Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â mwy o gyrff o dan y gyfundrefn safonau cyn diwedd tymor y Senedd presennol. Mae tua 130 o gyrff yn gweithredu safonau ar hyn o bryd, a bydd mwy o gyrff yn dechrau gweithredu safonau cyn hir, yn dilyn Rheoliadau a gymeradwywyd gan Aelodau’r Senedd ym mis Mawrth.
Y cam nesaf yw dod â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Cartrefi Cymunedol Cymru o dan y gyfundrefn safonau. Cynigir gwneud hyn drwy gyflwyno Rheoliadau Safonau Gymraeg ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, a fydd hefyd yn ychwanegu Cartrefi Cymunedol Cymru i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016, gerbron y Senedd yn gynnar yn 2026. Trwy'r ymgynghoriad hwn, rwyf am glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynigion, ac i glywed barn y cyrff, eu defnyddwyr gwasanaeth, a rhanddeiliaid ehangach.
Fy mwriad yw galluogi’r cyhoedd i ddelio gyda mwy o gyrff yn Gymraeg. Edrychaf ymlaen at gael barn rhanddeiliaid ar y cynigion sydd wedi’u gosod yn y ddogfen ymgynghori, a byddaf yn ystyried yr holl ymatebion cyn gosod Offeryn Statudol terfynol gerbron y Senedd.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 16 Medi 2025.
