Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n ysgrifennu i’ch hysbysu am ddatblygiad arwyddocaol ac angen brys i gau Pont Groesfan Menai dros dro. Yn dilyn yr ymchwiliadau strwythurol diweddaraf a gynhaliwyd fel rhan o waith Cam 2 gan UK Highways A55 DBFO Ltd, y corff sy’n gyfrifol am gynnal a gweithredu’r bont, argymhellodd peirianwyr gyflwyno terfyn pwysau o 3 tunnell (ceir a beicwyr modur) ar y bont ar unwaith, gyda gorfodi. Mae hyn yn dilyn yr angen i ddisodli bolltau ar drawstiau hanfodol sydd wedi’u lleoli o dan y strwythur. Daeth y terfyn pwysau newydd hwn i rym ddydd Gwener 3 Hydref.

Er gwaethaf holl ymdrechion Llywodraeth Cymru i gadw’r bont ar agor, gwnaethom y penderfyniad anodd i gau’r bont dros dro ar unwaith ddydd Sadwrn, 4 Hydref. Mae’r penderfyniad hwn yn dilyn adborth gan UK Highways A55 DBFO Ltd, gan amlygu heriau gyda gorfodi sy’n peryglu gweithrediad diogel y bont ar 3 tunnell. Mae gorfodi’r terfyn pwysau yn hanfodol ac yn ystod y terfyn pwysau o 7.5 tunnell bu achosion o anufudd-dod gan HGV a choetsys yn croesi’r bont ac yn anwybyddu’r arwyddion terfyn pwysau.

Rwy’n cydnabod yn llwyr y tarfu y bydd y cau hwn yn ei achosi ac rwy’n dymuno ymestyn fy ymddiheuriadau diffuant i’r cymunedau lleol ac i bawb sydd wedi’u heffeithio. Rwy’n rhannu eich rhwystredigaeth ac yn eich sicrhau bod fy swyddogion a minnau yn pwyso ar UK Highways A55 DBFO Ltd am ddatrysiad cyflym a diogel i alluogi’r bont i ailagor ac i barhau â’r gwaith hanfodol Cam 2.

Er ein bod wedi archwilio pob opsiwn posibl i gadw’r bont ar agor yn ddiogel, mae’r cyngor gan beirianwyr a’r pryderon gorfodi a godwyd gan UK Highways A55 DBFO Ltd wedi ein gadael heb ddewis ond i weithredu cau dros dro llawn. Rydym yn ddiolchgar i Heddlu Gogledd Cymru am eu cefnogaeth dros y penwythnos wrth reoli’r sefyllfa frys hon i gadw’r bont ar waith yn ystod Storm Amy.

Mae trefniadau mynediad i gerbydau gwasanaethau brys ar waith pe bai Pont Britannia yn cael ei heffeithio gan wyntoedd cryfion neu unrhyw ddigwyddiad arall sy’n effeithio ar Bont Britannia, gan sicrhau parhad gwasanaethau hanfodol. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi sicrhau Llywodraeth Cymru y byddent yn helpu ac yn cynorthwyo mewn unrhyw sefyllfaoedd brys pellach sy’n effeithio ar Bont Britannia a fyddai’n gofyn am fynediad trwy Bont Groesfan Menai i gerbydau o dan 3 tunnell.

Bydd y cau dros dro yn parhau tan y bydd ymchwiliadau pellach wedi’u cwblhau. Rwyf wedi gofyn i gael fy nghadw’n llawn wybod am ddatblygiadau ac i gael diweddariad ar gynnydd erbyn diwedd 6 Hydref ynghylch cynllun rheoli traffig cadarn a mesurau gorfodi i ailagor y bont cyn gynted â phosibl ac mor ddiogel â phosibl i’r gymuned. Mae hon yn sefyllfa sy’n datblygu, ac rydym wedi ymrwymo i’ch cadw’n wybodus drwy’r cyfnod hwn a byddwn yn darparu diweddariadau cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Dros y penwythnos, cyfarfûm yn uniongyrchol â UK Highways A55 DBFO Ltd, Aelodau lleol o’r Senedd a’r Senedd San Steffan, a’r Arweinydd Ynys Môn i ddeall y sefyllfa yn llawn ac i ddarparu diweddariad. Cyfleais, heb unrhyw amheuaeth, y rhwystredigaeth ddofn a’r siom a deimlwyd gan y gymuned a minnau, barn a rannwyd gan aelodau lleol ynghylch perfformiad UK Highways A55 DBFO Ltd wrth reoli’r seilwaith hanfodol hwn.

Mae’r dudalen cwestiynau cyffredin yn cael ei diweddaru mewn perthynas â’r mater A5 Pont Menai: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU ac rwy’n diolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth barhaus. Rwy’n bwriadu cyhoeddi diweddariadau pellach pan fydd mwy o wybodaeth yn cael ei derbyn, gan gynnwys unrhyw effaith ar raglen y gwaith ar y bont yn y tymor hwy.