Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Gosodwyd Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cludo) (Diwygio) 2025 ("y Rheoliadau") gerbron Senedd y DU ar 1 Gorffennaf. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud y Rheoliadau drwy arfer y pwerau a roddwyd gan Erthyglau 30(1) a 30a(8) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar amddiffyn anifeiliaid wrth gludo a gweithrediadau cysylltiedig ("1/2005").
Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y cyd ar ddal a thrin dofednod: Dal a thrin dofednod: newidiadau arfaethedig i ddulliau a ganiateir | LLYW.CYMRU
Bydd Aelodau'r Senedd am gael gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Gweinidog Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Rheoliadau yn diwygio 1/2005 i eithrio ieir, a thyrcwn sy'n pwyso 5 kg a llai, o'r gwaharddiad ar godi anifeiliaid gerfydd eu coesau. Pan fydd ieir, a thyrcwn sy'n pwyso 5 kg a llai, yn cael eu dal gerfydd eu coesau, rhaid iddynt gael eu dal, eu codi a'u cario gyda dwy goes (nid un goes). Byddai’r diwygiad hwn yn dileu anghysondeb rhwng 1/2005 a’r codau ymarfer statudol ar gyfer lles ieir dodwy a chywennod, a lles ieir bwyta ac ieir bridio. Ar gyfer tyrcwn sy'n pwyso mwy na 5 kg gwaherddir eu codi neu eu cario ar eu pen i lawr, boed hynny trwy ddal y coesau neu fel arall.
Mae'r Rheoliadau yn rhoi eglurder i'r diwydiant dofednod, a'u cwmnïau dal cysylltiedig, ar y gofynion cyfreithiol sy'n berthnasol i ddal dofednod yn ystod gweithrediadau cludo.
Polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru pan fo’r materion o dan sylw yn rhai sydd o fewn cymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, o dan rai amgylchiadau, mae yna fanteision i gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Y tro hwn, rwyf wedi rhoi cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y Rheoliadau. Drwy hyn, bydd modd sicrhau bod rheoliadau’n cael eu cyflwyno ar yr un pryd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, a bydd yn rhoi eglurder i’r diwydiant dofednod ynghylch y gofynion cyfreithiol sy’n gymwys o ran dal dofednod yn ystod gweithrediadau cludo.
Gallai rheoliadau gwahanol ar draws Prydain Fawr, neu unrhyw wahaniaethau o ran pryd y byddai’r rheoliadau’n dod i rym, arwain at gymhlethdodau, anghysonderau a baich gweinyddol ar y diwydiant a’r asiantaethau gorfodi.
Mae gan swyddogion Llywodraeth Cymru berthynas waith dda gyda’u cymheiriaid yn Defra a byddant yn parhau i weithio gyda hwy a chyda Llywodraeth yr Alban i gryfhau trefniadau er mwyn diogelu lles anifeiliaid yn ystod cludiant, gan gynnal cysylltiadau rhynglywodraethol cadarnhaol ac adeiladol.
Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU, gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft, ar 1 Gorffennaf ac mae disgwyl iddynt ddod i rym ar 22 Gorffennaf 2025.
