Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae trechu tlodi tanwydd yn un o brif ymrwymiadau Llywodraeth Cymru. Rydym yn cydnabod yr anawsterau mae’r cynnydd yn y cap ar brisiau ar 1 Ionawr yn eu peri i lawer o aelwydydd ledled Cymru sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd talu costau hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ein pwerau i helpu aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd, a'r rhai mewn tlodi tanwydd. 

Un ffordd bwysig o fynd i’r afael â thlodi tanwydd yw cael mwy o arian ym mhocedi pobl.  Cynyddu incwm ac adeiladu cadernid ariannol yw prif flaenoriaethau ein Llywodraeth. Yn unol â’n hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi. Mae gennym ymgyrch gref i annog pobl i hawlio budd-daliadau sy’n dwyn ffrwyth, a dyma pam mae ymwybyddiaeth o gymorth ariannol yn cynyddu yng Nghymru. Mae mwy y gallwn ei wneud ac rydym yn gwneud mwy.

Dechreuodd ein hymgyrch benodol ddiweddaraf ar y cyfryngau ar gyfer hyrwyddo hawlio budd-daliadau cenedlaethol sef 'Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi', ym mis Ionawr a bydd yn rhedeg hyd at 31 Mawrth 2025, gyda negeseuon codi ymwybyddiaeth hygyrch yn cael eu cyflwyno trwy'r holl sianeli cyfryngau gan gynnwys teledu, radio a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae'r brif alwad i weithredu’n cyfeirio pobl at Advicelink Cymru ac yn eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys i gael cymorth ariannol pellach, Rydym ni, ar y cyd â’n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, yn mynd ati mewn modd gweithgar i helpu ein dinasyddion i hawlio mwy o’r hyn sy’n ddyledus iddynt. 

Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, mae cynghorwyr Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi wedi helpu dros 36,800 o bobl gyda dros 120,000 o faterion. Roedd dros 9,600 o’r rhain yn ymwneud â phroblemau ynghylch dyledion. Cafodd pobl eu helpu i hawlio dros £10.4 miliwn mewn incwm ychwanegol. Mae hwnnw’n swm enfawr.

Mae llawer mwy mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu teuluoedd ledled Cymru fel rhan o becyn cyfannol o fesurau:

Mae ein pecyn cymorth parhaus yn cynnwys ein Cronfa Cymorth Dewisol, Gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl, a'r Cynllun Talebau Tanwydd yn ogystal â’n cyllid gwerth £1.5 miliwn ar gyfer Canolfannau Clyd sy’n darparu mannau cynnes a diogel yn y gymuned.

Mae’r Canolfannau Clyd hyn ar agor i bawb yn y gymuned, lle gall pobl o bob oed fynd i gael mynediad at wasanaethau hanfodol a chyngor, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol neu gael paned cynnes. Yn ogystal, ar 15 Tachwedd, cyhoeddais £700,000 arall i gefnogi gwaith y Sefydliad Banc Tanwydd, gan olygu bod ein buddsoddiad eleni yn gyfanswm o £1.2 miliwn. Ers mis Mehefin 2022, rydym wedi dyrannu dros £6.3 miliwn i alluogi'r Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno cynllun cenedlaethol Talebau Tanwydd a Chronfa Wres yng Nghymru. Mae’r cynllun wedi darparu cymorth i aelwydydd cymwys sy’n talu ymlaen llaw am eu tanwydd ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu. Mae hyn yn cynnwys darparu talebau tanwydd i gartrefi sydd â mesuryddion rhagdalu a chyflenwad o olew neu nwy i’r rheini nad ydynt wedi’u cysylltu â’r prif rwydwaith nwy. 

Cynllun cyfiawnder cymdeithasol arall yw'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF). Mae hon yn gronfa argyfwng sy'n cael ei harwain gan alw sy'n darparu cymorth brys i'r trigolion hynny yng Nghymru, dros 16 oed, sydd mewn argyfwng ariannol heb unrhyw fath arall o gefnogaeth. Bydd cyllideb y Gronfa yn parhau'n £38.5 miliwn ar gyfer 2024/25, gan ganiatáu i lefel sylweddol o gymorth barhau, ar adeg pan fydd unigolion a theuluoedd ledled Cymru yn parhau i wynebu caledi ariannol eithafol oherwydd yr argyfwng costau byw. 

Ein cynllun Cartrefi Cynnes Nyth yw ein prif fecanwaith i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Rydym yn buddsoddi mwy na £30 miliwn eleni yng nghynllun newydd Cartrefi Cynnes Nyth i leihau nifer yr aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith. Mae aelwydydd cymwys yn cael pecyn pwrpasol o fesurau i inswleiddio a datgarboneiddio eu cartref, gan arwain at filiau ynni is, a'u codi allan o dlodi tanwydd. Mae cyngor cynilo ynni am ddim ar gael i bob deiliad tŷ yng Nghymru. Rhaglenni Cartrefi Clyd Nyth | LLYW.CYMRU  

Rydym yn cynyddu cyrhaeddiad Cartrefi Clyd Nyth cymaint ag y bo modd drwy weithio gyda CLlLC ac awdurdodau lleol i ysgogi cyllid o San Steffan drwy gynlluniau fel Cynllun Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO). Ochr yn ochr â’r cynllun hwn rydym hefyd yn cyfeirio pobl sy’n ffonio ein llinell gymorth cynilo ynni at gynlluniau priodol eraill fel Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr a’r Cynllun Uwchraddio Boeleri. 

Rydym yn defnyddio’r pwerau sydd gennym i ysgogi rheoleiddwyr a chyflenwyr i wneud mwy dros ein dinasyddion. Cwrddais â chyflenwyr ynni ym mis Hydref a gadarnhaodd eu hymrwymiad i gefnogi aelwydydd sy'n cael trafferth talu eu biliau. Hoffai Llywodraeth Cymru weld cyflenwyr yn rhannu arferion da ar y ffordd orau o ddiogelu'r aelwydydd bregus hyn. Rwyf wedi tynnu sylw’r cyflenwyr at bwysigrwydd hysbysu cwsmeriaid am y cymorth sydd ar gael iddynt, a byddaf yn gofyn iddynt sut maent wedi mynd ati i wneud hyn cyn ein cyfarfod nesaf.

Fel rheoleiddiwr ynni, mae gan gyflenwyr ynni ac Ofgem rôl bwysig wrth amddiffyn aelwydydd bregus rhag costau ynni anfforddiadwy. Cwrddais â Chyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr a Marchnadoedd Manwerthu Ofgem ym mis Rhagfyr, a galwais arnynt i gyflwyno tariff cymdeithasol i ddiogelu aelwydydd sy’n agored i niwed. Mae Ofgem yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar dargedu data i roi gwell cymorth i aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei groesawu'n fawr ac rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Ynni a Defnyddwyr yn cadarnhau fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn. 

Mewn cyfarfod gyda’r Gweinidog dros Ynni a Defnyddwyr tynnais i sylw at annhegwch taliadau sefydlog gan fod deiliaid tŷ yn Ne Cymru a Gogledd Cymru yn parhau i fod yn y tair ardal ddrutaf ym Mhrydain Fawr. Rwy’n annog Ofgem a Llywodraeth y DU i weithredu mewn ffordd gyfannol ar draws y dirwedd bolisi i ddiwygio taliadau sefydlog, drwy fesurau fel tariff cymdeithasol a safoni taliadau sefydlog ar draws rhanbarthau Prydain Fawr.

Rwy'n falch o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a helpu teuluoedd i hawliau popeth sy’n ddyledus iddynt. Gyda phrisiau ynni ystyfnig o uchel a gwaddol 14 mlynedd o gyni, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn mynd i'r afael â hyn o bob cyfeiriad. Trwy ein dull cyfannol rydym yn cynyddu incwm cartrefi, gan wella effeithlonrwydd ynni cartrefi, a thrwy ein trafodaethau gydag Ofgem, Llywodraeth y DU a chyfraniad Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, rydym yn ymdrechu am ateb systemig tymor hir i dlodi tanwydd.