Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r fframwaith goruchwylio a uwchgyfeirio diwygiedig a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025 yn galluogi sefydliadau'r GIG i gael eu hisgyfeirio'n awtomatig pan fyddant yn cyrraedd trothwyon penodol, ac mae hyder bod cynlluniau cadarn ar waith i gynnal y gwelliant hwn. 

Gallaf gadarnhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda heddiw yn cael eu hisgyfeirio i lefel 1 (trefniadau arferol) oherwydd bod eu perfformiad o ran canser, yn erbyn y targed 62 diwrnod, wedi gwella – ac wedi cael ei gynnal – dros y tri mis diwethaf, yn unol â'r meini prawf isgyfeirio a osodwyd ar eu cyfer.

Hoffwn ddiolch i'r sefydliadau a'u timau clinigol am eu ffocws cynyddol ar wella mynediad amserol at ddiagnosis a thriniaeth ar gyfer canser. Mae mwy o waith i'w wneud o hyd i gyrraedd y targed Cymru gyfan, ond mae'r rhain yn sylfeini cadarn, ac rwy'n disgwyl i berfformiad barhau i wella drwy gydol y flwyddyn. 

Gellir dod o hyd i statws uwchgyfeirio diwygiedig y sefydliadau hyn yn: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru | LLYW.CYMRU