Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gennyf roi gwybod ichi y bydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cadarnhau heddiw y bydd Jo Whitehead yn cael ei phenodi’n Brif Weithredwr newydd y bwrdd yn dilyn proses recriwtio gystadleuol. Cafodd Jo Whitehead ei magu yng Ngogledd Cymru ac yn ystod y broses dangosodd ddealltwriaeth gadarn o’r heriau iechyd a gofal cymdeithasol yn y rhanbarth. Dangosodd hefyd synnwyr clir o sut y dylid mynd i’r afael â nhw.

Bydd hi’n ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 1 Ionawr o’i rôl bresennol fel Prif Weithredwr Gwasanaeth Ysbytai ac Iechyd Mackay yn Queensland. Mae ganddi gyfoeth o brofiad ym maes gofal iechyd yn y DU yn ogystal ag yn Awstralia.

Bydd Simon Dean, y Prif Weithredwr Interim, yn dychwelyd i’w rôl fel Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru ar 1 Medi. Mae ef wedi darparu arweinyddiaeth gref yn ystod y saith mis diwethaf tra bo’r bwrdd iechyd wedi ymateb a gweithredu’n gyflym ac yn gadarn i COVID-19. Wrth i’r GIG gynllunio a pharatoi at heriau’r gaeaf, mae’n hollbwysig ei fod yn dychwelyd i’w rôl genedlaethol. Hoffwn ddiolch yn bersonol iddo am aros gyda’r bwrdd iechyd am ddau fis yn fwy na’r hyn a gytunwyd yn wreiddiol, a hefyd am osod y sylfeini ar gyfer datblygu dull gweithredu uchelgeisiol i ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy yn unol â gweledigaeth Cymru Iachach.

Bydd Gill Harris, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Cyfarwyddwr Nyrsio, yn cymryd drosodd fel Prif Weithredwr Dros Dro a’r swyddog atebol am bedwar mis o 1 Medi ymlaen. Bydd hi’n chwarae rôl allweddol o ran cynorthwyo’r broses bontio a gweithio gyda Jo Whitehead a fydd yn ymgysylltu â’r Cadeirydd, y Bwrdd a’r Tîm Gweithredol cyn iddi ddechrau’n swyddogol. Mae’r Cadeirydd a’r Bwrdd yn hyderus y bydd Gill Harris, gyda chymorth ei chydweithwyr, yn arwain y sefydliad yn dda yn ystod y pedwar mis nesaf ac yn rhoi cymorth strategol i’r Prif Weithredwr newydd ynglŷn â chynlluniau a chyfeiriad y bwrdd at y dyfodol. Mae hyn yn dangos hyder cryfach yn yr uwch reolwyr o fewn y bwrdd iechyd, a fydd yn sail iddo wrth fynd ati gyda dull mwy trawsffurfiol i gefnogi canlyniadau gwell.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn gwneud datganiad pellach ynglŷn â’r dull strategol arfaethedig ar gyfer y dyfodol ynghyd â gwelliannau mwy uniongyrchol yn y meysydd mwyaf heriol.