Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn proses benodi gyhoeddus agored ac yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus, mae'n bleser gennyf gyhoeddi penodiad is-gadeirydd parhaol a dau aelod annibynnol newydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Is-gadeirydd newydd y bwrdd yw Gareth Williams. Y ddwy aelod annibynnol newydd yw Urtha Felda a Caroline Turner.

Mae'r tri phenodiad yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth a byddant yn ychwanegu cryfder at y bwrdd.

Mae recriwtio ar y gweill ar gyfer cadeirydd parhaol a thri aelod annibynnol pellach. Bydd y penodiadau hyn yn cael eu cyhoeddi maes o law a byddant yn sicrhau bod gan y bwrdd y sgiliau a'r arbenigedd priodol i arwain y sefydliad trwy Fesurau Arbennig.