Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Rwy’n cyhoeddi cynnal ailbenodiadau ar gyfer tymor newydd o 12 mis ar gyfer y Cadeirydd a thri aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Bydd y penodiadau hyn yn dechrau ar 1 Ionawr 2012.
Sefydlwyd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ym mis Ionawr 2008 a bu’n gweithredu o dan Reoliadau’r Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007. Roedd y Rheoliadau’n gofyn i’r Panel bennu uchafswm ar gyfer y lwfansau yr oedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael talu i’w cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig penodol. Bellach mae’r Panel yn gweithredu o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Mae’r Mesur wedi ehangu cylch gwaith y Panel i gynnwys awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, awdurdodau tân ac achub Cymru a chynghorau cymuned a thref. Mae’r Panel yn pennu lefelau lwfansau y mae’r awdurdodau’n cael talu i’w haelodau, yn ogystal â gosod uchafswm. Mae’r Panel yn cael gwneud argymhellion gwahanol ar gyfer y gwahanol awdurdodau.
O dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, yr aelodaeth ar gyfer Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yw Cadeirydd a phedwar aelod a benodir gan Weinidogion Cymru. Mae’r aelodau’n gwasanaethu am dymor na chaiff fod yn hirach na phedair blynedd ac sy’n adnewyddadwy am hyd at ddeng mlynedd fan bellaf. Rhaid i Aelodau’r Panel ethol un o’u plith fel Is-gadeirydd.
Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ehangu cylch gwaith a phŵer y Panel a hefyd yn cyflwyno ffordd o gadw cydbwysedd ar ei bwerau newydd.
Yr aelodau sy’n cael eu hailbenodi ar gyfer tymor newydd yw:-
- Richard Penn fel Cadeirydd
- John Bader – Aelod
- Declan Hall – Aelod
- Gareth Newton – Aelod
Yn sgil dilyn proses recriwtio cyhoeddus, cafodd yr Aelodau hyn eu penodi’n gyntaf ar 1 Ionawr 2008 am gyfnodau o bedair blynedd a ddaw i ben ar 31 Rhagfyr 2011. Mae’r Cadeirydd a’r tri Aelod wedi eu hailbenodi am gyfnod newydd o 12 mis. Nid ydynt yn dal unrhyw swydd Weinidogol arall.
Rwyf felly wedi awdurdodi cychwyn proses recriwtio ar gyfer pob un o’r pum aelod o’r Panel, un i ymuno cyn gynted â phosibl a’r pedwar arall i ddechrau ym mis Ionawr 2013. Mae’r aelodau presennol yn cael ymgeisio os ydynt am wneud hynny. Mae’r hysbyseb wedi’i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 6 Chwefror 2012.
Mae angen mwy o amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus gan ein bod yn awyddus i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn ystyried safbwyntiau a materion gwahanol. Mae’n hanfodol hyrwyddo amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus os ydym am gynyddu nifer y menywod, y bobl o leiafrifoedd ethnig a’r bobl anabl, yn ogystal â grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, sy’n cael cyfle i wasanaethu ar fyrddau. Rydym hefyd yn awyddus i ddenu’r rheini na fyddent fel arall wedi ystyried gwasanaethu ar gorff cyhoeddus.
Dylid gwneud penodiadau gweinidogol i swyddi cyhoeddus ar sail teilyngdod bob amser, a dylai prosesau clir fod ar waith i sicrhau tegwch a thryloywder, er mwyn cael cymaint o amrywiaeth â phosibl ymhlith yr ymgeiswyr.
Dylai’r egwyddorion hyn ein helpu i ehangu maes yr ymgeiswyr posibl gan greu pwll mwy cynrychiadol o bobl i wneud penderfyniadau yng Nghymru.
Nid yw menywod yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar lawer lefel yn ein bywyd cyhoeddus ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i geisio rhoi sylw i hynny. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a chyrff eraill i nodi’r camau y mae angen eu cymryd i greu pwll mwy cynrychiadol o bobl ar gyfer gwneud penderfyniadau, ac i gynyddu nifer y menywod sy’n cael eu penodi i swyddi cyhoeddus.
Er nad yw’r penodiadau i’r Panel o fewn cylch gwaith y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, byddant yn cael eu gwneud trwy ddilyn proses Cod Ymarfer y Comisiynydd fel yr arfer gorau.
Mae Dr Rita Austin wedi penderfynu nad yw am gael ei hystyried ar gyfer ei hailbenodi, ond mae wedi gwasanaethu’r Panel yn dda gyda’i phrofiad eang ym maes gwasanaethau cyhoeddus llywodraeth leol, addysg, iechyd ac asiantaethau cyfiawnder troseddol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Dr Rita Austin am ei phedair blynedd o wasanaeth ar Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.