Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn partneriaeth â'r sectorau da byw a milfeddygol, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gadw seroteip 3 y tafod glas (BTV-3) allan o Gymru eleni. Rydym wedi bod yn monitro'r sefyllfa'n agos ac yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar risg i addasu ein polisi. Rwy'n falch iawn o'r hyn rydym wedi ei gyflawni hyd yma, ond yn cydnabod y byddwn yn wynebu amgylchiadau gwahanol o'r 1af o Orffennaf ymlaen, pan fydd parth cyfyngedig y tafod flas (RZ) ledled Lloegr yn dod i fodolaeth. 

Mae'r dull presennol o ddefnyddio parth cyfyngedig yn Lloegr wedi helpu i gadw'r tafod glas oddi wrth y ffin â Chymru. Rwy'n ddiolchgar i'r sector da byw yn Lloegr, Sefydliad Pirbright a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) am eu hymdrechion a'u cydweithrediad rhagorol o ran y mater hwn. Mae'n anffodus na ellir cynnal y parth cyfyngedig presennol, ond rwy'n yn deall y rhesymau dros ei ymestyn i Loegr gyfan. 

Yn ymarferol, mae'n golygu y byddwn yn colli'r sicrwydd o gael dwy sir fel ardal glustogi rhwng da byw a allai fod wedi'u heintio yn Lloegr a'r ffin â Chymru. Mae'r newid hwn yn cynyddu'r risg y gallai'r clefyd ledaenu i Gymru, naill ai trwy symud da byw heintiedig, neu wrth i wybed sy'n cario feirws y tafod glas ddod i mewn o'r tu hwnt i'r ffin.

Mae ymateb i ehangu'r parth cyfyngedig i Loegr gyfan felly yn benderfyniad pwysig - gyda goblygiadau i'r sectorau da byw ac iechyd a lles anifeiliaid ledled Cymru. Rwy'n deall bod safbwyntiau gwahanol ynglŷn â'r dull o reoli tafod glas yng Nghymru yn y dyfodol. Er mwyn sicrhau fy mod yn ymwybodol o'r holl fanylion, ac i helpu i wneud penderfyniad cytbwys a gwybodus, cynhaliais gyfarfod bord gron tafod glas gydag uwch gynrychiolwyr y sectorau da byw a milfeddygol ar 5 Mehefin. Gwrandawais ar eu barn a'u hystyried yn ofalus cyn penderfynu ar bolisi cymesur ar gyfer rheoli'r tafod glas yng Nghymru yn y dyfodol.

Nid yw'n ymddangos yn ymarferol nac yn realistig y gallwn gadw'r clefyd allan am byth, a fyddai'n golygu gwahardd holl symudiadau da byw i fyw o'r parth cyfyngedig yn Lloegr.  O ystyried y dystiolaeth a gwrando ar gynrychiolwyr y diwydiant, credaf y byddai'r opsiwn hwnnw'n rhy heriol, yn ogystal â bod yn anghynaladwy yn y tymor hir. 

Ar yr un pryd, ni allaf wahodd y tafod glas i Gymru ar 1 Gorffennaf trwy alinio â'r parth cyfyngedig yn Lloegr.  Nid wyf yn fodlon peryglu effaith ansicr y clefyd mewn ardaloedd lle mae llawer o dda byw, fel y Gororau.  Rwyf hefyd yn bryderus iawn am effeithiau ar yr economi ac ar les ffermwyr o ddelio ag anifeiliaid sâl, a cholledion o safbwynt ffrwythlondeb a chynhyrchiant da byw sy'n gysylltiedig â thafod glas difrifol, fel y gwelwyd mewn llawer o wledydd Ewropeaidd yr effeithir arnynt.

O ystyried y dystiolaeth sydd ar gael ac adborth gwerthfawr y sectorau milfeddygol a da byw, fy mhenderfyniad yw ceisio dal y clefyd yn ôl cyn hired ag y gallwn. Er y bydd symud da byw i fyw yn cael ei ganiatáu gyda phrawf cyn symud negyddol, bydd amser gennym i fonitro effeithiau'r tafod glas mewn ardaloedd lle mae llawer o dda byw yn Lloegr, ac yn hollbwysig, bydd yn rhoi amser ychwanegol i geidwaid yng Nghymru frechu eu hanifeiliaid rhag y clefyd. 

Roedd cyfranogwyr yng nghyfarfod bord gron y tafod glas oll yn unfrydol yn eu cefnogaeth i frechu fel y ffordd orau o ddiogelu diadelloedd a buchesi rhag y clefyd yn y dyfodol. Fe wnaethant hefyd gytuno bod hyrwyddo brechu ar gyfer y tafod glas yn flaenoriaeth a rennir i bob parti dros yr wythnosau nesaf.

Rwy'n sylweddoli y bydd rhai sectorau o'r diwydiant yn cael eu siomi ac rwy'n cydnabod y bydd gofynion trwyddedu, costau profi da byw a phwysau masnachol eraill yn deillio o fy mhenderfyniad. Rwyf hefyd yn ymwybodol ein bod yn wynebu darlun deinamig ac esblygol o'r clefyd ym Mhrydain Fawr, a'n bod yn delio â chlefyd a gludir gan wybed, sy'n dymhorol ei natur. 

Am y rhesymau hyn, rwy'n ymrwymo i gadw'r polisi hwn dan adolygiad rheolaidd, yn seiliedig ar y dystiolaeth "ar lawr gwlad" yng Nghymru, a rhannau eraill o Brydain Fawr. Er gwaethaf ein hymdrechion gorau, mae perygl y bydd y tafod glas yn cael ei gadarnhau yng Nghymru, ac yn yr achos hwnnw bydd angen camau rheoli clefydau perthnasol. Beth bynnag yw'r dyfodol, byddwn yn adolygu'r polisi hwn yn yr Hydref i weld a yw'n dal i fod yn addas i'r diben. 

Ar hyn o bryd, fy nod yw cadw'r tafod glas allan o Gymru er budd ein hanifeiliaid a'r rhai sy'n eu cadw, ond rwy'n barod i addasu i'r sefyllfa os bydd y clefyd yn esblygu. 

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am y tafod glas yng Nghymru ar gael ar-lein yn Feirws y Tafod Glas (BTV) | LLYWODRAETH. CYMRU