Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad ar gynigion ynghylch cymorth ardrethi annomestig  ar gyfer ynni adnewyddadwy.

Mae Llywodraeth Cymru'n mynd ar drywydd ystod o ddiwygiadau yn ystod tymor presennol y Senedd, a fydd yn gwneud newidiadau hanfodol a chadarnhaol i ardrethi annomestig yng Nghymru. Mae'r ymgynghoriad yn nodi ein cynigion ar gyfer eithriad rhag ardrethi ar gyfer peiriannau a pheirianwaith a ddefnyddir i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle a storio trydan ar gyfer cerbydau trydan, a darparu rhyddhad newydd ar gyfer rhwydweithiau gwres carbon isel.

Bwriad y mesurau hyn yw cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i symud i ffwrdd o ddefnyddio tanwyddau ffosil ac i ddatgarboneiddio gwres. Gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad, rydym yn cynnig darparu'r cymorth hwn o 1 Ebrill 2024.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos, a gofynnir am ymatebion erbyn 15 Awst 2023. 

Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: Cymorth trethi ynni adnewyddadwy