Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 23 Ionawr, fe wnes i ddatganiad llafar yn y Senedd yn nodi lefelau uwchgyfeirio'r byrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG a'r awdurdodau iechyd arbennig. Rwyf nawr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Cyhoeddais ar 13 Medi 2023 y byddai gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol y bwrdd iechyd yn cael eu hisgyfeirio o ymyrraeth wedi'i thargedu i fonitro uwch, i gydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud dros y pedair blynedd a hanner blaenorol. Mae'r bwrdd iechyd wedi parhau i sicrhau gwelliannau ar draws ei wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ac mae bodloni'r meini prawf isgyfeirio y cytunwyd arnynt. 

Mae ymweliadau safle gan uwch-swyddogion clinigol Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd ynghylch gwelliannau mewn arweinyddiaeth feddygol a llywodraethu ansawdd. Mae cynnydd wedi'i wneud hefyd yn unol â'r cynllun gwella gwasanaethau newyddenedigol. Mae dau gam gweithredu heb eu cyflawni, ond cytunwyd ar ddyddiadau cwblhau ar gyfer y rhain. Cafwyd archwiliad dirybudd cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) o Ganolfan Geni Tirion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. 

Mae'r adroddiad terfynol yn dilyn arolygiad dirybudd AGIC yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn cael ei gyhoeddi heddiw. Daw i'r casgliad bod staff ar bob lefel yn y gwasanaeth yn gweithio'n galed i ddarparu profiadau da a bod trefniadau digonol ar waith i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i fenywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth. Mae'r arolygiad wedi esgor ar ddau fater y mae angen sicrwydd yn eu cylch ar unwaith, ond rwy'n hyderus bod y bwrdd iechyd wedi ymateb yn gadarnhaol i'r rhain ac i faterion eraill a nodwyd yn yr adroddiad. Rwy’n sicr hefyd bod y bwrdd iechyd wedi ymateb mewn modd agored a thryloyw mewn perthynas â digwyddiadau diweddar.

Gan droi at lywodraethiant, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder, mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran diwygio'r swyddogaethau hyn. Mae argymhellion adolygiad ar y cyd gan AGIC ac Archwilio Cymru o drefniadau ansawdd a llywodraethiant wedi'u rhoi ar waith ac mae'r model gweithredu newydd wedi ymwreiddio'n llawn. Mae strwythur clir ar gyfer datblygu strategaeth glinigol y sefydliad ac mae gwaith ar hyn yn mynd rhagddo'n dda. Mae strategaeth y bwrdd iechyd, ynghyd â'r fframwaith ansawdd a diogelwch cleifion yn darparu sylfaen dda i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd. 

Hoffwn ddiolch i holl staff y bwrdd iechyd am eu gwaith caled. 

Rwyf bellach mewn sefyllfa i isgyfeirio'r bwrdd iechyd i drefniadau arferol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, llywodraethiant, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder. 

Fodd bynnag, mae’n dal mewn ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau ac mewn monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.