Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Tachwedd, cyhoeddais fod Dr Anwen Elias wedi ei phenodi yn Gadeirydd y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth newydd. Mae’r Grŵp yn cael ei sefydlu mewn ymateb i argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Cynigiwyd cyfres o ddiwygiadau i gryfhau democratiaeth yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu panel arbenigol i ystyried ffyrdd arloesol o gynyddu’r ddealltwriaeth o ddemocratiaeth. 

Yn dilyn proses recriwtio agored, rwy’n falch o gyhoeddi bod yr aelodau canlynol wedi eu penodi i’r grŵp: 

Mae Mo Alamgir yn entrepreneur yn y maes technoleg ac yn arweinydd cymunedol ymroddedig sydd wedi treulio’r 17 mlynedd ddiwethaf yn gwneud gwaith pro bono i ysgogi newid cymdeithasol ystyrlon. Mae ei fentrau yn canolbwyntio ar uwchsgilio pobl ifanc o gefndiroedd Du ac ethnig leiafrifol, pontio cymunedau ffydd a diffydd, a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a rhagfarn ddiarwybod yn y gweithle. 

Mae Sarah Allan yn un o brif arbenigwyr y DU mewn democratiaeth gydgynghorol. Mae ganddi dros ddegawd o brofiad o gynllunio, cyflawni a chynghori ar ymgysylltu â’r cyhoedd wrth wneud penderfyniadau, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Meithrin Gallu a Safonau a Chyfarwyddwr Rhaglenni Hinsawdd yn yr elusen ar gyfer cyfranogiad cyhoeddus, Involve. 

Mae Jess Blair wedi bod yn Gyfarwyddwr ERS Cymru ers 2017. Mae hi wedi arwain ymgyrchoedd ar bleidleisio yn 16 oed, cynyddu maint y Senedd a democratiaeth gydgynghorol. Roedd hi yn aelod o Banel Arbenigol ar gyfer y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Roedd yn gyfrifol am gyd-reoli Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent ac roedd ar Grŵp Cynghori Cynulliad Dinasyddion Gogledd Iwerddon.  

Mae gwaith Mike Corcoran yn arbenigwr mewn cyfathrebu, ymgysylltu a chydgynhyrchu, ar ôl iddo weithio gyda chleientiaid ar draws tri chyfandir, sy’n amrywio o ficrofentrau i adrannau llywodraeth. Ar hyn o bryd, mae ei swyddi yn cynnwys bod yn Ymgynghorydd gyda Lab Cyd-gynhyrchu Cymru a chyda Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru, yn Ymchwilydd Gwadd ym Mhrifysgol Wrecsam, ac yn gynghorydd ar gydgynhyrchu a chyfranogiad ar gyfer cyrff sy’n cynnwys Bwrdd Dinas Wrecsam a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus y Gogledd. 

Mae Tomos Dafydd Davies yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes polisi a materion cyhoeddus a chanddo gefndir cryf yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac mae ei brofiad yn rhychwantu cyd-destun y DU a’r cyd-destun rhyngwladol. Cafodd ei ethol yn gynghorydd yn Sir Fynwy yn 2022, ac mae’n gwasanaethu ar bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod, gan ganolbwyntio ar wella ymgysylltu â democratiaeth. 

Mae’r Athro Sally Holland yn Athro Gwaith Cymdeithasol yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant CASCADE, Prifysgol Caerdydd. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae ei hymchwil bresennol yn cynnwys gwerthuso’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i bobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru a mesur canlyniadau gwasanaethau Dechrau’n Deg i blant. 

Mae Yvonne Murphy yn Gyfarwyddwr Artistig a Chynhyrchydd Gweithredol Omidaze Productions a hi sydd wedi creu The Democracy Box a The Talking Shop, sy’n ddulliau creadigol ac arloesol o addysgu pobl am ddemocratiaeth, ac o drafod a rhannu gwybodaeth am ddemocratiaeth. Yvonne hefyd yw awdur adroddiad Beyond the Ballot Box a gyhoeddwyd gan The Democracy Box.

Mae Julie Sangani yn gweithio yn y sector cyhoeddus ac mae’n arweinydd cymunedol a chanddi brofiad helaeth mewn datblygu polisi, cyfranogiad dinasyddion, a llywodraethiant cynhwysol. Fel un o Gynghorwyr Dinas Caerdydd ac Aelod dros Iechyd y Cyhoedd, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth o Gabinet y Cyngor, mae hi wedi hyrwyddo mentrau sy’n rhoi mwy o amlygrwydd i leisiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys drwy ddatblygu rhwydwaith Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer y ddinas gyfan a Strategaeth Cyfranogiad Cymunedol newydd.

Mae’r Athro Diana Stirbu yn ysgolhaig cydnabyddedig a chanddi ddiddordebau ymchwil ac arbenigedd mewn llywodraethiant datganoledig a thiriogaethol, gwleidyddiaeth gyfansoddiadol, a democratiaeth gyfranogol. Ymunodd â Phrifysgol Metropolitan Llundain yn 2010 ac, ers 2023, mae wedi bod yn cyd-arwain y Ganolfan Ymchwil Gymhwysol mewn Grymuso Cymdeithas (CARES). Roedd hi yn aelod o Banel Arbenigol ar gyfer y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Mae Daisy Thomson yn dod ag arbenigedd mewn ymgysylltu â’r cyhoedd ar draws ystod o feysydd polisi dadleuol. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio i Involve lle mae’n arwain ar brosesau democratiaeth gydgynghorol ar gyfer llywodraethau lleol a chenedlaethol a chyrff anllywodraethol. Fel cyn-was sifil, mae Daisy wedi gweithio ar bolisi yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan gynnwys polisi treth datganoledig, diwygio llysoedd, a gwneud penderfyniadau dan arweiniad y gymuned.

Mae gan Leanne Wood dros bum mlynedd ar hugain o brofiad fel gweithredydd gwleidyddol. Mae hi wedi dal sawl rôl mewn bywyd gwleidyddol gan gynnwys fel cynghorydd lleol, AS dros y Rhondda ac arweinydd Plaid Cymru. Hi oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli’r Rhondda a’r fenyw gyntaf i arwain Plaid Cymru. Roedd yn un o Gomisiynwyr y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Mae bywgraffiadau llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am waith y grŵp, a bydd cyfle i Aelodau’r Senedd ymgysylltu’n uniongyrchol â’r Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth yn ystod y misoedd nesaf.