Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ers gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig, y lefel uchaf o’r camau uwchgyfeirio yn 2023, rydym wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys adroddiadau chwarterol a blynyddol sy’n nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o dan y trefniadau mesurau arbennig presennol.
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi’r wythfed adroddiad cynnydd sy’n nodi lle y mae gwelliannau wedi’u cyflawni a’r heriau sy’n parhau.
Mae’r bwrdd iechyd wedi gwneud nifer o newidiadau dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf ac rydym wedi gweld tystiolaeth o gynnydd parhaus mewn rhai rhannau o’r sefydliad. Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i adeiladu ar y newidiadau a’r gwelliannau y mae wedi’u cyflawni o ran rheolaeth ariannol, cynllunio, llywodraethiant corfforaethol, gwelliannau ansawdd a gweithgarwch ymgysylltu o’r newydd â chleifion a rhanddeiliaid.
Fodd bynnag, mae heriau sylweddol yn parhau o ran perfformiad gofal a gynlluniwyd a gofal mewn argyfwng. Rhaid i’r bwrdd iechyd ganolbwyntio ar gyflawni gwelliannau ar frys i amseroedd aros gofal a thriniaethau a gynlluniwyd a gofal brys a gofal mewn argyfwng. Rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth i’r bwrdd iechyd gan fod ganddo’r amseroedd aros hiraf o bell ffordd - a’r gyfran fwyaf o’r rhain - yng Nghymru.
Byddwn yn parhau i roi cymorth i’r bwrdd iechyd a’i herio mewn modd adeiladol i sicrhau ei fod yn cyflawni’r gwelliannau angenrheidiol er mwyn darparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy, a mynediad prydlon at ofal, i bobl sy’n byw yn y Gogledd.
