Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn proses benodi cyhoeddus drylwyr a chystadleuol, mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod yn penodi’r Dr Roisin Willmott yn Gadeirydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol am dymor o dair blynedd gan ddechrau ar 1 Chwefror 2026.

Cynhaliwyd y broses yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl ymgeiswyr a wnaeth gais a rhoi o'u hamser a'u profiad gwerthfawr trwy gydol y broses.

Mae rôl y Cadeirydd yn swydd proffil uchel a dylanwadol, sy'n ganolog o ran chwilio am atebion a chryfhau'r mesurau i wrthsefyll llifogydd ac addasu iddyn nhw yn y dyfodol yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor, a sefydlwyd yn 2017 o dan Adran 81(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 2016, yn cynghori Gweinidogion Cymru ar bob mater sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mae ei waith yn cynnwys codi ymwybyddiaeth, gwella parodrwydd a chryfhau gallu cymunedau i wrthsefyll llifogydd gan ddarparu hefyd ganllawiau strategol ar flaenoriaethau hirdymor ac arfer gorau.

Mae Roisin yn dod ag arbenigedd eithriadol ac arweiniad i'r rôl hon. A hithau'n Gynllunydd Tref Siartredig, mae hi wedi gweithio fel uwch swyddog mewn llywodraeth leol, yn fwyaf diweddar gyda Chyngor Caerdydd, lle bu'n ystyried sut i wreiddio carbon sero ac addasu i'r hinsawdd mewn arferion bob dydd. Cyn hynny, bu Roisin yn Gyfarwyddwr yn y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI), gan arwain polisi a gwasanaethau aelodau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, ac yn Gyfarwyddwr Cymorth Cynllunio Lloegr. Mae ei gyrfa hefyd yn rhychwantu rolau mewn addysg bellach ac ymgynghori economaidd a chynllunio ledled y DU ac Ewrop. Mae gan Roisin radd Meistr mewn Cynllunio o Brifysgol Oxford Brookes a PhD o Brifysgol Caerdydd. I gydnabod ei chyfraniad eithriadol i gynllunio yng Nghymru, rhoddwyd OBE iddi yn 2017 ac mae'n Gymrawd yr RTPI.

Hoffwn ddiolch yn ddiffuant hefyd i'r Cadeirydd sy'n gadael, Martin Buckle, ar ôl rhoi saith mlynedd o wasanaeth rhagorol. Yn ystod ei gadeiryddiaeth, magodd Martin berthynas waith gref gydag aelodau'r Pwyllgor ac ystod eang o randdeiliaid. Mae ei ymroddiad a'i ffocws ar wneud gwelliannau gweladwy yn adlewyrchu ei ymrwymiad i hyrwyddo gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol yn unol â blaenoriaethau'r Gweinidogion. Rwy'n ddiolchgar iawn am y wybodaeth a'r arbenigedd a roddodd wrth gefnogi Gweinidogion Cymru ac am ei gyfraniad sylweddol at fagu gwytnwch Cymru.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda Roisin a'r Pwyllgor wrth i ni barhau i adeiladu Cymru sy'n fwy diogel ac abl i wrthsefyll heriau’r dyfodol.