Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Ar 3 Rhagfyr, cyhoeddwyd cymorth ardrethi annomestig ar gyfer 2026-27. Heddiw, gallaf gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn dyrannu £8m ychwanegol i ddarparu blwyddyn arall o ryddhad i eiddo lletygarwch bwyd a diod, gan gynnwys tafarnau, bwytai a lleoliadau cerddoriaeth fyw.
Mae’r cymorth hwn yn cydnabod y pwysau costau amrywiol sydd ar fusnesau cymwys, a hynny ar adeg pan fo llawer yn y sector yn wynebu biliau ardrethi annomestig uwch. Byddwn yn gwneud defnydd llawn o’r cyllid canlyniadol ychwanegol sy’n deillio o gymorth Llywodraeth y DU i dafarnau a lleoliadau cerddoriaeth yn Lloegr, ynghyd â chyllid Llywodraeth Cymru ei hun, i gefnogi ystod ehangach o fusnesau yng Nghymru.
Bydd talwyr ardrethi cymwys yn cael rhyddhad o 15% ar eu hardrethi annomestig yn 2026-27. Fel yn achos cymorth dros dro tebyg a roddwyd mewn blynyddoedd blaenorol, bydd y rhyddhad yn cael ei gapio ar £110,000 fesul busnes ledled Cymru. Bydd y rhyddhad yn cael ei ddyfarnu gan ddefnyddio pwerau disgresiynol awdurdodau lleol, yn dilyn ceisiadau gan dalwyr ardrethi cymwys ar ôl 1 Ebrill 2026.
Daw'r cymorth ychwanegol hwn ar ben ein rhyddhad parhaol sy’n cael ei ariannu’n llawn, ac sydd ar hyn o bryd yn werth £250m bob blwyddyn i fusnesau ac eraill sy'n talu ardrethi. Mae pecyn llawn Llywodraeth Cymru o gymorth ardrethi annomestig yn dangos ein hymrwymiad parhaus i helpu busnesau i adfer a ffynnu, yn dilyn yr heriau economaidd diweddar.
