Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pleser yw rhoi gwybod ein bod yn cyhoeddi ein polisi hydrogen heddiw. 

Mae gan Gymru ddigonedd o adnoddau ynni adnewyddadwy sy'n cynnig cyfle gwych i gynhyrchu hydrogen carbon isel.  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y defnyddir hydrogen yn ddiogel ac yn effeithiol, gan wneud y defnydd gorau o’r dechnoleg i esgor ar fuddion datgarboneiddio a buddion economaidd i Gymru. 

Yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Mai 2025, rydym wedi cymryd amser i ystyried ymatebion yr ymgynghoriad yn llawn, yn ogystal ag ystyried cyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar Bedwaredd Gyllideb Garbon Cymru ac Adolygiad o Wariant a Strategaeth Ddiwydiannol Fodern Llywodraeth y DU. Rydym hefyd wedi ystyried sut y bydd y polisi hwn yn cyd-fynd â pholisi strategol Dal a Storio CarbonLlywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Mae'r polisi hydrogen a gyhoeddwn heddiw yn tynnu sylw at bwysigrwydd strategol seilwaith hydrogen i ddatgarboneiddio a thwf economaidd cynaliadwy yng Nghymru.  Mae'r polisi yn cyd-fynd â modelau busnes a chymorth hydrogen Llywodraeth y DU, gan ddarparu'r cyfle gorau i ddatblygwyr Cymru gael mynediad llwyddiannus at Rowndiau Dyrannu Hydrogen, tra'n  dangos ymrwymiad clir i'n hamcanion llesiant hefyd.   

Dylunio ein polisi hydrogen

Mae ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol diwydiant a chynhyrchu ynni yn un lle caiff diwydiannau cynaliadwy eu cadw yng Nghymru, gan gynnal gyrfaoedd a swyddi o ansawdd uchel a rhoi buddion eraill i’r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt.  Mae Cymru yn falch o’i sylfaen ddiwydiannol, a rhaid inni annog buddsoddiad angenrheidiol i ategu’r gwaith o bontio tuag at ddyfodol cynaliadwy a fydd wedi’i ddatgarboneiddio.

Ar sail cyngor a barn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Diwydiant Sero Net Cymru, grwpiau rheoleiddio Llywodraeth y DU, a'n rhanddeiliaid diwydiannol, academaidd a chyhoeddus, rydym yn cymryd camau beiddgar i gefnogi diwydiant i ddatgarboneiddio, fel y nodir yn Cymru Sero Net, ein cynllun strategol i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd hydrogen ar gyfer datgarboneiddio, yn enwedig ar gyfer sectorau sy'n anodd eu trydaneiddio, fel diwydiant trwm a rhai achosion yn y diwydiant trafnidiaeth. Rydym hefyd yn cydnabod y cyfleoedd economaidd sylweddol y gall y dechnoleg eu cynnig i ddiwydiant, busnesau a dinasyddion Cymru.  Bydd prosiectau hydrogen yn creu gyrfaoedd a swyddi yn ystod y camau adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw, a hefyd byddant yn diogelu swyddi mewn sectorau eraill ac yn darparu cyfleoedd ehangach yn y gadwyn gyflenwi.

Manylion a Chanlyniadau’r Ymgynghoriad

Cafwyd 62 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’r ymatebion hyn yn cynrychioli trawstoriad eang o blith y byd diwydiant, y byd academaidd, cyrff y llywodraeth, sefydliadau masnach ac unigolion, a hoffwn ddiolch i’r rhai a ymatebodd.

Fe wnaeth llawer o'r rhai a wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad fachu ar y cyfle i bwysleisio pa mor bwysig yw hydrogen ar gyfer datgarboneiddio diwydiant ac ynni, yn enwedig ar gyfer sectorau sy'n heriol eu trydaneiddio.  Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cefnogi alinio'r polisi â Safon Hydrogen Carbon Isel y DU, a'r gofyniad i hydrogen wneud cyfraniad clir a chynaliadwy at ddatgarboneiddio ac adeiladu economi gryfach a gwyrddach sy'n osgoi dad-ddiwydiannu.

Roedd rhai ymatebion yn cwestiynu sut y byddai'r hierarchaeth ynni o fewn Polisi Cynllunio Cymru yn berthnasol i natur benodol datblygiadau hydrogen. Rôl yr hierarchaeth yw arwain buddsoddiad ynni tuag at lai o ddefnydd ynni, enillion effeithlonrwydd ac ynni adnewyddadwy. Mae gan hydrogen rôl strategol wrth gyflawni'r nodau hyn, ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu canllawiau ychwanegol a fydd yn egluro sut mae hydrogen yn cyd-fynd â'r hierarchaeth ynni. 

Polisi Strategol Terfynol ar gyfer Hydrogen

Mae'r polisi cyhoeddedig yn annog buddsoddiad mewn cynhyrchu a defnyddio hydrogen yn yr achosion canlynol: 

  • Pan fydd y broses gynhyrchu hydrogen yn bodloni gofynion Safon Hydrogen Carbon Isel (LCHS) Llywodraeth y DU.
  • Pan fo hydrogen yn gwneud cyfraniad clir, mesuradwy a pharhaol at dargedau ac amcanion datgarboneiddio
  • Pan nad yw cynhyrchu hydrogen yn cyfrannu at ddefnyddio tanwydd ffosil mewn modd anghynaliadwy nac yn rhwystro ein trawsnewidiad i sero net
  • Pan fo hydrogen yn cyfrannu at economi gynaliadwy sy’n tyfu

Mae ystyried dwysedd allyriadau datblygiad, yn hytrach na rhagnodi technolegau a ffafriwyd, yn cynnig y cyfle ehangaf posibl i ddatblygwyr ddyfeisio dulliau arloesol er mwyn mynd i'r afael â heriau sector-benodol a safle-benodol.  Mae’r polisi’n cynnig mwy o eglurder ac mae’n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, rheoleiddwyr a datblygwyr i helpu i gyflawni uchelgeisiau sero net Cymru a’r DU.

Bydd ein sefyllfa bolisi strategol derfynol ar gyfer hydrogen yn cyd-fynd â’n fframwaith polisi esblygol, sy’n anelu at osgoi cloddio a defnyddio tanwyddau ffosil, yn ogystal â chynnig dewisiadau amgen ar gyfer newid tanwydd a rheoli’r allyriadau hynny na ellir eu hosgoi.