Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Medi 2025.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 448 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffwn gael eich barn ar Reoliadau Safonau'r Gymraeg drafft ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac ar gynnig i ychwanegu Cartrefi Cymunedol Cymru at Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2).
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar Reoliadau drafft i wneud Safonau'r Gymraeg yn gymwys i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig fel darparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru, ac ar gynnig i ychwanegu Cartrefi Cymunedol Cymru at Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2).
Nod y cynigion yma yw:
- cynnig eglurder i'r cyrff ac i'r rhai sy'n ymdrin â'r cyrff hyn o ran beth sydd angen ei ddarparu yn Gymraeg
- cynyddu defnydd pobl o wasanaethau Cymraeg
- gwella’r gwasanaethau Cymraeg y gall pobl disgwyl eu derbyn gan gyrff
Nodwyd rhai mân anghysondebau rhwng y fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r Rheoliadau drafft ar ôl eu cyhoeddi. Mae hyn bellach wedi ei gywiro. Mae hyn wedi'i asesu a'i farnu yn annhebygol o fod wedi effeithio'n sylweddol ar ymatebion. Mae eglurhad wedi'i gyhoeddi trwy rwydweithiau cynrychioliadol a'i ychwanegu at dudalen yr ymgynghoriad er tryloywder.
