyhoeddi cynllun yn manylu sut y maent am gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg a dros pa gyfnod amser
  1. Un o fanteision creu cyfundrefn gategoreiddio statudol, o’i gymharu â’r gyfundrefn anstatudol bresennol, yw y bydd gorfodaeth benodol i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru gael ei chategoreiddio. Bydd hyn yn sail gadarn i fonitro perfformiad ysgolion wrth wireddu gofynion eu categori, ac yn rhoi cyd-destun clir ar gyfer y targedau cynnydd a fydd yn cael eu gosod yn y Cynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg arfaethedig (CGCA) (gweler Pennod 5: Cynllunio’r Gymraeg mewn addysg mewn awdurdodau lleol).

Gweinidogion Cymru i bennu categorïau ieithyddol ysgolion yn statudol

  1. Rydym o’r farn y dylai’r Bil sefydlu cyfundrefn statudol ar gyfer categoreiddio ysgolion a gynhelir yn ôl iaith. Byddai’r gyfundrefn statudol yn disodli’r canllawiau categoreiddio anstatudol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021. Un opsiwn posibl yw defnyddio’r categorïau yn y canllawiau anstatudol fel man cychwyn yn ein hystyriaeth pan fyddwn yn datblygu categorïau statudol. Y categorïau anstatudol hynny yw:
  • Categori 1: ysgolion cyfrwng Saesneg
  • Is-gategori trosiannol T2: ysgolion cyfrwng Saesneg ar lwybr i ddod yn ysgolion dwy iaith
  • Categori 2: ysgolion dwy iaith
  • Is-gategori trosiannol T3: ysgolion dwy iaith ar lwybr i ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg
  • Categori 3: ysgolion cyfrwng Cymraeg
  • Is-gategori 3P: ysgolion cyfrwng Cymraeg penodedig
  1. Cynigiwn mai creu fframwaith fydd y Bil a fyddai’n rhoi dyletswydd ar Weinidogion i bennu disgrifiadau penodol y categorïau mewn rheoliadau gan gynnwys yr isafswm o ran amser a ddarperir yn Gymraeg. Cynigiwn fod gwneud hyn mewn is-ddeddfwriaeth yn briodol er mwyn caniatáu i Weinidogion newid y disgrifiadau a chynyddu’r isafswm dros amser wrth i ffactorau megis argaeledd gweithlu newid.
  2. Byddai union ddisgrifiad y categorïau yn destun ymgynghori pellach wrth lunio’r rheoliadau, ac felly, am y tro, nid ydym yn gofyn am farn ynghylch beth allai’r disgrifiadau hynny fod yn yr ymgynghoriad hwn. Wrth lunio disgrifiadau y categorïau, byddwn yn ystyried sut y mae’r categorïau yn rhyngweithio gyda’r gofynion o ran ymgynghori cyhoeddus am newidiadau a reoleiddir o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
  3. Rydym yn awyddus, fodd bynnag, i gasglu barn ynghylch yr egwyddor y dylai’r Bil greu cyfundrefn statudol ar gyfer categoreiddio ysgolion a gynhelir gan roi dyletswydd ar Weinidogion i bennu disgrifiadau’r categorïau drwy reoliadau.
Cwestiwn ymgynghori 5: Ydych chi’n cytuno y dylid creu cyfundrefn statudol ar gyfer categoreiddio ysgolion a gynhelir yn ôl cyfrwng iaith?
Cwestiwn ymgynghori 6: Ydych chi’n cytuno y dylid rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu disgrifiadau’r categorïau mewn rheoliadau?
Cwestiwn ymgynghori 7: Beth yw eich barn am gynnwys isafswm o ran amser a ddarperir yn Gymraeg? Beth yw eich barn am effeithiau isafswm o’r fath ar ysgolion, dysgwyr a staff? A ydych yn rhagweld unrhyw effeithiau eraill?

Gosod ysgolion mewn categori ieithyddol

  1. Y sefyllfa statudol bresennol o ran gosod categori ysgol yw bod corff llywodraethu ysgol yn nodi yn y CYBLD pa gategori sy’n disgrifio’r ysgol orau. Rydym yn cynnig y dylai’r Bil wneud darpariaeth fel bod ysgolion a gynhelir yn datgan eu categori ieithyddol, ac yn ogystal i roi rôl i awdurdod lleol o ran cymeradwyo’r datganiad hwnnw. Dylai’r datganiad adlewyrchu realiti’r ysgol, a rhaid i bob ysgol a gynhelir osod ei hun mewn categori.
  2. Rydym yn cynnig y bydd awdurdod lleol yn gweithio i wireddu’r targedau a gaiff eu gosod arno gan Weinidogion Cymru (gweler Pennod 5: Cynllunio’r Gymraeg mewn addysg mewn awdurdodau lleol) a’i fod yn gweithio tuag at wireddu deilliant ieithyddol 2050 (gweler Pennod 1: Gwneud y targed miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged statudol a gwneud darpariaeth ynghylch deilliant ieithyddol i ddysgwyr drwy’r system addysg). I wneud hyn, mae’r strwythur uchod yn hollbwysig wrth greu darlun eglur o sefyllfa ieithyddol pob ysgol yn y sir. Rydym o’r farn, felly, y byddai’r cam hwn yn un pwysig er mwyn sicrhau bod gan yr Awdurdod ddealltwriaeth drylwyr o sefyllfa pob ysgol a bod ganddo berchnogaeth o’r agenda hon. Hefyd, bydd y ffaith bod angen i awdurdod lleol wirio a chymeradwyo categori pob ysgol yn golygu y bydd yn meddu ar orolwg cadarnach a bydd hyn yn sicrhau mwy o unffurfedd o ran categorïau’r ysgolion ledled y sir.
  3. Drwy osod y rôl gymeradwyo hon ar awdurdodau lleol, bwriedir creu llinyn atebolrwydd clir o ran beth sy’n gyfrifoldeb gan Weinidogion Cymru, beth sy’n gyfrifoldeb gan awdurdodau lleol a beth sy’n gyfrifoldeb gan ysgolion. Mae hyn yn golygu y gall awdurdod lleol fonitro yn erbyn categori y mae wedi rhoi sêl bendith iddo. Byddai’n rhaid i’r awdurdod lleol a’r ysgol gydweithio wrth benderfynu ar y categori sy’n ddisgrifiad addas ar gyfer yr ysgol. Fodd bynnag, os oes anghydweld o hyd, yr awdurdod lleol fydd â’r gair olaf, a bydd yn rhaid iddo ddangos y dystiolaeth a’r data a ddefnyddiwyd wrth osod categori’r ysgol, ac egluro pam mai’r categori hwnnw sydd fwyaf priodol.
  4. Rydym yn cynnig y dylid gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau i ysgolion ac awdurdodau lleol ynghylch sut i fynd ati i osod eu categori, gan roi eglurder ynghylch y data sydd i’w defnyddio i wneud hyn, unrhyw ystyriaethau y dylid eu rhoi, ac unrhyw brosesau ac amserlenni y mae’n rhaid eu dilyn.
  5. Cynigiwn y bydd rhaid i gategori iaith pob ysgol gael ei gynnwys ym mhrosbectws yr ysgol ac ym mhrosbectws cyfansawdd yr awdurdod lleol, a’i gynnwys yn set ddata’r CYBLD fel y gwneir ar hyn o bryd. Bydd cyfle i wirio bod y categori dal yn ddisgrifiad cywir o’r ddarpariaeth Gymraeg bob blwyddyn wrth lenwi’r CYBLD, ac mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod y CGCA a’r Cynllun Cenedlaethol yn seiliedig ar ddarlun manwl-gywir o’r sefyllfa ar lawr gwlad.
  6. Rydym yn awyddus i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru gael eu categoreiddio’n ieithyddol, ac felly mae diddordeb gennym geisio barn ar hyn. Yn enwedig, hoffem glywed o safbwynt ysgolion gwirfoddol ac ysgolion sefydledig. Croesawn sylwadau i’r perwyl hwn.
Cwestiwn ymgynghori 8: Beth yw eich barn am y cynigion ym mharagraffau 51 i 56 ynghylch gosod ysgolion mewn categori ieithyddol a rôl gymeradwyo yr awdurdod lleol yn y broses?

Cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg a symud tuag at gategori ieithyddol uwch

  1. Yn ogystal â bod ysgol yn cael ei osod mewn categori sy’n adlewyrchu ei ddarpariaeth ar gychwyn y daith, y bwriad yw bod pob ysgol sydd ddim eisoes yn un cyfrwng Cymraeg penodedig yn cynyddu ei ddarpariaeth Gymraeg dros amser. I wireddu hyn bydd angen proses, ac yn achos nifer o ysgolion, symud o un categori i gategori uwch. Symud tuag at fwy o ddarpariaeth Gymraeg fydd y nod. Bydd cyflymder y daith tuag at fwy o ddarpariaeth Gymraeg yn gysylltiedig â nifer o ffactorau lleol.
  2. Cynigiwn y bydd CGCA arfaethedig yr awdurdod, a gaiff ei baratoi er mwyn gwireddu’r targedau sirol a bennir gan Weinidogion Cymru yn y Cynllun Cenedlaethol, yn nodi sut mae’r awdurdod am weld cynnydd mewn darpariaeth Gymraeg ar draws ei ardal.
  3. Fel rhan o ystyriaethau’r awdurdod wrth bennu ym mha ddalgylchoedd y mae am weld cynnydd mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg, cynigiwn y bydd yn rhaid i’r awdurdod ystyried demograffeg y Gymraeg yn y dalgylchoedd hynny. Yn ymarferol, bydd tystiolaeth gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, sydd â’r dasg o wneud argymhellion ynghylch ardaloedd o sensitifrwydd y Gymraeg, yn rhan o ystyriaeth Gweinidogion wrth osod targedau ar awdurdodau lleol.
  4. Rydym yn cynnig y dylid gosod dyletswydd ar bob ysgol i nodi mewn cynllun cyflawni sut y byddant yn mynd ati i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg yn ymarferol, gan ymateb i’r disgwyliad yn CGCA arfaethedig ei awdurdod lleol. Dylai’r cynllun fanylu ar faterion megis:
  • pa wersi yr ymrwymir y byddent yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg
  • amlder y gwersi hynny
  • natur ieithyddol y gwersi, o ran dulliau addysgu a methodoleg
  • canran y ddarpariaeth Gymraeg o fewn blwyddyn ysgol
  • amserlen ar gyfer cynyddu darpariaeth Gymraeg
  • unrhyw gymorth y mae’r awdurdod lleol wedi ei addo i’r ysgol at ddibenion cynyddu’r ddarpariaeth
Cwestiwn ymgynghori 9: Ydych chi’n cytuno gyda’r egwyddor y dylai pob ysgol gynyddu ei darpariaeth Gymraeg dros amser?
Cwestiwn ymgynghori 10: Beth yw eich barn am y cynigion ym mharagraffau 57 i 60 ynghylch y broses o gynyddu darpariaeth Gymraeg ysgolion?
  1. Yn sgil Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mae gan awdurdod lleol eisoes bŵer i gyflwyno newidiadau a reoleiddir i ysgolion cymunedol, ond nid i ysgolion gwirfoddol ac ysgolion sefydledig. Un o’r newidiadau a reoleiddir y gallai Awdurdod eu cynnig yw cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg. Byddai hyn yn esgor ar broses ymgynghori benodol i’w dilyn cyn gweithredu’r newid. Byddwn ni’n ystyried y graddau y gellid defnyddio’r pŵer hwn wrth i awdurdodau lleol gynllunio unrhyw gynnydd yn narpariaeth Gymraeg eu hysgolion cymunedol. Yn y cyfamser, rydyn ni’n awyddus i glywed am rinweddau cynigion y papur hwn ar bob math o ysgol a gynhelir.

Monitro cynnydd

  1. Rydym yn cynnig bod yr awdurdod yn monitro bod ysgol yn darparu addysg yn unol â’r categori a osodwyd, yn ogystal â monitro bod ysgol yn gwneud cynnydd, boed hynny yn gynnydd oddi fewn i gategori neu’n symud i gategori uwch.
  2. Sail y gwaith monitro hwn fydd y cynllun cyflawni y bydd pob ysgol yn ei baratoi fel y nodwyd uchod. Byddem yn disgwyl i’r ysgol a’r Awdurdod drafod y cynllun yn rheolaidd, a chynigiwn y bydd gan Estyn hefyd gyfle i ystyried y cynllun hwnnw wrth arolygu ysgolion yn unol â’r cylch arolygu arferol.
  3. Mae pennod 5 hefyd yn cynnig y dylid rhoi swyddogaeth i Estyn gynnal adolygiad chwim o awdurdod lleol os credir nad yw’r Awdurdod ar y trywydd cywir i wireddu’r targedau a osodwyd arno gan y Cynllun Cenedlaethol, gan wneud argymhellion ar y camau y dylid eu cymryd i unioni’r sefyllfa.
Cwestiwn ymgynghori 11: Ydych chi’n cytuno gyda’r cynigion ym mharagraffau 62 i 64 ynghylch monitro cynnydd ysgolion?

Gosod categori i ysgol newydd

  1. Mae agor ysgol newydd yn gyfle euraid i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn sir. Rydym yn awyddus i geisio barn gychwynnol ynghylch sut ddylai awdurdod lleol benderfynu ai ysgol cyfrwng Cymraeg fyddai ysgol newydd a sefydlir. Yr hyn a olygir gan ysgol newydd yn y cyd-destun hwn fyddai ysgol newydd sy’n ehangu ar ddarpariaeth addysg mewn sir. Er enghraifft, mewn sefyllfa lle agorir ysgol newydd i ddiwallu datblygiadau tai newydd neu aildrefnu darpariaeth sydd yn bodoli eisoes.
  2. Ar y naill law gellid mynnu bod asesiad effaith ieithyddol penodol yn cael ei wneud cyn pennu cyfrwng yr ysgol newydd. Byddai hyn, ynghyd ag ystyriaeth o’r targedau y maent yn ceisio eu cyflawni drwy eu Cynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg (gweler Pennod 5: Cynllunio’r Gymraeg mewn addysg mewn awdurdodau lleol), yn rhoi tystiolaeth i’r awdurdod lleol ystyried wrth ddod i benderfyniad.
  3. Ar y llaw arall gellid gosod rhagdybiaeth mai ysgol cyfrwng Cymraeg fyddai unrhyw ysgol newydd mewn ardal benodedig, er enghraifft. (Byddai rhagdybiaeth o’r fath yn golygu y byddai’n rhaid i’r awdurdod bennu yr ysgol yn un cyfrwng Cymraeg oni bai fod ganddo resymau cadarn dros benderfynu na fyddai hynny yn rhesymol). Mewn sefyllfaoedd lle mae yna fwriad i aildrefnu darpariaeth sydd yn bodoli eisoes (er enghraifft, uno ysgolion) y rhagdybiaeth byddai rhoi blaenoriaeth i’r categori ieithyddol uwch. Lle mae bwriad uno dwy ysgol cyfrwng Saesneg byddai’n ofynnol i’r Awdurdod gynllunio i gynyddu darpariaeth Gymraeg yr ysgol newydd, yng nghyd-destun symud yr ysgol ar hyd y continwwm i fod yn ysgol mewn categori uwch.
Cwestiwn ymgynghori 12: Beth yw eich barn ynghylch sut ddylai awdurdod lleol benderfynu ai ysgol cyfrwng Cymraeg fyddai ysgol newydd a sefydlir?

Pennod 4: Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg

Yn yr adran hon cyflwynwn gynigion ynghylch rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Cynllun Cenedlaethol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg, a’i adolygu ym mhob tymor Seneddol. Bydd y Cynllun Cenedlaethol yn creu dolen gyswllt rhwng targedau cenedlaethol a thargedau lleol y Gymraeg mewn addysg.

  1. Y shifft rydym am ei gyflawni yw symud o sefyllfa lle mae yna weithgaredd caffael a dysgu’r Gymraeg yn digwydd yn ddarniog mewn gwahanol sectorau ac ar wahanol adegau o fywyd tuag at gysyniad o un system gydlynol, gydag arweiniad a thargedau penodol yn cael eu gosod gan Weinidogion Cymru. Mae’r mathau o weithgaredd dan sylw yma yn cynnwys dysgu ac addysgu Cymraeg mewn ysgolion, trochi ieithyddol mewn ysgolion a datblygiad sgiliau Cymraeg ôl-16. Mae’n rhaid i’r holl gydrannau weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod dysgwr, beth bynnag ei oedran, yn gallu parhau i ddysgu a gwella ei sgiliau iaith gydol oes. Mae hynny’n galw am waith cynllunio manwl a monitro parhaus er mwyn sicrhau bod yr holl ddarnau o’r jigso yn cyd-blethu a bod dilyniant ieithyddol yn digwydd ar hyd y system addysg.
  2. Gan hynny, rydym yn cynnig y dylai Gweinidogion Cymru lunio Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg gyda gweledigaeth 10-mlynedd a dyletswydd i’w adolygu a’i gyhoeddi ym mhob tymor Seneddol.

Creu dolen gyswllt rhwng targedau cenedlaethol a thargedau lleol y Gymraeg mewn addysg

  1. Un o brif ddibenion y cynllun fyddai creu dolen gyswllt rhwng y targed o filiwn o siaradwyr a Chynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg yr awdurdodau lleol (h.y. y cynlluniau fyddai’n disodli cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg). Mae pennod 5 yn amlinellu’r cynnig bod rhaid i Gynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg esbonio sut y bydd awdurdod lleol yn gweithio i gyflawni darged statudol a bennir gan Weinidogion Cymru. Cynigiwn y byddai’r targed lleol hwnnw yn cael ei osod yn y Cynllun Cenedlaethol ar sail statudol. Byddai’n rhaid i Weinidogion ystyried nifer o ffactorau wrth osod y targedau lleol, gan gynnwys demograffeg ieithyddol y sir dan sylw.
  2. Rhagwelwn y byddai’r cynllun yn rhoi arweiniad i’r sawl sy’n cefnogi’r system addysg o ran caffael a dysgu’r Gymraeg i wireddu amcanion y rhaglen hon o newid (gweler Pennod 7: Cefnogaeth i wireddu amcanion y Bil). Rhan bwysig arall o’r cynllun fyddai nodi’r holl dargedau y byddai disgwyl i randdeiliaid yn y gyfundrefn addysg weithio i’w cyflawni. Mae hynny’n cynnwys y targedau statudol a gaiff eu rhoi ar yr awdurdodau lleol o ran cynyddu nifer y dysgwyr sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg (categori 3 o dan y categorïau anstatudol cyfredol). Bydd hyn yn creu cyswllt rhwng y Cynllun Cenedlaethol a’r cynlluniau sirol gan roi darlun clir i bob awdurdod lleol o sut mae’r targedau y disgwylir iddynt gyflawni yn cyfrannu tuag at y Cynllun Cenedlaethol.
  3. Y dyhead wrth osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi Cynllun Cenedlaethol, gyda gweledigaeth 10-mlynedd ac i adolygu’r cynllun ym mhob tymor seneddol, yw rhoi sicrwydd i’r dyfodol bod yna fecanwaith cadarn yn ei le i gryfhau a gosod sail fwy cadarn a diamwys i gynllunio addysg Gymraeg. Drwy hynny byddai’n rhoi ffocws i wahanol randdeiliaid (mewnol yn y Llywodraeth, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (gweler hefyd Pennod 7: Cefnogaeth i wireddu amcanion y Bil), yr awdurdodau lleol, y consortia addysg, Estyn, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Colegau Addysg Bellach, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac eraill) i gydweithio er mwyn creu gwell dilyniant, profiad a deilliannau i’r dysgwr wrth iddynt ddod yn siaradwyr.
Cwestiwn ymgynghori 13: Ydych chi’n cytuno gyda’r cynnig yn yr adran hon ynghylch rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg (fydd yn gosod cyfeiriad i’r cynlluniau gweithredu lleol statudol)?

Cynnwys targedau cenedlaethol ynghylch nifer yr athrawon sydd eu hangen fel rhan o’r Cynllun Cenedlaethol

  1. Fel rhan o’r Cynllun Cenedlaethol, cynigiwn y bydd disgwyl i Weinidogion Cymru barhau i bennu targedau cenedlaethol ar gyfer nifer yr athrawon tybiedig sydd eu hangen er mwyn hwyluso’r twf mewn addysg Gymraeg. Mae’r targedau cenedlaethol ar hyn o bryd wedi’u pennu yn 'Cymraeg 2050', a byddai parhau i bennu targedau fel rhan o’r Cynllun Cenedlaethol yn fodd o sicrhau bod bwriad clir gan Weinidogion Cymru i gynyddu nifer yr athrawon.
  2. Fel rhan o’u CGCA (gweler Pennod 5: Cynllunio’r Gymraeg mewn addysg mewn awdurdodau lleol) byddai disgwyl i awdurdodau lleol bennu targedau lleol ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg a chynyddu nifer yr athrawon a chynorthwywyr sydd â sgiliau iaith ar lefel briodol i addysgu ac arwain darpariaeth Gymraeg ar draws pob categori ysgol. Yn ogystal, byddai rôl gan nifer o randdeiliaid i gyd-weithio er mwyn gallu cyflawni’r targedau hyn ynghylch y gweithlu addysg. Ac felly, fel rhan o’r cynnig hwn rydym yn ystyried sut y byddai disgwyl i’r Cyngor Gweithlu Addysg, darparwyr addysg gychwynnol athrawon neu prifysgolion, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol roi sylw i’r targedau wrth gynllunio addysg gychwynnol athrawon a dysgu proffesiynol.
Cwestiwn ymgynghori 14: Ydych chi’n cytuno gyda’r cynigion ym mharagraffau 73 a 74 i bennu targedau cenedlaethol ynghylch y gweithlu addysg a’u cynnwys yn y Cynllun Cenedlaethol?

Pennod 5: Cynllunio’r Gymraeg mewn addysg mewn awdurdodau lleol

Yn yr adran hon trafodwn gynigion ynghylch diwygio’r system o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a gaiff eu llunio gan awdurdodau lleol. Cynigiwn y dylid symud y ffocws tuag at gynlluniau gweithredu yn amcanu i wireddu'r targedau a osodir gan Weinidogion Cymru ynghylch cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg yn ysgolion yr awdurdod lleol.

Cynigiwn y dylid rhoi swyddogaeth i Estyn gynnal adolygiad chwim o gynlluniau ynghyd â dyletswyddau ynghylch cynllunio’r gweithlu addysg er mwyn diwallu cynnydd mewn darpariaeth Cymraeg.

  1. Mae adran 84 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 (Deddf 2013) yn rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA), i gynnwys:
  • cynigion awdurdod lleol ynghylch sut y bydd yn cyflawni ei swyddogaethau addysg er mwyn:
    • gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei darparu yn ei ardal
    • gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg a safonau addysgu Cymraeg yn ei ardal
  • targedau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei darparu yn ei ardal ac ar gyfer gwella safonau’r addysg honno ac addysgu Cymraeg yn ei ardal
  • adroddiad ar y cynnydd a wnaed i fodloni’r targedau a gynhwyswyd yn y cynllun blaenorol neu’r cynllun diwygiedig blaenorol
  1. Mae adran 85 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gyflwyno ei CSCA i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r CSCA fel y’i cyflwynwyd, ei gymeradwyo gydag addasiadau, neu ei wrthod a llunio CSCA arall sydd i’w drin fel CSCA cymeradwy’r awdurdod. Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei CSCA a gymeradwywyd.
  2. Bu cryn graffu ar ddatblygiad, ffurf, gweithredu ac effaith y CSCAau o wahanol gyfeiriadau ers i’r rhai cyntaf gael eu cymeradwyo yn 2014 hyd at gymeradwyo’r CSCAau diweddaraf yn 2022. Yng nghanol y cyfnod hwn yn 2017 daeth y mynegiant amlycaf o ran dyhead Llywodraeth Cymru o ran y Gymraeg. Cyhoeddwyd Cymraeg 2050 a nododd yn ddiamod fwriad y Llywodraeth i weld y Gymraeg yn ffynnu gan osod targed i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Nodir bod y system addysg cyfrwng Cymraeg yn hanfodol o ran creu mwy o siaradwyr Cymraeg. Arweiniodd y craffu amrywiol at gomisiynu Adolygiad Annibynnol o’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg gan Aled Roberts ym mis Awst 2017. Pendraw y gweithgarwch hwn oedd tanlinellu’r angen i gryfhau’r drefn cynllunio.
  3. Sefydlwyd Bwrdd Cynghori annibynnol i ystyried gwelliannau i’r gyfundrefn CSCAau rhwng Mai 2018 a Mawrth 2019. Blaenoriaeth y Bwrdd oedd i gynghori ar welliannau i’r is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf 2013 ac arweiniodd hynny at reoliadau diwygiedig yn 2019 a gyflwynodd y newidiadau canlynol i’r gyfundrefn CSCAau:
  • Dileu’r dyletswydd i gynnal asesiad o’r galw gan rieni am addysg Gymraeg
  • Disodli’r ddyletswydd honno gyda disgwyliad i awdurdodau lleol gynllunio ar sail targed wedi’i alinio gyda Cymraeg 2050, sef cynnydd yn % y dysgwyr blwyddyn 1 sy’n derbyn eu haddysg trwy’r Gymraeg, gan roi sylw i ganllawiau Gweinidogion Cymru wrth eu cyfrifo
  • Ymestyn hyd CSCA o’i gylch 3 blynedd i 10 mlynedd i gyd fynd gyda cherrig milltir Cymraeg 2050
  1. Er y diwygiadau hyn yn sgil argymhellion y Bwrdd, daeth y Bwrdd i’r casgliad nad oedd y strwythur ddeddfwriaethol bresennol bellach yn cefnogi cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg gan awdurdodau lleol i’r graddau sydd eu hangen i ymateb i’r uchelgais genedlaethol hirdymor ar gyfer y Gymraeg i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
  2. Ein gweledigaeth o strwythur cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg yw:
  • mai Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am gynllunio cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol ar lefel strategol
  • mai rôl yr awdurdodau lleol yw gwireddu targedau lleol sy’n deillio o’r Cynllun Cenedlaethol
  • bod angen cynllunio’r gweithlu addysg yn lleol yng nghyd-destun cynllunio’r ddarpariaeth gydag arweinyddiaeth strategol yn genedlaethol gan y Llywodraeth (fel a nodwyd ym mhennod 4, Cynllun Cenedlaethol)
  • gwella tryloywder o ran y prosesau o osod targedau, casglu data a chytuno cynlluniau
  • gwella dulliau craffu, monitro ac atebolrwydd am wireddu’r targedau
  1. Mae’r adran isod yn trafod y cynnig o roi pŵer penodol i Weinidogion Cymru osod targedau ar awdurdodau lleol yn y Cynllun Cenedlaethol. Mae hyn yn arwydd o shifft mewn meddylfryd. Gweinidogion Cymru fyddai yn gosod nod strategol yr awdurdod lleol o ran cynllunio’r Gymraeg mewn addysg. Swyddogaeth yr awdurdod lleol fydd cynllunio a gweithredu. Gan hynny, rydym yn cynnig y dylid newid enwau’r CSCAau i adlewyrchu’r newid mewn meddylfryd hynny. Awgrymwn mai Cynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg (CGCAau) fyddai’n deitl addas ar gyfer y cynlluniau o dan y gyfundrefn ddiwygiedig, ac ar gyfer gweddill y bennod hwn, byddwn yn cyfeirio at y cynlluniau hyn fel ‘CGCA arfaethedig’.
  2. Mae’r canllawiau statudol ar CSCAau yn darparu y dylai CSCAau gael eu trefnu o gwmpas 7 deilliant. Adolygwyd y 7 deilliant yn 2019 er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i adlewyrchu taith addysg dysgwr ac yn cydweddu â meysydd polisi Cymraeg 2050 a Chwricwlwm i Gymru. Rydym o’r farn bod y deilliannau isod yn parhau i gynnig ffocws clir i’r cynllunio cenedlaethol ac hefyd lleol, ac mae’r cynigion yn y papur gwyn hwn yn cefnogi hyn:
  • Deilliant 1: Mwy o blant meithrin neu tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Deilliant 2: Mwy o blant dosbarth derbyn neu pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o’u haddysg statudol i un arall
  • Deilliant 4: Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Deilliant 5: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd destunau gwahanol yn yr ysgol
  • Deilliant 6: Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”) yn unol â’r dyletswyddau a bennir gan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
  • Deilliant 7: Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy’n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg
Cwestiwn ymgynghori 15: Ydych chi’n cytuno bod y deilliannau a nodir ym mharagraff 82 yn parhau i gynnig ffocws clir i’r cynllunio cenedlaethol a lleol?
  1. Ein blaenoriaeth yw sicrhau fod y broses yn cefnogi cynnydd, a bod y cynnydd hynny yn digwydd yn amserol, yn effeithiol ac yn cefnogi dilyniant ieithyddol dysgwyr trwy gydol eu haddysg statudol a thu hwnt. O ran y CGCA arfaethedig felly, rydym yn awyddus i awdurdodau lleol barhau i gynllunio a gweithredu yn unol a’r deilliannau uchod. Bydd y CGCA arfaethedig yn parhau i fod yn gynlluniau 10 mlynedd, ond cynigiwn y bydd rhaid eu hadolygu ar ôl 5 mlynedd i alinio gydag adroddiad cynnydd 5 mlynedd y Cynllun Cenedlaethol. Ni fydd hyn yn amharu ar allu awdurdodau lleol ddiwygio eu CGCA arfaethedig cyn hynny. Byddai gofynion ar yr awdurdod lleol i ymgynghori a chyflwyno cynlluniau i Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo yn parhau fel y system CSCAau gyfredol, ynghyd â phwerau Gweinidogion Cymru i gymeradwyo, gwrthod neu addasu’r cynlluniau. Bydd y ddyletswydd ar awdurdod lleol i gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynllun hefyd yn parhau.
  2. Rydym yn cynnig y bydd rhaid i awdurdodau lleol lunio a pharatoi eu CGCA arfaethedig cyntaf ar ôl i’r Cynllun Cenedlaethol cyntaf gael ei gyhoeddi. Bydd y cynllun newydd yma yn disodli CSCA cyfredol. Rydym yn ystyried effaith hyn ar amseru a pryd bydd angen llunio y CGCA nesaf er mwyn sicrhau cysondeb ar draws cynllunio ar lefel cenedlaethol a sirol.
Cwestiwn ymgynghori 16: Ydych chi’n cytuno gyda’r cynnig i gyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol i adolygu eu Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg (CGCA) ar ôl 5 mlynedd i alinio gydag adroddiad cynnydd 5 mlynedd y Cynllun Cenedlaethol?

Gweinidogion Cymru i osod targedau y Gymraeg mewn addysg ar gyfer pob awdurdod lleol

  1. Rydym yn cynnig cynnwys darpariaethau yn y Bil a fyddai’n rhoi i Weinidogion Cymru bŵer penodol i osod targedau ar gyfer CGCAau arfaethedig ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg. Diben gwneud hynny yw bydd rhaid i’r awdurdodau lunio eu CGCAau arfaethedig ar sail y targedau statudol hynny. Byddai hyn yn golygu y bydd gan Weinidogion Cymru y gallu uniongyrchol i osod targedau ar awdurdodau lleol er mwyn gwireddu polisi cenedlaethol. Byddai hyn yn hytrach na’r sefyllfa gyfredol lle mae rhaid i awdurdod gynllunio ar sail targed y maent yn mabwysiadau eu hunain, gan roi sylw i ganllawiau Gweinidogion Cymru wrth ei bennu.
  2. Yn ystod y broses o ymgynghori ar y rheoliadau CSCA drafft nodwyd y gallai awdurdod lleol, petai yn penderfynu bod rheswm da dros wneud, bennu targed gwahanol i darged 10-mlynedd yng nghanllawiau Gweinidogion Cymru. Er mwyn gorfodi awdurdod lleol i fabwysiadu targed Gweinidogion Cymru, fe allai Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau deddfwriaethol (Adran 85, Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i gymeradwyo, cymeradwyo gydag addasiadau neu wrthod Cynllun a pharatoi Cynllun arall a fydd yn cael ei drin fel Cynllun cymeradwy’r awdurdod) i gymeradwyo gyda addasiadau, neu wrthod cynllun a llunio un newydd ar gyfer yr Awdurdod lleol. Gallai hyn arwain at broses hir a chymhleth, rhywbeth y byddwn am ei hosgoi. Rydym o’r farn y byddai’n briodol i Weinidogion Cymru, sy’n arwain ar y polisi o dyfu’r Gymraeg mewn addysg, hefyd i fod yn meddu ar y grym i osod disgwyliadau pendant ar awdurdodau lleol i chwarae eu rôl i wireddu’r uchelgais cenedlaethol hynny.
  3. Ein bwriad yw y byddai targedau penodol ar gyfer CGCAau arfaethedig awdurdodau lleol yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Cenedlaethol. Rydym yn ystyried y byddai hyn yn ddull mwy taclus, eglur a thryloyw o gyflwyno i awdurdodau lleol a’r cyhoedd y cynnydd y mae Gweinidogion Cymru yn ei ddisgwyl yn y ganran o ddysgwyr sy’n dysgu (yn rhannol neu yn gyfan) trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob awdurdod lleol.
  4. Fel rhan o’r cynnig hwn o roi i Weinidogion Cymru y pŵer i osod targedau ar gyfer CGCAau arfaethedig awdurdodau lleol, cynigiwn y byddai’n rhaid i Weinidogion Cymru ystyried nifer o ffactorau. Yn eu plith fydd demograffeg ieithyddol yr awdurdod lleol dan sylw. Hynny yw, mae demograffeg ieithyddol Cymru, a natur amrywiol ein cymunedau o ran ffactorau sosio-economaidd, yn golygu fod yr her a’r amcanion lleol o ran y Gymraeg yn wahanol ar draws y wlad.
  5. Mewn rhai awdurdodau lleol, lle mae’r dwysedd siaradwyr Cymraeg yn uchel yn gyffredinol a’r Gymraeg yn rhan annatod o wead cymdeithasol yr ardal, yr her yw gwarchod yr ardaloedd rhag shifft iaith a sefydlogi dwysedd y siaradwyr fel eu bod yn parhau yn gymunedau o siaradwyr Cymraeg. Bydd y dystiolaeth gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ynghylch ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol yn rhoi sail i osod disgwyliadau uwch mewn ardaloedd o’r fath.
  6. Mewn awdurdodau lleol eraill, lle ceir dwysedd is o siaradwyr Cymraeg, yr her yw tyfu’r nifer o siaradwyr Cymraeg drwy’r system addysg. Bydd awdurdodau lleol eraill yn cynnwys cyfuniad o’r ffactorau uchod. Pwysig, felly, fydd sicrhau fod y targedau a osodir gan Weinidogion Cymru yn rhai sy’n addas i amgylchiadau lleol tra’n cydnabod yr uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chreu system addysg lle mae pob plentyn yn dod yn siaradwr Cymraeg.
Cwestiwn ymgynghori 17: Ydych chi’n cytuno gyda’r egwyddor y dylai targedau y Gymraeg mewn addysg gael eu gosod ar awdurdodau lleol gan Weinidogion Cymru?

Gweinidogion Cymru yn comisiynu adolygiad o CGCA arfaethedig drafft

  1. Pendraw’r broses o baratoi CSCA o dan y gyfundrefn gyfredol yw fod Gweinidogion yn arfer eu pwerau o dan adran 85 Deddf 2013 i gymeradwyo’r cynllun fel y’i cyflwynwyd, ei gymeradwyo gydag addasiadau, neu ei wrthod a llunio cynllun arall sydd i’w drin fel cynllun cymeradwy’r awdurdod.
  2. Yn sgil profiad Gweinidogion Cymru o arfer y swyddogaethau hyn dros y ddegawd diwethaf, rydym yn ystyried a fyddai’n briodol i Weinidogion Cymru gomisiynu adolygiad annibynnol allanol o CGCA arfaethedig drafft mewn amgylchiadau penodol lle mae Gweinidogion Cymru yn ystyried, yn dilyn asesiad o’r cynllun, y byddai’n fuddiol derbyn barn allanol annibynnol cyn penderfynu p’un ai i gymeradwyo, cymeradwyo gydag addasiadau neu i wrthod cymeradwyo. Diben hyn fyddai casglu tystiolaeth berthnasol i alluogi Gweinidogion Cymru ddod i benderfyniad priodol. Byddai’r cam hwn hefyd yn cyfrannu tuag at wella tryloywder penderfyniadau o’r fath a wneir gan Weinidogion Cymru gan roi hygrededd i’r broses asesu.
Cwestiwn ymgynghori 18: Ydych chi’n cytuno gyda’r cynnig i Weinidogion Cymru gomisiynu adolygiad allanol o gynnwys Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg (CGCA) drafft pan fo’n briodol?

Dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gynllunio eu gweithlu ar sail y CGCA arfaethedig

  1. Er mwyn gwireddu’r weledigaeth o gael mwy o ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ac i wella deilliannau ieithyddol dysgwyr ym mhob ysgol, mae’n rhaid sicrhau gweithlu digonol i’w haddysgu. Ar hyn o bryd, nid ydym yn llwyddo i ddenu digon o bobl i ddilyn gyrfa yn y proffesiwn. Gallai bod sawl rheswm am hyn, gan gynnwys:
  • canfyddiad pobl o’r proffesiwn o ran pwysau gwaith a chyflogau
  • cyfleoedd mewn meysydd gwaith eraill
  • diffyg dilyniant ieithyddol ar ôl gadael yr ysgol ac felly wedi colli hyder yn eu sgiliau Cymraeg i allu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
  1. Fel rhan o’r Cynllun Cenedlaethol, rydym yn bwriadu pennu targedau cenedlaethol ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu’r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Serch hynny, mae deddfwriaeth eisoes mewn lle i achredu a monitro darpariaeth addysg gychwynnol athrawon ac i hyrwyddo’r proffesiwn, ac mae pendraw i’r hyn y gall ddeddfwriaeth ei gyflawni o safbwynt denu pobl i’r proffesiwn. Rhaid ystyried, felly, beth yw’r camau sydd ar gael i ni gynyddu nifer yr athrawon a gwella’r dull o flaen-gynllunio. Mae Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg yn amlygu’r amryfal ymyraethau a phrosiectau sydd ar waith gennym i fynd i’r afael â’r her o gynyddu nifer o ymarferwyr sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i ddatblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu ysgolion. Buddsoddiad ariannol, cymhellion a monitro parhaus yw’r allwedd ar gyfer gwella’r sefyllfa, a nid oes angen darpariaethau mewn deddf i wneud hynny.
  2. Rydym yn cynnig, fodd bynnag, fod modd gwella’r broses o gynllunio’r gweithlu a gwneud hynny yng nghyd-destun y CGCA arfaethedig er mwyn creu dolen glir rhwng cynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chynllunio’r gweithlu. Un o ddeilliannau’r CSCA cyfredol yw “Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy’n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg” ac mae eisoes disgwyliad ar awdurdodau lleol i adnabod y gweithlu y mae angen arno. Serch hynny, nid yw’r dadansoddi a chynllunio yn cael ei wneud mewn dull cyson ar draws Cymru, ac felly rydym yn ystyried felly bod angen cryfhau’r disgwyliadau ac y dylid rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol.
  3. Y ddyletswydd cyntaf fyddai i’r awdurdodau lleol bennu targedau 10 mlynedd yn eu CGCA arfaethedig, a’u hadolygu bob 5 mlynedd, ar gyfer cynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai hyn yn ei wneud yn ofynnol iddynt ddeall y nifer o ymarferwyr cyfrwng Cymraeg sydd eu hangen yn unol â chynllun yr awdurdod lleol i dyfu addysg Gymraeg neu symud ysgolion ar hyd y categorïau ieithyddol yn eu hardaloedd ochr yn ochr â’r sefyllfa staffio cyfredol yn eu hysgolion. Byddai hefyd yn galluogi’r awdurdodau lleol i fwydo gwybodaeth yn ôl i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu neu fireinio polisïau ac ymyraethau cenedlaethol i ehangu neu ddatblygu’r gweithlu.
  4. Yr ail ddyletswydd fydd i’r awdurdodau lleol bennu targedau 10 mlynedd yn eu CGCA arfaethedig, a’u hadolygu bob 5 mlynedd, ar gyfer cynyddu nifer yr ymarferwyr â sgiliau iaith Gymraeg ar sail dadansoddiad o’r data perthnasol yn y CBGY. Byddai deall anghenion datblygu sgiliau iaith ymarferwyr fesul awdurdod lleol yn hwyluso cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau hyfforddiant ieithyddol i ddiwallu’r targed.
  5. Y drydedd dyletswydd fyddai i awdurdodau lleol ymgymryd â phroses flynyddol o ddadansoddi cynnydd yn erbyn y targedau ac adrodd yn eu adroddiadau adolygu.
  6. I gynorthwyo awdurdodau lleol i ymgymryd â’r uchod, cynigiwn y gallai Gweinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau er mwyn sicrhau cysondeb ar draws yr holl awdurdodau. Gallai’r canllawiau hynny fanylu ar sut i ddadansoddi:
  • lefel sgiliau iaith ymarferwyr (athrawon, penaethiaid, cynorthwywyr)
  • patrymau ymarferwyr sy’n llwyddo i gaffael y Gymraeg neu gwella eu sgiliau iaith
  • patrymau oedran ac oedran ymddeol
  • patrymau gadael y sector
  • patrymau ymarferwyr yn symud o un ardal i ardal arall
  • nifer yr ymarferwyr cyfrwng Cymraeg a’r cynnydd tybiedig yn seiliedig ar nifer y plant a phobl ifanc fydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg
Cwestiwn ymgynghori 19: Ydych chi’n cytuno gyda’r cynigion i roi dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gynllunio eu gweithlu?

Adroddiadau ar weithredu CGCAau arfaethedig

  1. Yn ogystal a chyhoeddi CSCA, mae Ddeddf 2013 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd pob cam rhesymol i’w weithredu a’i gadw dan adolygiad. Rhoddodd Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 ddyletswydd ychwanegol ar awdurdodau lleol i gyflwyno adroddiad adolygu blynyddol i Weinidogion Cymru yn amlinellu’r cynnydd a wnaed ers cymeradwyo’r Cynllun neu ers y cyfnod adolygu blaenorol. Nid oes gofyniad arnynt i gyhoeddi’r adroddiad adolygu. Nid oes ychwaith gofyniad ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi’r adroddiadau adolygu blynyddol maent yn eu derbyn.
  2. Rydym o’r farn y dylai’r adroddiadau adolygu blynyddol hyn gael eu cyhoeddi a’u bod yn parhau i gynnwys crynodeb blynyddol o gynnydd yn erbyn y targed(au) a roddir i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru a’r targedau yn y CGCA arfaethedig gan gynnwys meysydd blaenoriaeth i’r awdurdod lleol ddatblygu ymhellach. Bydd hyn yn rhoi hyder i’r cyhoedd fod y CGCAau arfaethedig yn cael eu cyflawni, ac yn cynyddu tryloywder ac atebolrwydd.
  3. Yn yr un modd, cynigiwn y dylai Gweinidogion Cymru fod o dan ddyletswydd i gyhoeddi adroddiad cenedlaethol o gynnydd yn erbyn y targedau yn y Cynllun Cenedlaethol, a hynny bob blwyddyn. Gellid defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gan yr awdurdodau lleol yn eu hadroddiadau blynyddol ymhlith ffynonellau eraill. Byddai’r adroddiadau blynyddol yn rhoi sail i gynllunio’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 5 mlynedd nesaf.
Cwestiwn ymgynghori 20: Ydych chi’n cytuno gyda’r cynigion ym mharagraffau 100 i 102 ynghylch cyhoeddi adroddiadau ar weithredu’r Cynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg (CGCAau) a chynnydd yn erbyn targedau’r Cynllun Cenedlaethol?

Adolygiadau ac argymhellion gan Estyn

  1. O dan y gyfundrefn CSCA bresennol, rydym yn disgwyl i’r adroddiadau adolygu blynyddol ddangos i ni sut y mae’r awdurdod lleol yn gweithredu ar eu hymrwymiadau, yn unol â 7 deilliant y CSCA cyfredol, a pha effaith y mae hyn yn ei gael ar gyrhaeddiad eu prif darged 10 mlynedd.
  2. Lle nad oes cynnydd ar elfen neu elfennau o’r cynllunio, a bod lle i gwestiynu p’un ai bod yr awdurdod lleol wedi cymryd pob cam rhesymol i weithredu, yna mae cyfle o dan y drefn bresennol i swyddogion Llywodraeth Cymru ofyn i’r awdurdod lleol am fwy o wybodaeth, gofyn iddynt ystyried camau cynllunio, neu fesurau lliniaru eraill er mwyn galluogi’r cynnydd i ddigwydd. Yn yr un modd, os nad oes cynnydd ar elfen o’r cynllunio, ond bod rheswm da dros y diffyg hynny, gall hynny arwain at y Llywodraeth yn adnabod pa gefnogaeth sydd ei hangen ar yr awdurdod lleol i gyflawni a rhoi’r mesurau hynny yn eu lle os yw hynny’n bosibl.
  3. Fodd bynnag, os oes patrwm o dangyflawni’n ymddangos dros gyfnod o amser, ac felly risg na fydd yr awdurdod lleol yn cyrraedd ei darged, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, mae’n bosib nad oes gan Weinidogion y gallu i orfodi’r Awdurdod lleol i weithredu unrhyw gamau cynllunio neu i dderbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru. O dan y gyfundrefn CSCAau cyfredol, nid oes gan Weinidogion Cymru pŵer i orfodi awdurdodau lleol i ddiwygio eu cynllun, er un o gynigion y papur gwyn hwn fydd i gyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol i adolygu eu CGCA ar ôl 5 mlynedd i alinio gyda’r Cynllun Cenedlaethol.
  4. Rydym yn cynnig, felly, bod y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru orfodi awdurdodau lleol i gyflwyno cynllun newydd i’w gymeradwyo. Er mwyn hwyluso hyn, byddai’n ddefnyddiol i gyrchu argymhellion gan gorff annibynnol ynghylch y camau y dylai’r awdurdod lleol eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cyrraedd eu targedau. Cynigiwn y dylid rhoi swyddogaeth i Estyn gynnal adolygiad chwim o’r awdurdod lleol a gwneud argymhellion i’r awdurdod a/neu Weinidogion Cymru ynghylch y camau y dylid eu cymryd. Gallai’r adolygiad hwn gael ei ysgogi gan Weinidogion Cymru neu gan Estyn. Byddai disgwyliad i’r adolygiad gael ei gyhoeddi, yn yr un modd ag arolygon o wasanaethau addysg awdurdodau lleol, er enghraifft.
  5. Mantais rhoi swyddogaeth i Estyn gynnal adolygiad chwim yw fod ganddynt yr hygrededd a’r profiad o arolygu awdurdodau lleol ac yn adnabod yr amryfal ffactorau y mae awdurdod lleol yn ei wynebu wrth ymgymryd â’u swyddogaethau addysg.
  6. Lle bo awdurdod lleol yn methu, neu yn debygol o fethu, a chymryd camau rhesymol i weithredu ei gynllun, mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i ymyrryd.
Cwestiwn ymgynghori 21: Ydych chi’n cytuno gyda’r cynnig i roi swyddogaeth i Estyn i gynnal adolygiad chwim a chynnig argymhellion mewn sefyllfaoedd lle mae’n ymddangos bod risg na fydd awdurdod yn gwireddu ei dargedau?
Cwestiwn ymgynghori 22: Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau eraill ynghylch sut i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cymryd camau rhesymol i weithredu eu Cynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg (CGCAau)?

Pennod 6: Dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol

Yn yr adran hon cyflwynwn gynigion ynghylch gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi camau yn eu lle i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg. Nod y ddyletswydd fyddai ymdrechu i sicrhau:

  • bod manteision addysg cyfrwng Cymraeg, ynghyd â’r deilliannau ieithyddol disgwyliedig i blant yn sgil derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn cael eu hyrwyddo’n rhagweithiol ymysg rheini a gofalwyr, gan gynnwys rhieni a gofalwyr sy’n symud i ardal yng Nghymru

  • bod darpariaeth trochi hwyr ar gael ym mhob awdurdod lleol a’i fod yn cael ei hyrwyddo’n rhagweithiol fel dull o feithrin sgiliau Cymraeg mewn amser byr fel y gellir manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg ar wahanol bwyntiau mynediad

Addysg cyfrwng Cymraeg

  1. Mae strategaeth 'Cymraeg 2050' yn cyflwyno nifer o amcanion hirdymor i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, ac un o’r prif ffyrdd o wneud hyn fydd drwy’r system addysg. Yn benodol, mae’r strategaeth yn nodi mai’r ffordd fwyaf effeithiol o greu siaradwyr Cymraeg newydd yw drwy’r gyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg – hynny yw, drwy ysgolion sy’n syrthio o fewn categorïau 3 a 3P yn y gyfundrefn anstatudol bresennol. Amlinellir yn y strategaeth yr angen i ‘awdurdodau lleol ehangu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg bresennol, yn ogystal â gwella cyfraddau dilyniant rhwng gwahanol gamau addysgol’ er mwyn cefnogi amcanion 'Cymraeg 2050'.
  2. Cynigiwn y dylai’r disgwyliad hwnnw ddod yn ddyletswydd ar awdurdodau lleol, a gallai’r canllawiau categoreiddio statudol y cynigir eu cyhoeddi roi arweiniad i’r Awdurdodau lleol sut y gellir gwneud hyn. Nid yn unig drwy gryfhau’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg bresennol ond drwy symud ysgolion ar hyd y continwwm categorïau fel eu bod hwythau’n dod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg dros amser, os yw’r amgylchiadau yn caniatáu hynny.
  3. Manylir uchod ar yr angen i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob lleoliad ysgol. Ochr yn ochr â hynny, rhaid sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn deall beth fyddai’r deilliannau ieithyddol disgwyliedig i ddysgwyr sy’n dewis ysgol gyda chyfraddau is neu uwch o’r ddarpariaeth addysg yn cael ei chyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg. I’r perwyl hwnnw, rydym o’r farn ei bod yn briodol disgwyl i awdurdodau lleol roi sylw penodol i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ymhlith rhieni a gofalwyr a fydd yn dewis ysgol i’w plant.
  4. Gan nad yw model addysg cyfrwng Cymraeg yn un sy’n hysbys i bawb, rydym o’r farn ei bod hi’n rhesymol disgwyl i’r awdurdod lleol, mewn partneriaeth gyda chyrff allweddol megis y Mudiad Meithrin, gymryd camau pendant megis darparu gwybodaeth yn rhagweithiol fel y gall rhieni a gofalwyr wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch addysg eu plant. Y bwriad yw hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol wrth ei gynnig i rieni o bob cefndir, gan amlygu perthnasedd yr iaith i’r Gymru fodern a’r manteision o ddysgu mwy nag un iaith o oedran ifanc.
  5. Eto, mae strategaeth 'Cymraeg 2050' yn crybwyll y disgwyliad hwn:

Bydd hefyd angen i ni sicrhau bod rhieni neu gofalwyr a dysgwyr yn deall deilliannau ieithyddol y gwahanol fodelau darparu er mwyn iddynt allu gwneud dewisiadau gwybodus am lwybrau addysg ar sail dealltwriaeth o berthnasedd yr iaith i fywyd bob dydd ac i’r gweithle.

  1. Cynnig ydyn ni felly y dylai fod dyletswydd ar Awdurdodau lleol, i ddarparu gwybodaeth a chynnig addysg cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol mewn ymdrech i sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn ymwybodol o’r cychwyn cyntaf o’r gwahanol fodelau a’r gwahanol ddeilliannau ieithyddol disgwyliedig.
Cwestiwn ymgynghori 23: Ydych chi’n credu y dylid gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg i rieni a gofalwyr?
Cwestiwn ymgynghori 24: Pa gefnogaeth y dylai Weinidogion Cymru ei chynnig o ran hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg?

Darpariaeth trochi hwyr

  1. Os yw disgyblion wedi dechrau ar lwybr addysgol sydd â darpariaeth Gymraeg is, mae’n bwysig eu bod hwy a’u rhieni neu gofalwyr yn ymwybodol bod cyfle i symud i ysgol sy’n cynnig darpariaeth Gymraeg uwch os dymunir gwneud hynny. Ar hyn o bryd, mae’r broses hon yn cael ei hwyluso gan fodel trochi hwyr ar gyfer disgyblion, model sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd wrth i ddarpariaeth awdurdodau lleol ymsefydlu. Ar yr amod bod lle iddynt mewn ysgol cyfrwng Cymraeg, mae trochi hwyr yn gyfle gwych i drochi disgyblion yn yr iaith wrth iddynt ymgynefino’n raddol i’w hysgol newydd.
  2. Mae addysg trochi hwyr wedi bodoli yng Nghymru ers yr 1980au gyda’r ganolfan iaith cyntaf yn agor yng Nghaernarfon yn 1984. Wrth ddefnyddio’r term ‘addysg drochi hwyr’, cyfeirio ydym ni at addysg drochi sy’n targedu ‘hwyrddyfodiaid’ (neu ‘newydd-ddyfodiaid’) i addysg cyfrwng Cymraeg. Diffinnir ‘hwyrddyfodiaid’ fel ‘plant (sy’n 7 oed neu drosodd) nad ydynt yn siarad Cymraeg ond sy’n dymuno cael addysg cyfrwng Cymraeg ar ôl diwedd y cyfnod sylfaen’.
  3. Nid ysgolion ydi’r canolfannau (neu unedau fel y’u gelwir weithiau). Yn hytrach, canolfannau iaith ydynt. Er hynny, prif amcan y canolfannau yw trochi dysgwyr yn y Gymraeg am gyfnod dwys, er mwyn i’r dysgwyr hynny allu parhau gyda’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Gall y ddarpariaeth fod yn opsiwn i bob math o ddysgwyr, ond yn benodol:
  • Dysgwyr sydd yn trosglwyddo o’r sector cyfrwng Saesneg (ar ôl 7 oed)
  • Dysgwyr sydd yn symud i’r ardal o du allan i Gymru sydd angen cael eu trochi yn y Gymraeg er mwyn derbyn eu haddysg yn unol â pholisi iaith yr ardal
  • Dysgwyr sydd yn symud i’r ardal o du allan i Gymru sydd yn dewis addysg Gymraeg, er bod addysg cyfrwng Saesneg ar gael
  • Dysgwyr sydd heb gael lle mewn ysgol cyfrwng Saesneg ac sy’n cael cynnig ysgol cyfrwng Cymraeg yn lle
  1. O dan yr is-ddeddfwriaeth bresennol, sef Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019, rhaid i awdurdodau lleol ddatgan a oes darpariaeth trochi hwyr yn cael ei chynnig o fewn eu hardal, ynghyd â sut a phryd y mae gwybodaeth yn cael ei rhoi i rieni a gofalwyr. Ers 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu grant refeniw o £2.2 miliwn er mwyn cefnogi darpariaethau trochi hwyr ym mhob awdurdod ar draws Cymru. Mae’r cyllid hwn yn galluogi i 8 awdurdod lleol nad oedd ganddynt ddarpariaeth trochi hwyr yn flaenorol sefydlu darpariaeth o’r fath am y tro cyntaf. Ar gyfer gweddill yr awdurdodau lleol, mae’r cyllid yn cyfrannu at barhad darpariaeth trochi hwyr sydd eisoes yn bodoli, ynghyd ag ehangu darpariaeth trochi hwyr – boed y ddarpariaeth honno mewn canolfan, uned o fewn ysgol neu fel darpariaeth beripatetig.
  2. Cynigiwn fod angen gwneud mwy i hybu darpariaeth trochi hwyr ymhellach, ac y dylai fod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud hyn. Yn ymarferol, byddai disgwyl i awdurdod lleol gynnig yn rhagweithiol leoedd trochi hwyr os oes lle mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg i dderbyn disgyblion. Byddai hefyd gofyn i’r awdurdod lleol ymdrechu i sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn ymwybodol o’r opsiwn, a’r gwahanol ddeilliannau ieithyddol yn yr un modd ag y manylir yn y paragraffau uchod.
Cwestiwn ymgynghori 25: Ydych chi’n credu y dylid gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo darpariaeth trochi hwyr i rieni, gofalwyr a dysgwyr?
Cwestiwn ymgynghori 26: Ydych chi’n credu y dylid gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu trochi hwyr i ddysgwyr?

Pennod 7: Cefnogaeth i wireddu amcanion y Bil

Rydym wedi cyflwyno nifer o gynigion yn y Papur Gwyn hwn fydd, o’i gwireddu, yn gweddnewid deilliannau ieithyddol dysgwyr yn ein hysgolion. Mae hon yn rhaglen newid sylweddol.

Er mwyn ei gwireddu, bydd angen cefnogaeth ar ysgolion a’r system addysg yn ehangach. Rydym yn awyddus i bontio’r gefnogaeth i ysgolion gyda’r ddarpariaeth dysgu’r Gymraeg ar gyfer pob oedran. Amlinellwn yn yr adran hon gynigion ynghylch esblygu’r gefnogaeth hynny.

Mae’r cynigion ynghylch canoli’r gefnogaeth dysgu Cymraeg wedi eu llunio gyda’r bwriad eu bod yn cael eu gwireddu y tu allan i’r Bil. Rydym yn eu cynnwys yn y Papur Gwyn hwn gan eu bod yn rhan annatod o wireddu’r Bil.

  1. Fel y nodwyd eisoes yn y Papur Gwyn hwn yng nghyd-destun y continwwm sgiliau Cymraeg, mae creu siaradwyr newydd yn gwbl allweddol i lwyddiant strategaeth Cymraeg 2050. Mae’n dilyn, felly, fod angen i’r Llywodraeth sicrhau fod yna strwythurau addas yn cael eu rhoi yn eu lle i gefnogi’r gweithredu ar gyfer pob oedran.
  2. Mae nifer o gyrff a phartneriaid yn cefnogi taith unigolion ar hyd y continwwm sgiliau Cymraeg o ddarpariaeth cychwynnol sy’n cael ei gynnig gan y Mudiad Meithrin hyd at y dilyniant i barhau i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg bellach ac uwch gyda chefnogaeth ac arweiniad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae rôl y Coleg Cymraeg o safbwynt addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau yn allweddol i ddilyniant ieithyddol. Mae’n hanfodol bod unrhyw gefnogaeth canolog i ddysgu’r Gymraeg yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda’r Coleg Cymraeg er mwyn sicrhau bod mwy o ddysgwyr sy’n hyderus yn y Gymraeg yn manteisio ar gyfleon trwy gyfrwng y Gymraeg sydd o dan ofalaeth y Coleg.
  3. Craidd y cynigion eraill yn y Papur Gwyn hwn yw gwella deilliannau ieithyddol dysgwyr 3 i 16 oed. Er mwyn cefnogi ysgolion i wireddu hyn mae angen cynyddu’r gefnogaeth arbenigol sydd ar gael o ran dysgu’r Gymraeg. Yn benodol credwn ei fod yn bwysig:
  • sefydlu mecanwaith lle ceir perchnogaeth yn ganolog i ddatblygu’r continwwm sgiliau Cymraeg a rhoi cefnogaeth i ysgolion wrth iddynt symud ar hyd y categorïau ieithyddol o ran cyfrwng y ddarpariaeth
  • darparu cefnogaeth ganolog genedlaethol broffesiynol neu hyfforddiant arbenigol i ddysgu Cymraeg i ysgolion, unigolion, a gweithleoedd
  • awgrymu adnoddau neu datblygu adnoddau i gefnogi’r dysgu ac addysgu
  1. Rhan o’r darlun yn unig yw cefnogi ysgolion. Er mwyn cyrraedd ein targedau yn Cymraeg 2050 mae angen i ni ddatblygu a gwella’r cynnig dysgu Cymraeg ar draws pob oedran a sicrhau bod cefnogaeth ac adnoddau o safon ar gael i bob ymarferwr a dysgwr, beth bynnag eu hoedran.
  2. Yn yr adran hon, rydym yn ystyried sut orau i wireddu’r amcanion polisi uchod. Yn benodol, rydym yn cynnig canoli’r gefnogaeth dysgu Cymraeg ar gyfer pob oedran o fewn un corff ac yn gofyn am farn ynghylch sut y gall Gweinidogion Cymru warantu bod digon o ddarpariaeth dysgu Cymraeg ar gael yn y dyfodol i gefnogi dysgu Cymraeg i ddysgwyr o bob oed yng Nghymru. Rydym yn rhagweld y byddai’r corff am weithio gyda sefydliadau addysg ac addysgwyr yn gyffredinol sydd am ddysgu’r Gymraeg a bod pawb yn gallu manteisio ar arbenigedd ac adnoddau.

Canoli’r gefnogaeth ar gyfer dysgu’r Gymraeg

  1. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y dylid rhoi sylw i ganoli’r gefnogaeth dysgu Cymraeg o fewn un corff gweledol. Byddai corff sy’n arbenigo mewn dysgu Cymraeg, gan gefnogi unigolion a gweithleoedd (gan gynnwys ysgolion) ar eu taith iaith yn gaffaeliad pwysig i’r tirlun polisi iaith.
  2. Cynigiwn y byddai’r corff yn rhoi arweiniad strategol o fewn y maes dysgu iaith, ac yn medru arloesi a chreu datrysiadau lleol a chenedlaethol. Byddai’r corff hefyd yn perchnogi’r cyfrifoldeb dros sicrhau fod y continwwm sgiliau Cymraeg yn cael y sylw dyledus o fewn y system addysg, gan gynnwys yn y sector 3 i 16 oed.
  3. Yn y man cyntaf cynigir bod y corff yn meddu ar y swyddogaethau canlynol:
  • perchnogi’r continwwm sgiliau Cymraeg
  • darparu hyfforddiant iaith ar lefelau’r continwwm sgiliau Cymraeg i bobl 16 oed a throsodd
  • darparu hyfforddiant iaith arbenigol i amryw weithluoedd gan gynnwys i ymarferwyr addysg
  • cydweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu adnoddau i gefnogi dysgu ac addysgu’r Gymraeg
  • bod yn siop-un-stop ar gyfer cefnogi pob agwedd ar ddysgu Cymraeg
  1. Bydd angen rhoi ystyriaeth bellach i’r swyddogaethau y byddai’n ddymunol i’r corff eu harfer yn y dyfodol gan ofalu bod y swyddogaethau yn glir. Mae angen hefyd rhoi ystyriaeth i p’un a’i bod angen sefydlu corff newydd i ddarparu’r swyddogaethau arfaethedig neu, fel arall, a oes modd gwireddu’r amcanion polisi trwy ddull arall, er enghraifft drwy ailddiffinio ac ehangu rôl corff presennol.
  2. O ran dysgu Cymraeg i oedolion ac arbenigedd mewn caffael a dysgu’r iaith, un corff sydd wedi ennill ei blwyf yw’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae gan y Ganolfan brofiad helaeth ac arbenigedd mewn dysgu iaith i oedolion ac mae gwaith y Ganolfan yn enghraifft dda o gorff sy’n cyflawni ar gyfer grŵp dethol o ddysgwyr a’r byd gwaith.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

  1. Cafodd y Ganolfan ei sefydlu yn 2015 ar ôl proses dendro i sefydlu a chynnal canolfan i arwain ar y sector dysgu Cymraeg i Oedolion (fel yr oedd yn cael ei adnabod ar y pryd) yn strategol ar lefel genedlaethol. Roedd hyn yn deillio o un o argymhellion adroddiad Codi Golygon (adolygiad o’r maes dysgu Cymraeg i Oedolion) yn 2015.
  2. Prif allbynnau’r Ganolfan yw:
  • i fod yn gorff gweledol sy’n pennu cyfeiriad strategol cenedlaethol ar gyfer y sector dysgu Cymraeg (i oedolion) ac i weithredu gyda phartneriaid ar draws Cymru gyfan
  • i roi arweiniad a chyfeiriad strategol i holl ddarparwyr dysgu Cymraeg
  • i godi safonau o fewn y sector dysgu Cymraeg (i oedolion) a chynyddu’r niferoedd sy’n gallu siarad a defnyddio’r Gymraeg
  • i ddatblygu cwricwlwm cenedlaethol Cymraeg i Oedolion o ansawdd uchel, sy’n ymgysylltu ac yn briodol, a chynhyrchu adnoddau sy’n addas i ddysgwyr ac ymarferwyr
  • i redeg prosiect Cymraeg Gwaith sy’n darparu hyfforddiant dysgu Cymraeg yn y gweithle gyda’r nod o gynyddu capasiti a sgiliau Cymraeg mewn gweithleoedd, a thrwy hynny wella gwasanaethau’r Gymraeg i ddefnyddwyr
  1. Mae adroddiadau diweddar (gan Estyn ac Adolygiad Cyflym o’r Ganolfan gan Steve Morris (2021) er enghraifft) yn tystiolaethu llwyddiant y Ganolfan a’r angen am y gwaith ar lefel genedlaethol osod cyfeiriad. Daw adroddiad Steve Morris i’r casgliad fod y Ganolfan wedi cyflawni ei phwrpas ers cael ei sefydlu, a bod argymhellion adroddiad Codi Golygon wedi eu cyflawni.
  2. Mae gan Estyn raglen yn ei lle sy’n cynnwys arolygiadau o’r Ganolfan yn ganolog ac o ddarparwyr unigol. Roedd Adolygiad Estyn o’r Ganolfan yn ganolog yn canmol arweinyddiaeth y Ganolfan, ac yn argymell y dylai’r Ganolfan rannu’r arbenigedd sydd ganddynt mewn caffael a dysgu’r iaith gydag ysgolion yn ogystal.

Ehangu rôl y Ganolfan i gynnwys cefnogi grŵp oedran 3 i 16

  1. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno fod gan y Ganolfan arbenigedd mewn caffael a dysgu’r iaith y gellid ei rannu gydag ysgolion. Rydym hefyd o’r farn y byddai ehangu rôl y Ganolfan i gynnwys cefnogi ysgolion dros y degawdau nesaf yn angenrheidiol i lwyddiant Cymraeg 2050 ac yn gonglfaen pwysig i wireddu amcanion y Bil.
  2. Rydym yn cynnig, felly, mai un opsiwn fyddai ailddiffinio cylch gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gan ehangu ei rôl i fod yn gorff arbenigol sy’n cefnogi dysgu’r Gymraeg gydol oes, gan gynnwys cefnogi ysgolion. Dyma, yn ein barn ni, yw’r opsiwn mwyaf hwylus neu syml, gan ei fod yn adeiladu ar arbenigedd sydd gan y Ganolfan yn y maes dysgu Cymraeg.
  3. Mae gwaith pellach i’w wneud i ystyried pa fodel fyddai fwyaf addas o ran y math o gorff y gellid ei sefydlu. Fodd bynnag rydym yn awyddus i glywed barn rhanddeiliaid ynghylch y cynnig hwn i ymestyn rôl y Ganolfan i gefnogi dysgu’r Gymraeg gydol oes.
Cwestiwn ymgynghori 27: Ydych chi’n cytuno â’r egwyddor y dylai cefnogaeth arbenigol ar gyfer dysgu’r Gymraeg gydol oes, gan gynnwys addysg ysgolion, gael ei chanoli o fewn un corff?
Cwestiwn ymgynghori 28: Ydych chi’n cytuno y dylai rôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gael ei hehangu i ymgymryd â’r swyddogaeth neu oes model arall y dylid ei ystyried?

Rhoi sefydlogrwydd i ddysgu Cymraeg i’r dyfodol

  1. Rydym yn awyddus i sicrhau fod gan ddysgu Cymraeg sefydlogrwydd hirdymor. Felly, rydym yn ystyried sut y gall Gweinidogion Cymru warantu bod digon o ddarpariaeth dysgu Cymraeg ar gael yn y dyfodol i gefnogi dysgu Cymraeg i ddysgwyr o bob oed yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae pwerau eang gan Weinidogion Cymru i roi cefnogaeth at ddibenion addysgiadol a’r Gymraeg o dan wahanol ddeddfau.
  2. Gan mai proses dendro sydd wedi sefydlu’r Ganolfan ni ellir ehangu ei gylch gwaith heb gynnal proses dendro arall gyda gofynion gwahanol. Canolbwynt gwaith y Ganolfan ar hyn o bryd yw dysgu Cymraeg i oedolion a Chymraeg gwaith. Felly er mwyn ehangu ei waith byddai angen cynnal proses dendro pellach. Ar hyn o bryd ar sail ariannu blynyddol y caiff y Ganolfan eu rhedeg ac mae’r ffaith bod angen ail-dendro yn gyson yn creu ansefydlogrwydd ac felly rydym o’r farn bod angen gwell sail i’r sector dysgu Cymraeg yn y dyfodol.
  3. Un opsiwn i’w ystyried yw a oes angen dyletswydd newydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau fod yna ddigon o ddarpariaeth dysgu Cymraeg ar gael i gefnogi dysgu Cymraeg i ddysgwyr o bob oed yng Nghymru . Ac efallai, ochr yn ochr â hyn, y gellid gosod dyletswydd i sicrhau bod strwythurau addas yn cael eu rhoi yn eu lle i gefnogi dysgu’r Gymraeg.
  4. Mae gwaith pellach i’w wneud i ystyried hyd a lled unrhyw ddyletswyddau ar Weinidogion. Rhan o’r gwaith fyddai gweld pa gyrff cyhoeddus sydd â dyletswyddau yn y maes hwn er mwn sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu gwaith yn anfwriadol. Yn y cyfamser, rydym yn awyddus i glywed barn rhanddeiliaid ynghylch y cynnig hwn.
Cwestiwn ymgynghori 29: Ydych chi’n cytuno gyda’r egwyddor y dylid gwarantu bod yna ddigon o ddarpariaeth dysgu Cymraeg a strwythurau addas mewn lle i gefnogi dysgwyr o bob oed yng Nghymru?

Cwestiynau’r ymgynghoriad

  1. Ydych chi’n cytuno y dylid cynnwys mewn Bil ddarpariaeth ynghylch y targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
  2. Ydych chi’n credu y dylai fod rôl bendant gan awdurdodau lleol i weithio tuag at y deilliant sy’n gyfystyr â lefel B2 erbyn 2050? Ac os felly, beth ddylai’r rôl honno fod?
  3. Ydych chi’n credu y dylai fod rôl bendant gan Weinidogion Cymru i weithio tuag at y deilliant sy’n gyfystyr â lefel B2 erbyn 2050? Ac os felly, beth ddylai’r rôl honno fod?
  4. Ydych chi’n cytuno gyda’r cynnig y dylai dyletswydd fod ar Weinidogion Cymru i ddatgan y continwwm sgiliau Cymraeg?
  5. Ydych chi’n cytuno y dylid creu cyfundrefn statudol ar gyfer categoreiddio ysgolion a gynhelir yn ôl cyfrwng iaith?
  6. Ydych chi’n cytuno y dylid rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu disgrifiadau’r categorïau mewn rheoliadau?
  7. Beth yw eich barn am gynnwys isafswm o ran amser a ddarperir yn Gymraeg? Beth yw eich barn am effeithiau isafswm o’r fath ar ysgolion, dysgwyr a staff? A ydych yn rhagweld unrhyw effeithiau eraill?
  8. Beth yw eich barn am y cynigion ym mharagraffau 51 i 56 ynghylch gosod ysgolion mewn categori ieithyddol a rôl gymeradwyo yr awdurdod lleol yn y broses?
  9. Ydych chi’n cytuno gyda’r egwyddor y dylai pob ysgol gynyddu ei darpariaeth Gymraeg dros amser?
  10. Beth yw eich barn am y cynigion ym mharagraffau 57 i 60 ynghylch y broses o gynyddu darpariaeth Gymraeg ysgolion?
  11. Ydych chi’n cytuno gyda’r cynigion ym mharagraffau 62 i 64ynghylch monitro cynnydd ysgolion?
  12. Beth yw eich barn ynghylch sut ddylai awdurdod lleol benderfynu ai ysgol cyfrwng Cymraeg fyddai ysgol newydd a sefydlir?
  13. Ydych chi’n cytuno gyda’r cynnig yn yr adran hon ynghylch rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg (fydd yn gosod cyfeiriad i’r cynlluniau gweithredu lleol statudol)?
  14. Ydych chi’n cytuno gyda’r cynigion ym mharagraffau 73 a 74 i bennu targedau cenedlaethol ynghylch y gweithlu addysg a’u cynnwys yn y Cynllun Cenedlaethol?
  15. Ydych chi’n cytuno bod y deilliannau a nodir ym mharagraff 82 yn parhau i gynnig ffocws clir i’r cynllunio cenedlaethol ac hefyd lleol?
  16. Ydych chi’n cytuno gyda’r cynnig i gyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol i adolygu eu Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg (CGCA) ar ôl 5 mlynedd i alinio gydag adroddiad cynnydd 5 mlynedd y Cynllun Cenedlaethol?
  17. Ydych chi’n cytuno gyda’r egwyddor y dylai targedau y Gymraeg mewn addysg gael eu gosod ar awdurdodau lleol gan Weinidogion Cymru?
  18. Ydych chi’n cytuno gyda’r cynnig i Weinidogion Cymru gomisiynu adolygiad allanol o gynnwys Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg (CGCA) drafft pan fo’n briodol?
  19. Ydych chi’n cytuno gyda’r cynigion i roi dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gynllunio eu gweithlu?
  20. Ydych chi’n cytuno gyda’r cynigion ym mharagraffau 100 i 102 ynghylch cyhoeddi adroddiadau ar weithredu’r Cynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg (CGCAau) a chynnydd yn erbyn targedau’r Cynllun Cenedlaethol?
  21. Ydych chi’n cytuno gyda’r cynnig i roi swyddogaeth i Estyn i gynnal adolygiad chwim a chynnig argymhellion mewn sefyllfaoedd lle mae’n ymddangos bod risg na fydd awdurdod yn gwireddu ei dargedau?
  22. Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau eraill ynghylch sut i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cymryd camau rhesymol i weithredu eu Cynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg (CGCAau)?
  23. Ydych chi’n credu y dylid gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg i rieni a gofalwyr?
  24. Pa gefnogaeth y dylai Weinidogion Cymru ei chynnig o ran hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg?
  25. Ydych chi’n credu y dylid gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo darpariaeth trochi hwyr i rieni, gofalwyr a dysgwyr?
  26. Ydych chi’n credu y dylid gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu trochi hwyr i ddysgwr?
  27. Ydych chi’n cytuno â’r egwyddor y dylai cefnogaeth arbenigol ar gyfer dysgu’r Gymraeg gydol oes, gan gynnwys addysg ysgolion, gael ei chanoli o fewn un sefydliad?
  28. Ydych chi’n cytuno y dylai rôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol gael ei hehangu i ymgymryd â’r swyddogaeth neu oes model arall y dylid ei ystyried?
  29. Ydych chi’n cytuno gyda’r egwyddor y dylid gwarantu bod yna ddigon o ddarpariaeth dysgu Cymraeg a strwythurau addas mewn lle i gefnogi dysgwyr o bob oed yng Nghymru?

Rydym hefyd wedi cyhoeddi ‘Amlinelliad o gostau ac effeithiau a fydd yn sail i Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Addysg Gymraeg’. Rydym yn gofyn y cwestiynau canlynol yn y ddogfen honno:

  1. Ydych chi’n cytuno gyda’n dehongliad ni o’r grwpiau a’r cyrff sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau? A oes grwpiau neu gyrff eraill yn dod o fewn cwmpas y newidiadau ar wahân i’r grwpiau a’r cyrff a nodir yn yr amlinelliad o gostau ac effeithiau a fydd yn sail i Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Addysg Gymraeg?
  2. Ar wahân i’r grwpiau a’r cyrff a nodir yn yr amlinelliad o gostau ac effeithiau a fydd yn sail i Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Addysg Gymraeg, ar ba grwpiau neu gyrff fyddai’r costau’n disgyn?
  3. Beth yw’r effeithiau eraill (ariannol ac anariannol) sy'n ymwneud â'r ddeddfwriaeth arfaethedig nad ydynt wedi'u hamlinellu yn yr amlinelliad o gostau ac effeithiau a fydd yn sail i Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Addysg Gymraeg?
  4. A oes unrhyw sylwadau eraill ar yr amlinelliad o gostau ac effeithiau a fydd yn sail i Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Addysg Gymraeg?

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i ymateb i’r cwestiynau uchod.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o’r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb. Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a’u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD,
CF10 3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth