Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi Papur Gwyn o'r enw "System Dribiwnlysoedd Newydd i Gymru" i ymgynghori ar gynigion ynghylch system fodern ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig Cymru.

Mae'r Papur Gwyn yn amlinellu cyfres o gynigion i greu strwythur tribiwnlysoedd unedig sydd wedi’i lunio mewn modd hyblyg ac sy'n gallu ymgorffori awdurdodaethau newydd heb fawr o darfu. Bydd y system dribiwnlysoedd newydd nid yn unig yn diwallu anghenion cyfiawnder presennol y tribiwnlysoedd yn well; bydd hefyd yn gallu addasu i ddiwallu anghenion Cymru yn y dyfodol.

Mae'r Papur Gwyn yn datblygu ac yn adeiladu ar argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a phrosiect Comisiwn y Gyfraith ar y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021.

Mae'r prif gynigion yn cynnwys:

  • creu Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac iddo strwythur siambrau;
  • creu Tribiwnlys Apêl Cymru;
  • dulliau symlach a chydlynol o benodi aelodau tribiwnlysoedd ac o ymdrin â chwynion ar draws y system dribiwnlysoedd newydd;
  • creu corff hyd braich newydd sy’n annibynnol yn strwythurol, i weinyddu Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru;
  • creu pwyllgor rheolau tribiwnlysoedd Cymru.

Mae gennym ddau nod wrth roi proses ddiwygio ar waith. Yn gyntaf, creu system dribiwnlysoedd fodern i Gymru sy'n canolbwyntio ar fynediad at gyfiawnder ac ar anghenion defnyddwyr tribiwnlysoedd, i roi hyder iddynt fod y system yn gweithredu’n annibynnol ac

mewn modd sy’n dyfarnu ar eu hanghydfodau yn gyfiawn, yn effeithlon ac yn brydlon. Yn ail, gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol lle mae cyfiawnder wedi'i ddatganoli, a Chymru’n gweinyddu ei system ehangach ei hun o lysoedd a thribiwnlysoedd.

Mae’r Papur Gwyn i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r Asesiad Effaith Integredig Drafft a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol Drafft, sy'n amlinellu costau effeithiau'r cynigion deddfwriaethol.

Bydd yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn cau ar 2 Hydref 2023. Bydd yr ymatebion, ynghyd â'r holl faterion perthnasol eraill gan gynnwys parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a datblygu ein sylfaen dystiolaeth, yn cael eu defnyddio’n sail i’n gwaith wrth inni fynd ati i ddatblygu polisi a deddfwriaeth.