Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Yn dilyn argymhelliad Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig (DU) y dylid cynnal cyfrifiad yn 2031, mae llywodraeth y DU wedi comisiynu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) i gynnal y cyfrifiad nesaf yng Nghymru a Lloegr. Y cyfrifiad yw un o'r ymarferion casglu data mwyaf arwyddocaol a gynhelir yn y DU, gan lywio penderfyniadau ynghylch gwasanaethau cyhoeddus, dyraniadau cyllid, a chynllunio hirdymor.
Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer Cyfrifiad 2031, bydd y SYG yn cynnal prawf cyfrifiad ar raddfa fawr yng ngwanwyn 2027 ledled Cymru a Lloegr. Heddiw, cyhoeddodd y SYG yr ardaloedd prawf, ac mae Caerdydd a Sir Fynwy wedi'u dewis yng Nghymru.
Bydd prawf y cyfrifiad yn 2027 yn caniatáu i'r SYG dreialu gwahanol ddulliau gweithredol a chasglu data cyn y cyfrifiad llawn yn 2031. Bydd tua 120,000 o gartrefi ar draws chwe ardal awdurdod lleol, gan gynnwys Caerdydd a Sir Fynwy, yn cael eu gwahodd i gwblhau holiadur, gyda'r rhan fwyaf yn ymateb ar-lein ond gydag opsiynau amgen ar gael lle bo angen.
Bydd y prawf yn asesu amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys:
- ffyrdd o annog cyfraddau ymateb uwch
- galluoedd technegol newydd ar gyfer canolfannau cyswllt
- dilysu ar-lein symlach
- llwybrau cwblhau ar garreg y drws a thros y ffôn
- defnyddio ffynonellau data amgen i helpu i nodi eiddo gwag
- dulliau ar gyfer casglu data gan fyfyrwyr mewn neuaddau preswyl a phreswylwyr mewn cartrefi gofal
Bydd y treialon hyn yn helpu i benderfynu pa ddulliau sydd fwyaf effeithiol a sicrhau bod y cyfrifiad yn 2031 yn rhedeg yn effeithlon, yn gynhwysol, i safon uchel ac yn ymateb yn gadarnhaol i nodweddion ieithyddol a chymdeithasol penodol Cymru.
Er bod cymryd rhan yn y prawf cyfrifiad yn wirfoddol, rwy'n annog yn gryf bob aelwyd sy'n cael eu gwahodd i gymryd rhan i wneud hynny. Drwy gymryd rhan, bydd preswylwyr yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i sicrhau bod y systemau ar gyfer Cyfrifiad 2031 wedi'u cynllunio'n dda ac yn effeithiol. Mae cyfrifiad llwyddiannus yn 2031 yn dibynnu ar brofion cadarn, a bydd y fewnwelediad a geir gan gymunedau Cymru yn helpu i sicrhau bod anghenion a nodweddion Cymru yn cael eu hadlewyrchu'n gywir.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r SYG wrth baratoi ar gyfer prawf y cyfrifiad yn 2027, ymarfer cyfrifiad yn 2029 a'r cyfrifiad llawn yn 2031.
