Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar Weithredu'r Drefn o Adnabod Gwartheg yn Electronig (EID Gwartheg) yng Nghymru. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 19 Mehefin 2025 a daeth i ben ar 14 Awst 2025, a daeth 30 o ymatebion i law.

Hoffwn ddiolch i’r holl randdeiliaid a roddodd o'u hamser i ystyried yr ymgynghoriad hwn ac i ymateb iddo. Rwy’n cydnabod hefyd bod cefnogaeth i roi EID Gwartheg ar waith yng Nghymru, cynllun y bu disgwyl hir amdano, ynghyd â'ch pryderon a fynegwyd yn yr ymatebion hynny.

Ar ôl adolygu'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus yn drylwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mynd yn ei blaen â chyflwyno Tagiau Adnabod Electronig (EID) Gwartheg ar gyfer lloi newydd-anedig yng Nghymru, gan ddefnyddio technoleg Amledd Isel (LF). Oherwydd pwysigrwydd cadw pethau'n gyson ar draws ffiniau, byddwn yn parhau i gydweithio'n agos ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) i sicrhau, lle bo'n ymarferol, bod cynlluniau gweithredu yng Nghymru yn cyd-fynd â'r rhai yn Lloegr.

Yng Nghymru, mae’n debygol y dechreuir cyflwyno EID Gwartheg yn 2027, i roi digon o amser i’r diwydiant baratoi ar gyfer y newidiadau hyn. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylebau technegol tagiau clust EID Gwartheg swyddogol, maes o law.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid y diwydiant i sicrhau ein bod yn cyfathrebu'n glir a phrydlon â cheidwaid gwartheg a'r gadwyn gyflenwi ehangach cyn cyflwyno unrhyw newidiadau.