Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn trafodaethau â’r Prif Ystadegydd, mae’r trefniadau i gyhoeddi amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu hatal dros dro, yn amodol ar ganlyniad ymchwiliad allanol i ansawdd a threfniadau llywodraethu data’r bwrdd iechyd, yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw. 

Mae’r camau gweithredu hyn yn angenrheidiol oherwydd pryderon ynghylch cywirdeb y data RTT a gyflwynwyd gan y bwrdd iechyd yn ystod y misoedd diwethaf. Mae’r pryderon hyn yn cynnwys anomaleddau o ran maint y rhestr aros yr adroddwyd arno ac anghysondebau o ran lefelau gweithgarwch gweithredol. Mae hyn yn tanseilio hyder yn nibynadwyedd eu gwybodaeth.

Dim ond ar y data sy’n ymwneud â gofal a gynlluniwyd y bydd yr ymchwiliad yn edrych. Ni fydd yn cynnwys data sy’n ymwneud â chanser, profion diagnostig, therapïau na gofal brys a gofal mewn argyfwng, gan nad oes anghysondebau wedi’u canfod yn y rhain hyd yma.

Rwyf am fod yn gwbl glir mai adolygiad sy’n ymwneud ag ansawdd y data a’r trefniadau rheoli data yw hwn, yn hytrach nag ansawdd y gofal i gleifion neu ba mor hir y mae pobl yn aros am ofal yn y Gogledd. 

Er mwyn sicrhau hyder y cyhoedd mewn ystadegau swyddogol, rwyf wedi comisiynu adolygiad cynhwysfawr o ansawdd a threfniadau llywodraethu data RTT Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a fydd yn cael ei arwain gan arbenigwyr o:

  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru
  • Perfformiad a Gwella GIG Cymru
  • Tîm y Prif Ystadegydd yn Llywodraeth Cymru
  • Arbenigwr cymheiriaid o fwrdd iechyd arall yng Nghymru 

Bydd yr adolygiad yn dechrau ar unwaith a bydd yn archwilio prosesau casglu data, sicrhau ansawdd ac adrodd y bwrdd iechyd, a bydd yn gwneud argymhellion i gryfhau’r trefniadau llywodraethiant a sicrwydd. Rydym am adfer ymddiriedaeth ac rydym am weld trefniadau adrodd cywir yn ôl ar waith cyn gynted â phosibl, gyda'r nod o ailddechrau cyhoeddi’r ystadegau swyddogol erbyn y datganiad ystadegol nesaf. 

Fodd bynnag, bydd sicrhau ansawdd ac uniondeb y data yn cael blaenoriaeth dros yr amseru.

Yn y cyfamser, mae’r Prif Ystadegydd wedi penderfynu y bydd yr ystadegau RTT yn cael eu cyhoeddi ond heb ddata gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cael gwybod am y penderfyniad hwn.

Mae'r camau hyn yn adeiladu ar y cymorth ychwanegol a gyhoeddwyd eisoes i wella mynediad at ofal wedi’i gynllunio a gofal brys yn y Gogledd, ac amseroldeb y gofal hwnnw. Bydd y trefniadau i ddarparu cymorth ychwanegol ar lefel uwch yn dechrau ar unwaith. Fodd bynnag, heb ddata dibynadwy, ni ellir mesur gwelliant na’i gynnal.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am ganlyniad yr adolygiad a’r camau fydd yn cael eu cymryd i sicrhau trefniadau llywodraethu data cadarn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Beti Cadwaladr.