Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn proses benodi drylwyr a chystadleuol iawn, mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Christina Harrhy wedi'i phenodi'n Brif Swyddog Gweithredol cyntaf Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru (“yr Awdurdod”). Bydd Christina yn ymgymryd â'r rôl ar 13 Ebrill 2026 am gyfnod o 4 blynedd. Rwy'n ddiolchgar i'r holl ymgeiswyr a roddodd eu hamser, eu harbenigedd a'u safbwyntiau trwy gydol y broses.

Mae hon yn garreg filltir sylweddol arall wrth sefydlu'r Awdurdod a sicrhau bod ganddo'r arweinyddiaeth sydd ei angen arno i gyflawni ei gyfrifoldebau hanfodol.

Bydd y Prif Swyddog Gweithredol yn chwarae rhan ganolog wrth feithrin gallu gweithredol yr Awdurdod, arwain ei swyddogaethau o ddydd‑i‑ddydd, a llywio ei gyfeiriad strategol hirdymor. Gan weithio'n agos ochr yn ochr â'r Cadeirydd, Fiona Jones OBE, bydd Christina yn helpu i sefydlu'r Awdurdod yn gorff dibynadwy, arbenigol sy'n ymroddedig i sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn peri risg i les pobl, nawr ac yn y dyfodol.

Mae gan Christina dros 30 mlynedd o brofiad fel arweinydd gwasanaethau cyhoeddus yn sector cyhoeddus Cymru. Trwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi llywio polisi cyhoeddus a chryfhau'r gwaith o ddarparu gwasanaethau ledled Cymru, gan adeiladu timau sy'n perfformio'n dda ac arwain newid sefydliadol cymhleth mewn amgylcheddau lle mae llywodraethu effeithiol a diogelu'r cyhoedd yn hollbwysig.

Mae gennyf bob hyder y bydd Christina yn gallu bwrw iddi'n syth o ran gweithredu'r Awdurdod, gan roi'r systemau, y partneriaethau a'r mesurau diogelu angenrheidiol ar waith i sefydlu a llywio'r Awdurdod. 

Mae cefndir addysgol a phroffesiynol Christina yn adlewyrchu rhagoriaeth dechnegol ac ymrwymiad parhaus i arweinyddiaeth gyhoeddus. Graddiodd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Peirianneg Sifil ac yna enillodd statws Peiriannydd Siartredig a Chymrodoriaeth Sefydliad y Peirianwyr Sifil.

Mae'r penodiad hwn yn cryfhau sylfeini sefydliad a fydd y cyntaf o'i fath yn y DU ac yn arweinydd byd-eang yn ei faes. Bydd yr Awdurdod yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r arloesedd sydd eu hangen i reoli gwaddol mwyngloddio Cymru yn ystod cyfnod o newid sylweddol yn yr hinsawdd, gan greu cyfleoedd i genedlaethau'r dyfodol a gosod Cymru unwaith eto ar flaen y gad o ran arbenigedd byd-eang.

Mae penodi Christina yn Brif Swyddog Gweithredol yn gam pwysig ymlaen wrth gyflawni cenhadaeth yr Awdurdod a chefnogi cymunedau mwy diogel a gwydn ledled Cymru.