Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn y cwestiynau a godwyd gan Aelodau o’r Senedd, bydd y datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Tocyn Croeso a thrwyddedau gyrru i wladolion o Wcráin yn y DU.

Mae’r Tocyn Croeso, sy’n cynnig teithio am ddim ar drenau a bysiau i bob ffoadur sy’n byw yng Nghymru, gan gynnwys deiliaid fisa o Wcráin, y rhai sydd wedi ffoi o Affganistan a deiliaid fisa Gwladolion Tramor Prydeinig Hong Kong, wedi’i estyn hyd 24 Gorffennaf 2023.

Mae’r dudalen we ar gyfer y Tocyn Croeso Cyngor teithio ar fysiau a threnau am ddim ar gyfer ffoaduriaid wedi’i diweddaru â’r dyddiad newydd. Mae pob taith sy’n dechrau ac yn gorffen yng Nghymru yn gymwys.

Mae’r Aelodau hefyd wedi gofyn cwestiynau am hyd y cyfnod y caiff gwladolion o Wcráin yrru yn y DU. Ar hyn o bryd mae gan Wcreiniaid hawl i yrru yn y DU am 12 mis cychwynnol gan ddefnyddio eu trwydded Wcreinaidd. I barhau i yrru ar ôl y cyfnod hwnnw bydd angen iddynt naill ai sefyll prawf yn y DU neu ildio neu gyfnewid eu trwydded Wcreinaidd.

Mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar estyn y cyfnod y caiff Wcreiniaid ddefnyddio eu trwyddedau gyrru gwreiddiol (dolen allanol, Saesneg yn unig). Cynigir estyn y cyfnod hwnnw i 36 o fisoedd, gan gyd-fynd â hyd fisa Cartrefi i Wcráin.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor hyd 2 Mai 2023. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon â rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru ac yn eu hannog i ymateb.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.