Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am waith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, sy'n cael ei gyd-gadeirio gennyf i a'r Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd. Mae'r tasglu yn cynnwys gwahanol weithgorau, sy'n edrych ar yr heriau y mae pobl anabl yn eu hwynebu ac yn gweithio tuag at ein huchelgais o sicrhau Cymru fwy cyfartal.

Mae'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cydnabod ein penderfyniad cyffredin i gryfhau hawliau pobl anabl a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y maent yn parhau i'w hwynebu. Mae Sian Gwenllian AS wedi bod yn dod i gyfarfodydd y tasglu i glywed am y cynnydd rydym yn ei wneud.

Ers fy natganiad diweddaraf ym mis Mawrth 2023, mae'r gweithgorau wedi bod yn symud ymlaen yn dda ac mae'r wybodaeth ddiweddaraf am bob un isod:

Mae'r gweithgor Gwreiddio a Deall y Model Cymdeithasol o Anabledd, dan gadeiryddiaeth yr Athro Debbie Foster, wedi dod â'i gyfarfodydd i ben. O ganlyniad i'r gwaith a wnaed, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cael hyfforddiant pwrpasol ar y Model Cymdeithasol o Anabledd a byddant yn cymhwyso'r wybodaeth hon i arolygiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r gweithgor Mynediad at Wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg), dan gadeiryddiaeth Dr Natasha Hirst, wedi gorffen ei waith, ac wedi cyflwyno ei gamau gweithredu a'i argymhellion i'r tasglu. Cynhaliwyd nifer o drafodaethau creiddiol am y modd y sonnir am anabledd yn y cyfryngau, a dylanwad geiriau a delweddau.

Mae cyfarfodydd y gweithgor Byw'n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol, dan gadeiryddiaeth Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru, hefyd wedi dod i ben. Roedd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn y cyfarfod olaf i glywed yr argymhellion.

Mae cyfarfodydd y gweithgor Byw'n Annibynnol: Mae'r gweithgorIechyd, dan gadeiryddiaeth Willow Holloway, hefyd wedi dod i ben. Cytunwyd y bydd sesiynau ychwanegol yn cael eu cynnal ar gyfer trafodaethau pellach am lesiant. Aeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfarfod y tasglu ym mis Mehefin i glywed yr argymhellion uchelgeisiol. Bydd estyniad o'r grŵp hwn yn canolbwyntio ar fynediad pobl anabl at ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth yng Nghymru. Bydd yn defnyddio dull gweithdy yn gynnar yn 2024.

Mae'r gweithgor Teithio, dan gadeiryddiaeth Andrea Gordon o Guide Dogs UK, wedi cynnal pum cyfarfod. Aeth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gyfarfod o'r gweithgor i glywed gan aelodau sut y mae problemau â thrafnidiaeth gyhoeddus yn effeithio ar fywydau pobl anabl. Mae'r cyfarfod terfynol i gytuno ar argymhellion wedi'i drefnu ar gyfer mis Hydref.

Mae'r gweithgor Cyflogaeth ac Incwm , dan gadeiryddiaeth yr Athro Debbie Foster, wedi dod i ben. Bydd yr argymhellion yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y tasglu ym mis Rhagfyr.

Mae'r gweithgor Plant a Phobl Ifanc , sy'n cael ei gadeirio ar y cyd gan Angharad Price ac Alice Moore, wedi cynnal dau gyfarfod. Roedd yr ail yn canolbwyntio ar wasanaethau iechyd meddwl plant. Byddwn yn sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed, drwy drefniadau cryf ar gyfer cyfrannu at y drafodaeth.

Bydd y gweithgor Tai Fforddiadwy a Hygyrch yn cael ei gadeirio gan Damian Joseph Bridgeman a disgwylir i'r gweithgor gychwyn ar ei waith ym mis Hydref.

Yng nghyfarfod mis Mehefin y tasglu, clywodd yr aelodau gyflwyniadau am sut y gall mynediad at y llysoedd, troseddau casineb, plismona, ymosodiadau rhywiol, a thrais domestig effeithio ar bobl anabl. Cytunodd aelodau'r tasglu i sefydlu gweithgor i fynd i'r afael â mynediad at gyfiawnder i bobl anabl. Joe Powell, Prif Weithredwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan fydd yn cadeirio. Bydd yn dechrau gweithio ym mis Tachwedd.

Rwy'n falch bod Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru yn mynd i gyfarfodydd pob gweithgor yn rheolaidd, a chyn bo hir byddant yn mentora arweinwyr polisi ar draws y llywodraeth i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys wrth lunio polisïau a bod eu profiadau bywyd yn cael eu hystyried yn llawn.

Bydd gwaith y tasglu'n arwain at gyd-gynhyrchu Cynllun Gweithredu Hawliau Pobl Anabl trawslywodraethol. Byddwn yn dechrau'i ddrafftio yn 2024. Fodd bynnag, rydym eisoes yn cynllunio camau i gael gwared ar y rhwystrau a nodwyd gan weithgorau'r tasglu.

Mae gwaith y tasglu wedi cyrraedd cam cyffrous, ac rydym yn parhau i gael adborth calonogol gan randdeiliaid. Byddwn yn parhau i weithredu'r camau a nodwyd gan y gweithgorau yn eu hargymhellion er mwyn newid Cymru i fod yn genedl sy'n gynhwysol i bobl anabl.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn ar gael ar dudalen we'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl.