Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Diben y datganiad hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif a’r gwariant ar gyfalaf am y cyfnod 2011-2014.
Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfarwyddwyr Esgobaethol y Sector Wirfoddol a Gynorthwyir a Cholegau Cymru yw’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Mae’n cael ei goruchwylio gan Fwrdd Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Wrth symud o’r hen ddull o ddyraniadau oedd yn seiliedig ar fformiwla, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn prosiectau trosiannol sylweddol. Y prosiectau hynny wnaeth baratoi’r ffordd ar gyfer y dull o weithredu yn y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, sy’n canolbwyntio ar wella a symleiddio’r ystad addysg a sgiliau.
Er gwaethaf y gostyngiad yn y cyllid cyfalaf i Lywodraeth Cymru, mae pob prosiect sydd wedi’i gymeradwyo gan fy Adran yng nghyfnod trosiannol y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn mynd rhagddo yn 2011/12 a thros y 2 flynedd nesaf, hyd nes bydd y prosiectau hynny wedi’u cwblhau. Bydd y newidiadau y byddaf yn sôn amdanynt yn y datganiad hwn ond yn cael effaith o 2014 ymlaen.
Roedd 32 prosiect yn y don gyntaf o gyllid trosiannol ledled Cymru a gafodd dros £77 miliwn o grant gan Lywodraeth Cymru. Mae’r prosiectau hyn wedi’u cwblhau i bob pwrpas. Yn dilyn hynny, cafwyd dwy don arall o brosiectau. Roedd y rheini’n fwy ac yn golygu fod y Llywodraeth wedi ymrwymo dros £337 miliwn o arian ar gyfer 34 prosiect arall, o Fro Morgannwg i Ynys Môn ac o Sir Benfro i Sir Fynwy. Mae’r prosiectau hyn ar y gweill eisoes ac maen nhw’n cynnwys 26 ysgol newydd ac 15 canolfan ddysgu Addysg Bellach sydd wedi cael cymorth grant o £75 miliwn. Mae’r prosiectau trosiannol hyn mewn ysgolion a sectorau eraill i’w gweld yn yr atodiad sydd ynghlwm.
Diben y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yw ein symud ymlaen y tu hwnt i’r dull trosiannol o weithredu sy’n seiliedig ar brosiectau. Mae’n fwy na rhaglen o fuddsoddiadau cyfalaf yn unig. Mae’n fynegiant o gynlluniau tymor canolig a hirdymor yr Awdurdodau ac eraill ar gyfer cyflawni addysg ym mhob maes ac mewn partneriaeth gyda’i gilydd, awdurdodau esgobaethol, a darparwyr ôl-16. Bu’r Rhaglenni Amlinellol Strategol a baratowyd gan yr Awdurdodau yn allweddol i ddull o weithredu sydd wedi’i gynllunio. Mae hwn yn ymrwymiad mawr i Lywodraeth Cymru ac mae Bwrdd y Rhaglen wedi croesawu datblygiad y dull o weithredu tryloyw hwn sydd wedi’i gynllunio.
Bydd y rhaglen yn cyfeirio cyllid i ysgolion sydd angen buddsoddiad i’w gwneud yn addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Nod y rhaglen yw symud i ffwrdd oddi wrth broses o ddyrannu cyfalaf, oedd wedi’i seilio’n bennaf ar ddyraniadau blynyddol yn ôl fformiwla, i raglen o fuddsoddi cyfalaf dros y tymor hir. Gyda’n gilydd byddwn yn blaenoriaethu buddsoddiadau cyfalaf ac yn sicrhau dilyniant. Yr wyf i a Bwrdd y Rhaglen yn parhau’n ymroddedig i’r dull hwn o weithredu.
Y cam cyntaf i sefydlu’r rhaglen genedlaethol hon oedd cael darlun llawn o gyflwr holl ysgolion Cymru a pha mor addas ydyn nhw. Gyda’r Awdurdodau, rydym wedi cynnal yr arolwg cenedlaethol cyntaf erioed o ysgolion. Mae’r arolwg hwnnw’n dangos bod 63% o’n hysgolion mewn cyflwr rhesymol, a bod llai na 2% wedi dod i ddiwedd eu hoes, ond bod gwir angen am adfywio a symleiddio’r ystad o ysgolion.
Nod gwreiddiol y Rhaglen oedd cael agwedd hyblyg tuag at ariannu gan ddisgwyl y byddai’r rhan fwyaf o’r 22 awdurdod lleol, os nad pob un ohonyn nhw, yn dechrau eu band cyntaf o brosiectau yn y pedair blynedd gyntaf. Mae awdurdodau wedi datblygu eu cynlluniau ar y sail hon, gan drefnu rhaglen o newidiadau i ysgolion dros sawl cyfnod. Ond mae’r amgylchedd wedi newid. Gorfodwyd gostyngiad llym yn y cyllid cyfalaf ar Lywodraeth Cymru - at ei gilydd bydd gostyngiad o 40% yn y cyfnod ariannu cyfredol. Mae adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru a’r symud tuag at waith strategol a rhanbarthol wedi’i gyhoeddi ers y rhaglen wreiddiol ac ers i’r Awdurdodau ddatblygu a chyflwyno’u Cynlluniau.
Yn wyneb hynny, mae’r Bwrdd a Llywodraeth Cymru, yn ystyried bod rhaid i’r Awdurdodau gael cyfle i adolygu amseriad a chynnwys y buddsoddiadau a gynlluniwyd ganddynt er mwyn medru gwneud penderfyniadau anodd mewn da bryd a fydd yn sicrhau bod cyllid yn cael ei roi tuag at sicrhau rhagoriaeth mewn addysg ac nid tuag at gynnal a chadw adeiladau.
Wrth ystyried am y tro cyntaf ddata am gyflwr ysgolion y wlad a pha mor addas ydyn nhw, mae graddfa’r uchelgais yn y Cynlluniau Strategol yn arwyddocaol – nid dim ond i fynd i’r afael ag ysgolion gwael eu cyflwr ledled Cymru ond hefyd i symleiddio a chyflawni at y dyfodol. Mae’r uchelgais hwnnw’n ddigon priodol – ond rhaid i ni hefyd flaenoriaethu a gweithio o fewn yr adnoddau sydd gennym ni oll.
Felly, bydd swyddogion fy adran yn ysgrifennu at yr holl awdurdodau i’w gwahodd i adolygu’r blaenraglenni gwaith yn y Rhaglenni Amlinellol Strategol. Bydd angen iddyn nhw ystyried eu blaenoriaethau ar sail symleiddio ystad yr ysgol (gan gynnwys lleihau lleoedd gwag) ynghyd â pha mor gost-effeithiol yw’r cyflawni, a chyflwr yr ysgolion o ran y Rhaglen Trawsnewid Pob Oed.
Bydd y cyfle hwnnw’n cynnwys adborth ynghylch Cynlluniau’r Awdurdodau. Mae’r Cynlluniau Strategol yn dangos ymrwymiad yr Awdurdodau i gyfeiriad strategol a’u bwriad i symud ymlaen i fynd i’r afael â’r lleoedd gwag mewn ysgolion drwy symleiddio’r ystad ysgolion er mwyn sicrhau bod yr ysgol iawn yn y lle iawn ar gyfer cyflawni’n effeithiol ac yn gost-effeithiol.
Serch hynny, mae elfennau yn y rhan fwyaf o Gynlluniau lle gallai fod modd cryfhau’r cynllunio fwy fyth - gan ganolbwyntio er enghraifft ar y ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, addysg cyfrwng Cymraeg, Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir a’r cysylltiad â’r agenda drawsnewid. Ar draws y sectorau addysg a sgiliau yng Nghymru, derbynnir bod rhaid i ni osgoi dyblygu cyrsiau’n aneffeithiol rhwng ysgolion a darparwyr eraill. Mae’r holl Awdurdodau Lleol a’r Partneriaethau Dysgu wedi rhoi cynlluniau trawsnewid i ni yn dangos sut y maent yn bwriadu sicrhau gwelliannau ar gyfer dysgwyr ôl-16. Rwy’n disgwyl i Awdurdodau sicrhau bod eu Blaengynlluniau yn cymryd i ystyriaeth awdurdodau cyfagos yn ogystal â darparwyr eraill. Lle bo prinder darpariaeth gydgysylltiedig yn y cynlluniau hyn a dim tystiolaeth fod unrhyw ymdrech wedi’i gwneud i symud ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r Bwrdd gymryd hyn i ystyriaeth yn ei argymhellion ar gyfer y dyfodol a’i gymryd i ystyriaeth hefyd wrth wneud penderfyniadau ar gyfer rhoi cyllid cyfalaf yn y dyfodol.
Wrth i’r awdurdodau lleol fynd ati i wneud hyn, rwyf hefyd yn llwyr sylweddoli bod angen mwy o eglurhad arnyn nhw am y cymorth ariannol y gallan nhw ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru. Rhaglen gydweithredol fu’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif erioed - yr awdurdodau sy’n berchen ar yr asedau, ac felly nhw, yn y pen draw, sydd i wneud penderfyniadau yn eu cylch. O ystyried y posibilrwydd y gall yr awdurdodau fenthyca, a’r cwtogi a fu ar y gyllideb o San Steffan, yr wyf yn ystyried, yn groes i’r rownd flaenorol o gyllid cyfalaf trosiannol, symud i gyfradd o 50% o gymorth grant cyfalaf. Rwyf yn awyddus i adeiladu ar y camau a wnaed drwy’r rhaglen buddsoddi cyfalaf yn y blynyddoedd diweddar. Bydd ymyrraeth ar y raddfa hon yn galluogi Llywodraeth Cymru i gefnogi mwy o gynigion buddsoddi ysgolion dros oes y rhaglen.
Credaf mai dyma’r cam priodol i’w gymryd mewn egwyddor, oherwydd bydd yr asedau yn aros gyda’r awdurdodau yn y tymor hir. Felly, bydd fy swyddogion yn gofyn i’r awdurdodau adolygu eu rhaglen ar sail y cefndir hwnnw.
Mae’n ddigon gwir hefyd bod dulliau mwy arloesol o ariannu prosiectau cyfalaf gan gynnwys drwy bartneriaethau gyda’r sector preifat. Nid yw’r dulliau hyn yn briodol i bob awdurdod nac i bob prosiect neu grŵp o brosiectau. Felly, rwyf hefyd yn awgrymu, lle mai dyma’r dull mwyaf priodol o weithredu, y byddwn yn barod i gefnogi partneriaethau a ariennir gan refeniw, drwy ddarparu cymorth arbenigol tebyg i’r rhaglen wastraff, a ffrwd refeniw, yn amodol ar benderfyniadau blynyddol am y gyllideb.
Yn olaf, mae’n bwysig cydnabod mor bell yr ydym wedi dod. Mae cynllunio rhaglen dros y tymor canolog a’r tymor hir o fantais i Awdurdodau a’r Llywodraeth, ac yn bwysicach fyth i ddysgwyr a rhieni yn y pen draw. Drwy roi cyfle i Awdurdodau ailystyried eu rhaglen yng ngoleuni’r amserlen debygol a’r cyllid ar gyfer y blynyddoedd nesaf bydd modd creu rhaglen well a mwy effeithiol. Ond nid yw hynny’n golygu gwneud dim byd chwaith. Wrth symud i’r dull hwn o weithredu sydd wedi’i gynllunio, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi dros £415.2 miliwn i gefnogi buddsoddiadau cyfalaf strategol a phenodol. Yr ydym ni, a’r Awdurdodau, yn parhau’n ymroddedig i gyflawni’r prosiectau trawsnewid, a fydd yn darparu cyfanswm o 66 prosiect cyfalaf.