Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rwyf wedi derbyn argymhellion swyddogion Llywodraeth Cymru ynglŷn â newid statws uwchgyfeirio nifer o sefydliadau’r GIG. Byddaf yn gwneud datganiad llafar i'r Senedd yn ddiweddarach heddiw.
Dyma statws uwchgyfeirio diwygiedig sefydliadau'r GIG:
| Sefydliad | Statws Blaenorol (Mawrth 2025) | Statws Presennol (Gorffennaf 2025) |
|---|---|---|
| Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan | Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio
Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â pherfformiad gofal brys ac argyfwng yn Ysbyty Athrofaol y Faenor | Lefel 3 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio
Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â pherfformiad gofal brys ac argyfwng yn Ysbyty Athrofaol y Faenor |
| Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Lefel 5 | Lefel 5 |
| Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro | Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio | Lefel 4 ar gyfer y sefydliad cyfan |
| Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg | Lefel 4 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal brys ac argyfwng
Lefel 3 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio, a pherfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal a gynlluniwyd a chanser | Lefel 4 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal brys ac argyfwng
Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal a gynlluniwyd a chanser
Lefel 1 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio |
| Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda | Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio, perfformiad a chanlyniadau, gwasanaethau bregus (gan gynnwys canser ac offthalmoleg), gofal brys ac argyfwng, a heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd (HCAI)
Lefel 3 ar gyfer arweinyddiaeth a llywodraethiant, a pherfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal a gynlluniwyd ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) | Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio, a pherfformiad a chanlyniadau sy’n ymwneud â gofal brys ac argyfwng, gwasanaethau bregus (gan gynnwys offthalmoleg) a heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd (HCAI)
Lefel 3 ar gyfer arweinyddiaeth a llywodraethiant, a pherfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal a gynlluniwyd a chanser
Lefel 1 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) |
| Bwrdd Iechyd Addysgu Powys | Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio | Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio |
| Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe | Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio, a pherfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd (HCAI), canser a gofal brys ac argyfwng
Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal a gynlluniwyd ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS), a gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol | Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio, a pherfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd (HCAI), canser a gofal brys ac argyfwng
Lefel 4 ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol
Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal a gynlluniwyd ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) |
| Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru | Lefel 1 | Lefel 1 |
| Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre | Lefel 1 | Lefel 1 |
| Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru | Lefel 1 | Lefel 1 |
| Iechyd a Gofal Digidol Cymru | Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â darparu rhaglenni mawr | Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â darparu rhaglenni mawr |
| Addysg a Gwella Iechyd Cymru | Lefel 1 | Lefel 1 |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi gwneud cynnydd da yn erbyn ei gynllun gwella ariannol, ac mae wedi cyflawni ei gyfanswm rheoli targed y cytunwyd arno ar gyfer 2024-25. Rwyf wedi cymeradwyo ei gynllun tymor canolig integredig tair blynedd ar gyfer 2025-28, a fydd yn ddarostyngedig i amodau atebolrwydd, yn unol â phob bwrdd iechyd arall.
Mae'r bwrdd iechyd wedi bodloni'r meini prawf isgyfeirio ar gyfer y parth cyllid, strategaeth a chynllunio, ac felly rwyf wedi cytuno ar gyngor i'w isgyfeirio, o lefel pedwar i lefel tri. Mae'r lefelau uwchgyfeirio ar gyfer yr holl barthau eraill yn parhau heb eu newid.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod ar y lefel uwchgyfeirio uchaf, sef lefel pump neu dan fesurau arbennig.
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r adroddiad cynnydd diweddaraf, sy'n nodi'r gwelliannau y mae'r bwrdd iechyd wedi'u gwneud, gan gynnwys ym meysydd cyllid, llywodraethiant corfforaethol ac ansawdd. Mae arwyddion clir bod y bwrdd iechyd yn dechrau datrys llawer o'i broblemau hirsefydlog. Fodd bynnag, mae ystod eang o broblemau o ran perfformiad – yn enwedig ym meysydd gofal a gynlluniwyd a gofal brys ac argyfwng. Rhaid mynd i'r afael â’r rhain ar frys.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Dros y deunaw mis diwethaf, mae diffyg ariannol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cynyddu, ac mae wedi torri ei ddyletswydd i gytuno ar gynllun tair blynedd sy'n gytbwys.
Erbyn hyn, mae ganddo'r ail nifer mwyaf o bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, ac mae heriau o ran diwylliant ac arweinyddiaeth, sy’n ymwneud yn bennaf â'r theatrau llawdriniaethau, yn achos pryder. Yn ogystal, mae lefel uchel o ddigwyddiadau ‘byth’ wedi'u cofnodi eleni.
Mae'r materion hyn yn peri pryder ac yn arwydd o sefydliad sydd angen cymorth ychwanegol. Heddiw, rwy'n uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i lefel pedwar. Bydd hyn yn ein galluogi i’w gefnogi i ddatblygu a gweithredu'r gwelliannau sydd eu hangen.
Byddwn yn gweithio gyda'r uwch dîm arwain i asesu gallu'r sefydliad i gyflawni a gweithredu'r gwelliannau sydd eu hangen. Byddwn yn hefyd yn ei gefnogi i benodi tîm gyda'r sgiliau a'r arbenigedd priodol.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Y llynedd a’r flwyddyn cynt, llwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i fantoli ei gyllideb yn ystod y flwyddyn. Rwyf wedi cymeradwyo ei gynllun tymor canolig integredig tair blynedd ar gyfer 2025-28, a fydd yn ddarostyngedig i amodau atebolrwydd, yn unol â phob bwrdd iechyd arall.
Mae'r bwrdd iechyd wedi bodloni'r meini prawf isgyfeirio ar gyfer y parth cyllid, strategaeth a chynllunio, ac rwyf wedi cytuno ar gyngor i'w isgyfeirio, o lefel tri i lefel un. Mae'r lefelau uwchgyfeirio ar gyfer yr holl barthau eraill yn parhau heb eu newid.
Dyma gamp sylweddol i'r bwrdd iechyd, a gafodd ei roi dan fesurau arbennig ym mis Ebrill 2019 oherwydd pryderon difrifol am ei wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r bwrdd iechyd wedi cael ei isgyfeirio i lefel un ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol; ansawdd a llywodraethiant; arweinyddiaeth a diwylliant; a gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Mae’n parhau i wneud cynnydd cadarnhaol ym meysydd gofal a gynlluniwyd a pherfformiad canser.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Fis Mawrth, fe wnes i isgyfeirio gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, o lefel pedwar i lefel tri. Rwy'n falch o ddweud bod y gwelliannau hyn wedi'u cynnal, ac rwyf wedi isgyfeirio’r gwasanaethau i lefel un, sef trefniadau arferol.
Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi gwella ei wasanaethau canser, ac wedi bodloni'r meini prawf dros y tri mis diwethaf imi allu isgyfeirio’r gwasanaethau hyn, o lefel pedwar i lefel tri.
Mae'r lefelau uwchgyfeirio ar gyfer yr holl barthau eraill yn parhau heb eu newid.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Heddiw, rwy'n cynyddu lefel uwchgyfeirio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bae Abertawe i lefel pedwar, a byddaf yn darparu rhagor o fanylion mewn datganiad llafar.
Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio'r GIG
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio’r GIG.
Mae'r diweddariadau hyn yn rhoi manylion am y broses uwchgyfeirio lefel dau, yn tacluso'r parthau uwchgyfeirio ac yn egluro mwy ar y broses isgyfeirio, gan gynnwys cyfleoedd i symud y meysydd hynny sydd â chanlyniadau a thargedau mesuradwy i lefelau is yn awtomatig. Pan fydd y diweddariadau hyn wedi’u gwneud, bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru | LLYW.CYMRU
