Mae feirws y tafod glas (BTV) yn glefyd feirysol sy'n heintus, ond nad yw'n gallu cael ei drosglwyddo rhwng pobl, a gludir gan fectorau sy'n effeithio ar anifeiliaid gwyllt a domestig sy'n cnoi cil fel defaid, geifr, gwartheg, ceirw a chamelidau. Nid yw'n heintio pobl ac nid oes risg i iechyd y cyhoedd na diogelwch bwyd.
Yr wybodaeth ddiweddaraf
Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar y sefyllfa bresennol o ran y tafod glas ar gael ar wefan Ruminant Health and Welfare.
Diweddariad 27 Tachwedd 2023
Yn dilyn gwyliadwriaeth o fewn y parth rheoli dros dro (TCZ) 10km yn Ne-ddwyrain Lloegr nodwyd pedwar achos pellach mewn gwartheg o dafod glas seroteip 3 ar dau safle ychwanegol. I gyd o fewn y TCZ 10km ac o fewn 5km i'r achos cyntaf a ganfuwyd ger Caergaint, Caint.
Mae'r TCZ 10km yn parhau i fod ar waith ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar GOV.UK
Diweddariad 11 Tachwedd 2023
Ar 11 Tachwedd, cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol y DU un achos o feirws seroteip 3 y tafod glas (BTV-3) mewn safle ger Caergaint yn dilyn gwyliadwriaeth arferol ar y tafod glas. Mae'r fuwch yr effeithiwyd arni wedi'i difa heb greulondeb i leihau'r risg o drosglwyddo clefyd.
Mae Parth Rheoli Dros Dro TCZ 10km lleol wedi'i sefydlu o amgylch y safle i gyfyngu ar symud anifeiliaid a allai gael yr haint, ac eithrio o dan drwydded. Ni chaniateir symud anifeiliaid byw allan o'r TCZ ar hyn o bryd. Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedau ar gael ar GOV.UK.
Amheuaeth a chadarnhad
Os oes gennych unrhyw amheuon fod y tafod glas ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Arwyddion clinigol
Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol mewn defaid:
- wlserau neu friwiau yn y geg a'r trwyn
- llif o'r llygaid neu'r trwyn a glafoeri o'r geg
- y gwefusau, y tafod, y pen, y gwddf a'r croen yng nghefn y carn wedi chwyddo
Mae arwyddion clinigol eraill yn cynnwys:
- croen coch o ganlyniad i waed yn casglu o dan yr wyneb
- twymyn
- cloffni
- problemau anadlu
- erthylu
- marwolaeth
Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol mewn gwartheg:
- blinder
- briwiau a chroen caled o gwmpas y ffroenau a'r geg
- cochni ar y geg, y llygaid a'r trwyn
- cochni ar y croen uwchben y carn
- llif o'r trwyn
- cochni a briwiau ar y tethi
- blinder
- twymyn
- cynhyrchu llai o laeth
- colli awydd am fwyd
- erthylu
Gall gwartheg llawndwf fod yn ffynhonnell feirws am sawl wythnos gan arddangos ychydig o arwyddion clinigol o glefyd neu ddim arwyddion clinigol o glefyd. Mae fectorau pryfed yn aml yn eu ffafrio hwy o ran lletya.
Y tafod glas mewn lloi
Gall buwch gyflo sydd wedi'i heintio drosglwyddo'r tafod glas i'w ffetws. Gall hyn arwain at erthyliad, lloi'n cael eu geni'n llai, yn wan, wedi'u hanffurfio neu'n ddall, a marwolaeth lloi o fewn ychydig ddyddiau i'w geni.
Mae gwartheg llawndwf sydd â'r math BTV-8 sydd ar led yn Ffrainc yn debygol o ddangos llai o arwyddion clinigol. Ond bydd gan eu lloi fwy o broblemau clinigol.
Dylai ceidwaid a milfeddygon da byw ystyried y tafod glas fel achos posibl ar gyfer lloi sy'n dangos yr arwyddion hyn.
Trosglwyddo
Gall feirws y tafod glas gael ei ledaenu gan rai rhywogaethau o wybed sy'n brathu (rhywogaethau o'r genws Culicoides). Y gellir dod o hyd i lawer ohonynt ledled Prydain Fawr.
Mae gwybed yn cael eu heintio â'r feirws pan fyddant yn brathu anifail heintiedig ac mae'r feirws yn lledaenu pan fydd y gwybedyn heintiedig wedyn yn brathu anifail sydd heb ei heintio a allai gael ei heintio . Unwaith y bydd gwybedyn wedi codi'r feirws tafod glas bydd yn gludwr am weddill ei oes.
Mae gwybed ar eu prysuraf rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd. Mae'r tywydd (tymheredd, cyflymder a chyfeiriad y gwynt, a glaw) yn effeithio ar ba mor gyflym a pha mor bell y gall gwybed ledaenu'r clefyd.
Gall feirws y tafod glas hefyd gael ei ledaenu trwy symud anifeiliaid heintiedig, a thrwy gynhyrchion biolegol fel:
- gwaed,
- cynhyrchion cenhedlol (semen neu embryonau)
gan gynnwys trwy fewnforion o wledydd lle gallai'r tafod glas fod yn mynd ar led heb ei ganfod.
Atal a rheoli
Gallwch helpu i atal y clefyd trwy:
- frechu eich anifeiliaid gyda brechlyn awdurdodedig addas
- sicrhau bod da byw yn dod o ffynonellau cyfrifol
- cadw at fesurau bioddiogelwch llym ar eich safle
- parhau i fod yn wyliadwrus
Dylai ceidwaid sy'n ystyried mewnforio anifeiliad neu gynhyrchion biolegol o wledydd y mae BTV yn effeithio arnynt ymgynghori â'u milfeddyg ar y risgiau o wneud hynny cyn penderfynu mewnforio. Gall anifeiliaid a fewnforir sy'n profi'n bositif am y tafod glas gael eu difa neu eu dychwelyd i'r wlad tarddiad. Mae rhagor o wybodaeth am ofynion mewnforio ar gael ar GOV.UK.