Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw ymgynghoriad ar dair set o Reoliadau drafft yn unol â gweithredu Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn parhau ar agor tan 5 Chwefror 2024.

Y rheoliadau yr ydym yn ymgynghori arnynt yw:

  • Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) 2024
  • Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Dynodi Darparwyr) (Cymru) 2024
  • Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2024

Yr ymgynghoriad hwn yw’r cam cyntaf ar y daith i sefydlu cofrestr o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru, a’r Rheoliadau drafft hyn yw’r rhai cyntaf sydd eu hangen i ganiatáu i’r system gofrestru gael ei sefydlu a'i gweithredu yn ôl y bwriad. Maent yn adeiladu ar y fframwaith trosfwaol o oruchwyliaeth reoleiddiol y darperir ar ei gyfer yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.

Pan fyddant wedi'u gwneud, bydd y Rheoliadau’n darparu sylfaen i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (y Comisiwn) sefydlu’r gofrestr. Bydd y Rheoliadau’n galluogi’r Comisiwn i ddatblygu ei ddisgwyliadau ar gyfer yr amodau cofrestru sy’n berthnasol i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru.

Rwyf wedi gwrando ar y negeseuon cryf gan y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y newidiadau hyn. Rwy'n benderfynol o hwyluso cyfnod trosglwyddo llyfn ac effeithiol o'r trefniadau presennol i'r system gofrestru newydd, yn enwedig o ran yr oruchwyliaeth reoleiddiol a'r effeithiau ehangach ar gymorth i fyfyrwyr, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol caniatáu digon o amser i hyn ddigwydd. 

Felly, er fy mod yn disgwyl i lawer o waith y Comisiwn i ddatblygu'r system newydd, a'i ymgynghoriad â'r rhai yr effeithir arnynt, ddechrau yn ystod 2024 a 2025, fy mwriad erbyn hyn yw sefydlu'r gofrestr erbyn Gorffennaf 2026 a gweithredu'r trefniadau rheoleiddio cysylltiedig yn llawn ym mlwyddyn academaidd 2027/28.

Bydd y gofrestr yn ffurfio porth rheoleiddio ar gyfer dynodi cyrsiau addysg uwch yn awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru, ac mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn darparu ystod o swyddogaethau ymyrraeth reoleiddiol i'r Comisiwn i gefnogi'r drefn reoleiddio.

Credaf y bydd y Rheoliadau hyn yn rhoi'r rhyddid gweithredol angenrheidiol i'r Comisiwn, fel corff hyd braich, i ddatblygu ei ddisgwyliadau ei hun o ddarparwyr i fodloni'r gofynion rheoleiddio hynny, a'i ddull penodol o fonitro ac ymyrraeth.

Er mai mater i'r Comisiwn fydd creu ffordd o weithredu'r rhain, rwy'n disgwyl iddo gefnogi darparwyr i ddiogelu buddiannau myfyrwyr, trethdalwyr Cymru ac enw da addysg uwch yng Nghymru.

Mae digwyddiadau wedi'u cynllunio dros y misoedd nesaf i randdeiliaid drafod y Rheoliadau drafft a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y diwygiadau hyn i gymryd rhan yn y digwyddiadau y byddaf yn eu darparu i'w helpu i ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Rwy'n argyhoeddedig mai'r cydweithrediad parhaus hwn fydd yn sicrhau llwyddiant a chynaliadwyedd y gwaith diwygiadau.

Edrychaf ymlaen at gael barn rhanddeiliaid ar y materion hyn.