Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy nghyhoeddiad yn gynharach eleni y byddem yn sefydlu corff cyhoeddus newydd, Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru ('yr Awdurdod'), mae'n bleser gennyf gadarnhau y bydd Fiona Jones OBE yn ymgymryd â rôl Cadeirydd yr Awdurdod o 28 Tachwedd 2025 am gyfnod o 5 mlynedd.

Bu'n broses benodi drylwyr a chystadleuol ac fe'i cynhaliwyd yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl ymgeiswyr am roi o'u hamser gwerthfawr a rhannu eu profiadau fel rhan o'r broses.

Mae rôl y Cadeirydd yn un proffil uchel a dylanwadol wrth gyflawni prif amcan yr Awdurdod, sef sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn peryglu lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd a gwneud yn siŵr bod ein cymunedau'n fwy diogel, nawr ac yn y dyfodol.

Mae gan Fiona Jones brofiad helaeth o sefydlu ac arwain gweithrediadau mawr, cymhleth ac rwyf yn hyderus y bydd yn cynnig y gefnogaeth a'r arweinyddiaeth angenrheidiol i'r Awdurdod fel y gall ennill ei le ac aeddfedu er mwyn wynebu'r heriau sydd i ddod. 

Mae Fiona'n angerddol dros gefnogi pobl agored i niwed a'r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Dyfarnwyd OBE iddi yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines y2020 am wasanaethau i bobl ddi-waith yng Nghymru

Yr Awdurdod hwn fydd y cyntaf o'i fath yn y DU, a bydd yn arwain yn fyd-eang yn ei faes -  gan ddatblygu gwybodaeth, profiad a sgiliau a fydd o fudd i bobl Cymru am genedlaethau. Yn ystod yr 19eg a'r 20fed ganrif Cymru oedd yn datblygu ac yn cynnig arbenigedd ar lefel fyd-eang ym maes mwyngloddio – dyma gyfle i arwain y byd eto, y tro hwn drwy greu talent a chreu cyfleoedd arloesol a phrofiad o ddelio â'n gwaddol mwyngloddio yn ystod cyfnod o newid sylweddol yn ein hinsawdd.