Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad hwn yn nodi lefelau uwchgyfeirio newydd ymddiriedolaethau'r GIG, awdurdodau iechyd arbennig a byrddau iechyd yng Nghymru.

Mae'r amgylchedd y mae byrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Iechyd Arbennig yn gweithredu ynddo yn parhau i fod yn anodd. Ceir diffygion ariannol cynyddol, pwysau gweithredol, rhestrau aros hir, yn ogystal â sefyllfa ariannol heriol dros ben; sefyllfa nad yw'n unigryw i Gymru. 

Ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, nid oedd y byrddau iechyd yn gallu cyflwyno Cynlluniau Tymor Canolig Integredig wedi'u mantoli'n ariannol. Felly, roedd yn ofynnol iddynt gyflwyno cynlluniau blynyddol. O ganlyniad, nid ydynt wedi darparu cynlluniau yn unol â'r cyfarwyddyd a roddwyd gan Weinidogion Cymru a Fframwaith Cynllunio y GIG, y gallwn eu hystyried i'w cymeradwyo o dan adran 175(2A) o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006 ("Deddf 2006").

Yn unol â'r Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd, mae hyn yn gyfystyr â phryder difrifol o ran darparu gwasanaethau; pryder sy'n fwy na'r hyn y gellir ei drin trwy drefniadau arferol. Rwyf felly wedi derbyn argymhelliad swyddogion y bydd y sefydliadau hynny nad oeddent eisoes wedi'u huwchgyfeirio ar gyfer cynllunio a chyllid yn cael eu huwchgyfeirio nawr i statws monitro uwch. 

Rwyf wedi cytuno ar y statws uwchgyfeirio a ganlyn ar gyfer cyrff y GIG:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i aros yn ei statws uwchgyfeirio presennol sef ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer cynllunio a chyllid a monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd.
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i gael ei uwchgyfeirio i statws monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid ac i aros o dan statws monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad.
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i aros o dan statws monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid.
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gael ei uwchgyfeirio i statws monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid.
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i gael ei uwchgyfeirio i statws monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid.
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i aros o dan fesurau arbennig.
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i aros o dan ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer pryderon ansawdd yn gysylltiedig â pherfformiad ac amseroedd aros hir ac i aros o dan statws monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid. Gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol i gael eu hisgyfeirio o ymyrraeth wedi'i thargedu i statws monitro uwch. Ansawdd a llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder i gael eu hisgyfeirio o ymyrraeth wedi'i thargedu i statws monitro uwch.
  • Holl ymddiriedolaethau’r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig i aros ar eu lefel uwchgyfeirio bresennol sef trefniadau arferol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi newid yn sylweddol. Nodir y rhesymau dros hyn isod.

Ar 7 Tachwedd 2022, cyhoeddais y byddai gwasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd yn cael eu hisgyfeirio o fesurau arbennig i ymyrraeth wedi'i thargedu, i gydnabod y cynnydd clir yr oedd y bwrdd iechyd wedi'i wneud yn y maes hwn dros y tair blynedd a hanner blaenorol. Rwy'n falch o nodi bod y bwrdd iechyd wedi parhau i wneud gwelliannau ar draws gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.

Bu cynnydd sylweddol o ran gweithredu gweddill argymhellion y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth a'u gwneud yn rhan annatod o arferion y bwrdd. Roedd rhai o'r cyflawniadau allweddol yn cynnwys sicrhau Achrediad Cyfeillgar i Fabanod Cam 3 Unicef, cael enwebiad ar gyfer rownd derfynol gwobrau Coleg Brenhinol y Bydwragedd, gweithredu dangosfwrdd mamolaeth integredig a datblygu'r cynllun diwylliant ac arweinyddiaeth mamolaeth a newyddenedigol.

Mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn ddiweddar wedi cynnal adolygiad sicrwydd o'r gwasanaeth. Nododd yr adolygiad fod yna nawr uchelgais a strategaeth glir ar gyfer un gwasanaeth amenedigol, gydag uwch arweinyddiaeth amlddisgyblaethol gydlynol gref yn darparu llywodraethiant integredig sy'n sail ar gyfer darparu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol bob dydd. Mae yna seilwaith cefnogol cryf ar waith o ran swyddogaethau corfforaethol allweddol sy'n dangos cysylltedd ac ymrwymiad y Bwrdd. Dyma gam cadarnhaol arall yn nhaith mamolaeth a newyddenedigol y bwrdd iechyd. Mae dal i fod meysydd lle mae angen gwelliannau pellach, a bydd yn cymryd amser cyn i rai o'r newidiadau gael eu hymgorffori'n llawn yn y gwasanaeth.

Mae'r cynnydd y mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud yn galonogol a hoffwn ddiolch i'r holl aelodau o staff yn y bwrdd iechyd am eu holl waith caled i gefnogi a thrawsnewid y gwasanaeth hwn. Gallaf bellach isgyfeirio'r bwrdd iechyd i statws monitro uwch ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.

O ran llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder, mae'r bwrdd iechyd wedi bod o dan statws ymyrraeth wedi'i thargedu ers 2019. Yn yr un modd â gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, mae'n galonogol nodi bod y bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran diwygio'r swyddogaethau hyn. Ar 24 Awst 2023, cyhoeddodd Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ganlyniadau eu hadolygiad dilynol ar y cyd o drefniadau llywodraethu ansawdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae'r adolygiad dilynol ar y cyd yn nodi bod y bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â phryderon ac argymhellion yr adolygiad gwreiddiol ar y cyd yn 2019, ond bod angen cymryd camau pellach o hyd i ymgorffori'n llawn ei fodel gweithredu newydd a'i drefniadau llywodraethu ansawdd diwygiedig yn y sefydliad drwyddo draw.

Mae'r cynnydd y mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud yn y maes hwn yn galonogol, ac rwyf nawr yn isgyfeirio'r bwrdd iechyd i statws monitro uwch ar gyfer llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder.

O ran perfformiad, nid wyf wedi gweld y gwelliannau gofynnol ar draws gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS), gofal a gynlluniwyd, canser a gofal brys ac argyfwng. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu sawl ymyriad gan Weithrediaeth y GIG i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn gwella. Mae rhai arwyddion calonogol o welliant o ran lleihau nifer y cleifion sy'n aros yn hir a'r gwelliant diweddar o ran lleihau oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys.

Fodd bynnag, mae'r bwrdd iechyd yn parhau i sefyll ar wahân i fyrddau eraill ar draws llawer o'r gwasanaethau hyn ac mae pobl yn aros yn rhy hir i gael eu hasesu a'u trin. Rwyf wedi derbyn cyngor swyddogion a bydd y bwrdd iechyd yn aros o dan statws ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer pryderon ansawdd yn gysylltiedig â pherfformiad ac amseroedd aros hir.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, nid oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gallu cyflwyno Cynllun Tymor Canolig Integredig wedi'i fantoli'n ariannol ac o ganlyniad mae wedi cyflwyno cynllun blynyddol. Felly, yn unol â'r byrddau iechyd eraill, bydd yn aros o dan statws monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid.

Mae'r tabl isod yn dangos statws uwchgyfeirio blaenorol a phresennol pob sefydliad.

Sefydliad
Statws Blaenorol
(Medi 2022)
Statws Presennol (Gorffennaf 2023)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Trefniadau arferol

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ymyrraeth wedi'i thargedu ond fe'i huwchgyfeiriwyd i Fesurau Arbennig ym mis Chwefror 2023

Mesurau arbennig

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol

Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer ansawdd a llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder

Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer materion ansawdd yn gysylltiedig â pherfformiad

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Monitro uwch ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol

Monitro uwch ar gyfer ansawdd a llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder

Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer materion ansawdd yn gysylltiedig â pherfformiad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer cynllunio a chyllid

Monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd

Ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer cynllunio a chyllid

Monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Trefniadau arferol

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Dolen i'r dudalen we: Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd GIG Cymru