Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Rheoliadau drafft wedi’u gosod i estyn dyddiad dod i ben y pŵer a roddir i Weinidogion Cymru gan adran 1 o Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022, o’r dyddiad dod i ben presennol sef 8 Medi 2027 i ddyddiad dod i ben newydd sef 30 Ebrill 2031. Gweler y Memorandwm Esboniadol ar gyfer Rheoliadau Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (Estyn Dyddiad Dod i Ben) 2026 yma.

Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn dilyn y datganiad a gyhoeddwyd ar 13 Chwefror 2026. Roedd y Datganiad Ysgrifenedig blaenorol yn cyd-fynd â chyhoeddi’r crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a geisiodd farn ar y mecanweithiau priodol ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru ac adolygiad Gweinidogion Cymru o Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022. Cyfrannodd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda’r cyhoedd a Senedd Cymru at yr adolygiad, y mae rhaid ei gyhoeddi cyn gosod y Rheoliadau i estyn y dyddiad dod i ben.

Mae’r Rheoliadau yn sicrhau, drwy gadw’r pŵer gwneud rheoliadau hwn am y cyfnod hirach dan sylw, y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn parhau i allu gwneud newidiadau mewn modd cyflym a hyblyg, os bydd yr angen yn codi, gan ddefnyddio’r pŵer gwneud rheoliadau yn adran 1 o Ddeddf 2022.  O ganlyniad, bydd gan Lywodraeth nesaf Cymru a’r Senedd nesaf hefyd amser yn ystod tymor nesaf y Senedd i sefydlu pa fecanweithiau y byddent yn dymuno’u cyflwyno yn y dyfodol i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru, gan hefyd gynnal yr amddiffyniad a ddarperir ar ei gyfer gan y pŵer yn Neddf 2022. 

Edrychaf ymlaen at y drafodaeth ar y Rheoliadau a gynhelir ar 17 Mawrth 2026.