Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dros y misoedd diwethaf, mae'r Aelodau a theuluoedd wedi tynnu sylw at faterion ynglŷn â'r gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Heddiw, rwy'n amlinellu'r gwaith y mae swyddogion wedi'i wneud i fynd i’r afael â’r pryderon hyn.

Er mwyn cael sicrwydd pellach, rwy’n cyhoeddi fy mod yn uwchgyfeirio'r gwasanaethau i statws monitro uwch.

Bydd hyn yn sicrhau bod gan y bwrdd y cymorth cynhwysfawr sydd ei angen arno i gyflawni'r cynlluniau gwella y mae wedi'u datblygu a bydd yn sicrhau bod swyddogion mewn sefyllfa dda i asesu’r cynnydd a wneir. Mae'r bwrdd wedi croesawu'r penderfyniad hwn.

Rwy'n gwneud y datganiad hwn i'r Aelodau heddiw, fel y byddant yn ymwybodol ar unwaith o'm penderfyniad. Byddaf yn traddodi datganiad llafar i'r Senedd yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Dolen i'r dudalen we: Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd GIG Cymru