Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Rhagfyr, ymrwymais i ddod â phartneriaid addysg at ei gilydd i sicrhau ein bod yn ymateb mewn ffordd gynhwysfawr ar draws y system i'r her sy'n wynebu pob un ohonom, sef gwella perfformiad addysgol a chodi safonau.

Heddiw, fel sector, rhoesom sylw i berfformiad addysgol diweddar yn ogystal â'r gynffon hir o heriau sy'n deillio o'r pandemig, a ddaeth i'r amlwg eto heddiw yn adroddiad blynyddol Estyn. Cydnabuwyd hefyd y cyd-destun hynod anodd y mae athrawon ac arweinwyr ysgolion yn gweithio ynddo. 

Mae gan bob partner addysg fuddiant cyffredin a rôl yn y broses o wella perfformiad addysgol, ac roeddwn yn falch o glywed ymrwymiadau a chonsensws o bob rhan o'r sector a fydd, gyda'i gilydd, yn ein symud ymlaen.  Fel system, mae angen ffocws cliriach arnom ar flaenoriaethau cenedlaethol, a rôl genedlaethol gliriach wrth arwain gwelliant.  Rhaid inni wella perfformiad drwy ymestyn ein dysgwyr, ond hefyd drwy barhau i leihau'r bwlch cyfleoedd a thegwch. Er mwyn gwneud hyn mae angen inni ganolbwyntio'n fwy craff ar bresenoldeb, ymddygiad a lles; addysgu rhagorol; diwygio'r cwricwlwm - gyda ffocws penodol ar lythrennedd a rhifedd; a chymorth anghenion dysgu ychwanegol.

Yr adolygiad o lwybr partneriaid addysg i'r dyfodol, a'u rolau a'u cyfrifoldebau

Buom hefyd yn trafod heddiw yr adolygiad o lwybr partneriaid addysg i'r dyfodol, a'u rolau a'u cyfrifoldebau, a gomisiynwyd gennyf llynedd. Fe wnes i gyfarfod â'r tîm adolygu ym mis Rhagfyr 2023 ac fe wnaethant dynnu fy sylw at y negeseuon cyson o bob rhan o’r system addysg. 

Mae'r canfyddiadau yn cyd-fynd â'r sylfaen dystiolaeth ehangach, gan roi sylw i elfennau a archwiliwyd mewn ystod o adroddiadau blaenorol, (megis yr adolygiad o arweinyddiaeth, adroddiad yr OECD ar gyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon, adolygiad Sibieta o wariant ysgolion yng Nghymru, canfyddiadau[1] Estyn).  Mae'r pwysau cyllidebol ehangach yn cael ei deimlo'n gryf yn ein hysgolion, ac fel llywodraeth rydym wedi cymryd camau newydd i symleiddio a chyfuno cyllid ar gyfer 2024-25. Mae'r camau hyn yn cyd-fynd ag adborth yr adolygiad ar gymhlethdod grantiau blaenorol, ac rydym bellach wedi gweithredu i fynd i'r afael â hyn. Hoffwn ddiolch i'r tîm adolygu a'r nifer fawr o'n hymarferwyr a'n partneriaid sydd wedi ymgysylltu â'r adolygiad ac wedi rhoi eu barn.

Y cam nesaf: ffocws newydd a disgwyliadau clir o ran cyflawni 

Roedd yr adborth yn glir ynghylch y cyfeiriad a ffefrir ymhlith arweinwyr ysgolion a'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol.  Rwy'n atodi copi o'r llythyr a gefais gan yr Athro Dylan Jones, arweinydd y tîm adolygu, er mwyn rhannu'r negeseuon hyn yn onest â'r sector.  O ystyried y ffaith bod y negeseuon hyn yn cyd-fynd â'r dystiolaeth ehangach, rwy'n cytuno â'r tîm adolygu nad parhau i drafod nodweddion y system bresennol, a safbwyntiau pobl ar draws y system yw'r ffordd orau o gael budd o'r adolygiad. Rwyf am symud yr adolygiad ymlaen i gam newydd, felly.  Rwyf wedi penderfynu y byddwn yn defnyddio'r cam hwn i archwilio beth yw'r ffordd orau o gefnogi'r gwaith o wella ysgolion ar dair lefel:

1. Cefnogi gwaith rhwng ysgolion ar lefel leol

2. Cefnogi cydweithio a rhwydweithio rhwng ysgolion ar draws awdurdodau lleol ac ar lefel genedlaethol

3. Cefnogi'r gwaith o wella ysgolion ar lefel genedlaethol

O hyn allan, felly, bydd ein gweithgareddau yn canolbwyntio ar archwilio'r ffordd orau o gefnogi'r gwaith o wella ysgolion ar y tair lefel hyn, (lleol, uwch-leol a chenedlaethol), a dyma fydd y ffrydiau gwaith craidd ar gyfer cam nesaf yr adolygiad.

Rwyf wedi gofyn i'r Athro Jones a Phartneriaeth ISOS i barhau i gyfrannu at y gwaith a'i gefnogi wrth inni symud ymlaen, gan ganolbwyntio'n arbennig ar elfennau sy'n archwilio gwaith rhwng ysgolion ar lefel leol, ac ar draws awdurdodau lleol.  Rwyf hefyd wedi gofyn iddynt barhau i fod yn gyfeillion beirniadol i'm hadran wrth iddi ystyried y strwythurau cymorth ar lefel genedlaethol, a'n rôl o ran arweinyddiaeth genedlaethol.

Wrth gytuno i symud ymlaen at ail gam ein gwaith, rwyf am bwysleisio fy amcanion. Rwy'n glir fy mod am i'r trefniadau newydd hyn:

  • ddarparu gwell safonau addysgol, yng nghyd-destun rolau a chyfrifoldebau clir ar draws y system addysg y bydd Llywodraeth Cymru yn eu nodi; 
  • targedu adnoddau yn y ffyrdd mwyaf priodol, effeithlon ac effeithiol, gan roi blaenoriaeth i gyllido ysgolion a gwella'r effaith a'r ddarpariaeth o fewn y cyllidebau cyfyng rydym yn gweithio gyda nhw;
  • lleihau llwyth gwaith ar lefel ysgol drwy weithredu fframwaith gwella cenedlaethol sy'n gyffredin i bawb, ac arferion adrodd symlach;
  • sicrhau cydweithio lleol mwy effeithiol, rhwng ysgolion a rhwng awdurdodau lleol, gyda disgwyliad y bydd pob ysgol ac awdurdod lleol yn gweithio mewn partneriaeth.  Bydd yn darparu mwy o gysondeb o ran cefnogi a grymuso, gan roi'r lle canolog i wella ysgolion wrth inni roi ein camau i ddiwygio addysg ar waith. 
  • meithrin mwy o arbenigedd addysg a chapasiti gweithredu ar lefel genedlaethol er mwyn cynnig arweinyddiaeth genedlaethol gryfach a fframweithiau clir i gyflawni ein blaenoriaethau. 

Rwyf am i'r holl bartneriaid fod yn glir mai ein prif nod, wrth ymgymryd â'r gwaith hwn, fydd gwella deilliannau addysgol drwy ymestyn ein dysgwyr a lleihau'r bwlch cyfleoedd a thegwch

Mae hefyd yn bwysig i mi fod y cam nesaf hwn yn cael ei lywio a'i reoli yn unol â'r egwyddorion canlynol: 

  • Mae angen i'r dull gweithredu ganolbwyntio'n ddi-baid ar wella safonau addysg yng Nghymru mewn ffordd gyson a chydlynol, a sut y bydd y system yn galluogi hyn. 
  • Bydd cydweithio rhwng ysgolion a'i gilydd, rhwng ysgolion a'u hawdurdod lleol, a rhwng awdurdodau lleol a'i gilydd yn ganolog i'r strategaeth. Bydd yn dal i fod disgwyl i bob awdurdod lleol weithio mewn partneriaeth ag o leiaf un awdurdod lleol arall.
  • Hyrwyddo diwylliant sy'n cefnogi system sydd wir yn cael ei harwain gan ysgolion, a hwyluso'r ffordd i arweinwyr ysgolion arwain ar lefel genedlaethol a lleol, gan greu cysylltiad dwy ffordd mwy uniongyrchol rhwng gweithredu cenedlaethol a lleol.
  • Cydgynllunio a chydadeiladu'r ffordd ymlaen yw ein dull de facto.
  • Byddwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith ar sail egwyddorion a ffyrdd o weithio Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • Bydd gwerth am arian yn egwyddor arweiniol.

Rwy'n bwriadu cryfhau'r trefniadau llywodraethiant drwy sefydlu Grŵp Cydlynu Cenedlaethol i oruchwylio gwaith ail gam yr adolygiad. Bydd y Grŵp Cydlynu yn cefnogi ac yn cysylltu safbwyntiau Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, partneriaethau a chonsortia rhanbarthol, Estyn a thîm yr Athro Jones er mwyn symud ymlaen mewn ffordd drefnus. Yn benodol, bydd y Grŵp Cydlynu yn cadarnhau unrhyw fodelau partneriaeth arfaethedig yn ogystal â sicrhau bod yr holl newidiadau i Lywodraeth Cymru, Estyn, awdurdodau lleol a phartneriaid rhanbarthol yn gydlynol a chadarn ar lefel y system.

Llinellau amser a sicrhau cefnogaeth barhaus i ysgolion

Rwy'n disgwyl y bydd ail gam yr adolygiad yn cychwyn ar unwaith ym mis Chwefror 2024 ac yn parhau am 6 mis tan fis Awst 2024, ac ar ôl hynny bydd y Grŵp Cydlynu yn cytuno ar y strategaeth arfaethedig ar draws y sector. Rwy'n disgwyl y bydd yna gamau pellach i'r gwaith o ran pontio ag unrhyw drefniadau newydd a gynigir.

Er mwyn sicrhau parhad y gefnogaeth i ysgolion wrth i'r adolygiad fynd yn ei flaen, byddwn yn disgwyl i unrhyw drefniadau gweithio rhanbarthol presennol barhau yn ystod y cyfnod hwn a chael eu hwyluso drwy'r cyllid grant penodol i gefnogi'r cwricwlwm a dysgu proffesiynol yn ein hysgolion. 

[1]adolygiad-annibynnol-o-arweinyddiaeth-tach-2021-cy.pdf (llyw.cymru), Astudiaeth o gyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon: Adroddiad diagnostig ar Gymru | en | OECD , Adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru | LLYW. CYMRU, Croeso i Estyn | Estyn (llyw.cymru)