Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio sylwadau ar Reoliadau (‘Rheoliadau’) drafft i bennu safonau'r Gymraeg (‘safonau’) ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCCiaid) sy'n darparu gwasanaethau a gweithgareddau i bobl yng Nghymru. Mae'r ymgynghoriad hwn hefyd yn ceisio sylwadau ar gynnig i ychwanegu Cartrefi Cymunedol Cymru (‘CCC’), y corff sy'n cynrychioli LCCiaid, at Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2). Bydd hyn yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg (‘y Comisiynydd’) i osod dyletswyddau mewn perthynas â'r Gymraeg ar y cyrff hyn gyda'r nod o sicrhau bod mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg gyda nhw. 

Rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn er mwyn sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar y safonau drafft.

Sut i ymateb

Dylid cwblhau'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn drwy'r ffurflen ar-lein neu dylid eu cwblhau drwy'r ffurflen ymateb a'i hanfon drwy ebost neu yn y post at Is-adran Cymraeg 2050 erbyn 16 Medi 2025 fan hwyraf. Gweler y manylion cyswllt isod.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth:

Is-adran Cymraeg 2050
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: Cymraeg2050@llyw.cymru.

Rhagair y Gweinidog

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Bwriedir i Safonau'r Gymraeg (‘safonau’) wneud cyfraniad pwysig at ein strategaeth Cymraeg 2050 drwy gynyddu'r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg a galluogi mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Mae'r safonau hefyd yn cyflwyno dyletswyddau ar gyrff i ddarparu mwy o wasanaethau Cymraeg i'w cyflogeion a helpu cyrff i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn eu gweinyddiaeth fewnol. 

Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu safonau i fwy o sectorau a chyrff, a pharhau i weithio drwy'r rhaglen waith safonau fel sydd wedi’i nodi yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Yn ystod tymor y Senedd hon, gwnaed Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (‘Rheoliadau Safonau’) ar gyfer rheoleiddwyr gofal iechyd ac ar gyfer ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru. Yn fwy diweddar, rydym wedi ychwanegu cyrff cyhoeddus ychwanegol at Reoliadau Safonau presennol, a byddwn yn parhau i geisio cyfleoedd i ychwanegu cyrff cyhoeddus newydd at Reoliadau Safonau presennol drwy ddeddfwriaeth. 

Ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i fwy na 130 o gyrff gydymffurfio â'r safonau a bydd disgwyl i fwy o gyrff ddechrau rhoi safonau ar waith dros y misoedd nesaf. Y cam nesaf yw dwyn y Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCCiaid), a adnabyddir yn fwy cyffredin fel Cymdeithasau Tai, a Chartrefi Cymunedol Cymru (CCC) o dan y safonau.

Mae safonau'n rhan o'r daith o sicrhau bod y bobl sydd â sgiliau Cymraeg yn cael mwy o gyfleoedd i gael gwasanaethau Cymraeg gan y cyrff hyn. Rwy'n bwriadu i'r safonau hyn adeiladu ar y trefniadau sydd eisoes ar waith gan nifer o'r cyrff hyn, a hynny drwy gynlluniau iaith Cymraeg. Rydym wedi ceisio paratoi safonau i ymdrin â'r ffyrdd gwahanol y mae pobl yn rhyngweithio â'r cyrff hyn gan ddarparu hyblygrwydd hefyd i alluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau mewn ffordd bragmataidd a fydd yn gwella gwasanaethau Cymraeg yn barhaus.

Mae cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn flaenoriaeth glir i mi. Rwyf am i'r safonau hyn roi hyder i bobl ddefnyddio'u sgiliau Cymraeg wrth ymdrin â'r cyrff hyn. Rwy'n disgwyl i'r safonau helpu i hwyluso a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg drwy sicrhau bod y cyrff hyn yn cymryd dull mwy rhagweithiol o gynnig gwasanaethau Cymraeg. 

Edrychaf ymlaen at gael eich barn ar y cynigion sydd wedi'u nodi yn y ddogfen hon a byddaf yn eu hystyried cyn gosod y Rheoliadau terfynol gerbron y Senedd.

Mark Drakeford AS: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg.

Cyflwyniad

1.1 Ers 2015, mae Gweinidogion Cymru wedi bod yn paratoi cyfres o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (‘Rheoliadau Safonau’) o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (‘y Mesur’). Mae Safonau'r Gymraeg (‘safonau’) yn rhoi hawliau gorfodadwy i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r Gymraeg wrth ymdrin â chyrff. Mae wyth set o Reoliadau wedi’u gwneud hyd yma, y mae pob un ohonynt yn gymwys i gyrff neu sectorau penodol. Mae o leiaf 17 o gyrff wedi'u hychwanegu'n ôl-weithredol at y Rheoliadau hynny, naill ai drwy’r deddfwriaeth oedd yn eu sefydlu, neu drwy Reoliadau a wnaed ym mis Mawrth 2025. Mae dros 130 o gyrff eisoes yn gweithredu safonau.

1.2 Mae'r Mesur yn darparu, er mwyn bod yn atebol i gydymffurfio â'r safonau, bod yn rhaid i gorff neu gategori o bersonau ddod o fewn y rhai a restrir yn Atodlenni 5 a 6 neu Atodlenni 7 ac 8 i'r Mesur, a mae categori'r safon y gallai fod yn gymwys iddynt hwy yn cael ei ddangos yn erbyn eu cofnod yn Atodlen 6 neu 8. Caiff safonau eu cymhwyso'n benodol at gorff neu gategori o bersonau gan Reoliadau.

1.3 Mae'r Rheoliadau drafft sy'n destun ymgynghoriad wedi'u paratoi'n benodol ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (‘LCCiaid’) fel cyrff sy'n dod o dan y categori ‘darparwyr tai cymdeithasol’ sydd wedi'u rhestru yn Atodlenni 5 a 6 i’r Mesur.

1.4 Rydym hefyd yn cynnig ychwanegu Cartrefi Cymunedol Cymru (‘CCC’), y corff sy'n cynrychioli LCCiaid at Atodlen 6 i'r Mesur ac yna at Atodlen 6 i Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016.

1.5 Ar ôl cael cymeradwyaeth y Senedd, gall Comisiynydd y Gymraeg (‘y Comisiynydd’) ofyn i LCCiaid a CCC gydymffurfio â'r safonau drwy roi hysbysiad cydymffurfio iddynt. Dogfen sy'n nodi pa safonau o'r Rheoliadau perthnasol y mae'n ofynnol i gorff gydymffurfio â nhw yw hysbysiad cydymffurfio.

1.6 Bwriad safonau yw cynnig eglurder i'r cyrfff hyn ac i'r rhai sy'n ymdrin â'r cyrff hyn o ran beth sydd angen ei ddarparu yn Gymraeg. Caiff safonau hefyd eu drafftio gyda'r nod o greu dyletswyddau y gall y Comisiynydd ddewis ohonynt yr hyn sy'n rhesymol ac yn gymesur i bob corff unigol gydymffurfio â nhw. Nid oes angen i'r Comisiynydd osod pob un safon ar gorff. Rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r cyrff cyn cyhoeddi hysbysiad cydymffurfio iddynt a gall ond gosod safonau sy'n rhesymol ac yn gymesur i bob corff unigol. Gweler Adran 5 i gael mwy o fanylion ar hysbysiadau cydymffurfio.

1.7 Drwy'r ymgynghoriad hwn, hoffwn glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynigion, ac/neu yn nefnydd yr LCCiaid o'r Gymraeg, a chan CCC, gan gynnwys deiliaid contract tai cymdeithasol a chyflogeion y sefydliadau hyn. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn agored am gyfnod o 12 wythnos a bydd yn cau ar 16 Medi 2025. Mae hyn yn sicrhau bod aelodau'r cyhoedd, y cyrff sy'n ddarostyngedig i'r cynigion a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb yn cael cyfle i ddweud eu dweud.

1.8 Mae cwestiynau'r ymgynghoriad wedi'u darparu, a chroesewir ymatebwyr i ateb pob cwestiwn neu unrhyw un o'r cwestiynau a rhoi sylwadau ar unrhyw agwedd ar y cynigion.

Cefndir

2.1 Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu safonau i ragor o sectorau a chyrff. Mae tair set o Reoliadau wedi’u gwneud hyd yma yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'r Rheoliadau hynny'n golygu bod Rheoleiddwyr Gofal Iechyd, Cwmnïau Dŵr a rhai cyrff cyhoeddus ychwanegol yn ddarostyngedig i'r safonau neu gallent fod yn ddarostyngedig iddynt. Ceir enghreifftiau hefyd lle mae cyrff newydd eu creu wedi'u hychwanegu at Reoliadau presennol drwy'r ddeddfwriaeth a greodd y cyrff hynny: Cyd-bwyllgorau Corfforedig, Corff Llais y Dinesydd (Llais), a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr). Y cam nesaf yw canolbwyntio ar yr ymrwymiad i baratoi Rheoliadau ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCCiaid).

2.2 Mae llawer o'r cyrff sy'n ddarostyngedig i'r cynigion eisoes yn darparu gwasanaethau Cymraeg yn unol â'u Cynlluniau Iaith Gymraeg. Bydd symud y cyrff hyn draw i'r system safonau yn eu galluogi i adeiladu ar ymrwymiadau o fewn y cynlluniau hynny. Bydd yn golygu bod dyletswydd arnynt i gymryd dull mwy rhagweithiol a strategol o brif-ffrydio'r Gymraeg. Yn ystod y broses o ddrafftio'r safonau hyn, rydym wedi bod yn ystyriol bod LCCiaid yn amrywio'n fawr o ran eu maint, ystod y gwasanaethau a ddarperir ganddynt a'u cwmpas daearyddol. Mae rhai LCCiaid ond yn gweithredu mewn un ardal awdurdod lleol, wrth i eraill weithio mewn sawl ardal ledled Cymru, gydag un ohonynt hefyd yn darparu cartrefi yn Lloegr. Rydym hefyd yn ymwybodol y gall natur strwythurau grŵp yn y sector fod yn gymhleth a'i fod yn gyffredin i grwpiau gael sawl is-gorff, sydd efallai'n cynnwys sawl haen. Rydym yn cydnabod yr heriau y gall hyn esgor arnynt i rai cyrff. Fodd bynnag, rydym yn hyderus y bydd y cynigion yn darparu sylfaen gadarn a fydd yn galluogi'r Comisiynydd i osod safonau sy'n rhesymol mewn ffordd bragmataidd a fydd yn gwella gwasanaethau Cymraeg yn barhaus i siaradwyr Cymraeg.

Y broses: sut mae safonau'n gweithio?

2.3 Mae pob set o Reoliadau wedi'u paratoi i adlewyrchu'r ffordd y mae'r sector maent yn ymwneud ag ef yn darparu gwasanaethau ac yn ymgymryd â gweithgareddau.

2.4 Cyn bod yn rhaid i gorff gydymffurfio â safon, rhaid bodloni'r amodau canlynol:

  • Rhaid i'r corff ddod o fewn categori a/neu gael ei restru, yn Atodlenni 5 a 6 (neu Atodlen 7 ac 8) i'r Mesur, a bod yn atebol o bosibl i gydymffurfio â safon (sy'n golygu y caiff ei dangos yn erbyn ei enw neu gategori yn Atodlen 6 neu 8)
  • Rhaid bod y safon wedi'i gwneud yn benodol gymwys i’r corff. Mae hyn yn golygu bod Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi'r Comisiynydd, drwy Reoliadau, i roi hysbysiad cydymffurfio i'r corff yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r safon
  • Bod y Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i'r corff yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r safon a bod yr hysbysiad cydymffurfio hwnnw mewn grym

2.5 Mae ‘Darparwyr Tai Cymdeithasol’ eisoes wedi'i restru yn Atodlenni 5 a 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (‘Mesur’) fel categori o bersonau y gall fod yn ofynnol iddynt gydymffurfio â'r safonau. Ystyrir mai cyrff sy'n dod o fewn y categori ‘darparwyr tai cymdeithasol’ yw LCCiaid.

2.6 Mae'r Mesur yn nodi categorïau o safonau y gellir eu gosod ar gyrff drwy Reoliadau. Gellir gosod safonau sy'n ymwneud â'r pum categori canlynol ar ddarparwyr tai cymdeithasol:

  • Mae safonau cyflenwi gwasanaethau yn ymwneud â chyflenwi gwasanaethau er mwyn hybu neu hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, neu i sicrhau na chaiff ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
  • Mae safonau llunio polisïau yn gofyn i gyrff ystyried pa effaith y bydd eu penderfyniadau polisi'n ei chael ar allu pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar yr egwyddor o beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
  • Mae safonau gweithredu yn ymdrin â defnydd mewnol cyrff o'r Gymraeg. Os bydd safonau gweithredu yn cael eu gosod ar gorff, bydd disgwyl i'r corff hwnnw gynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu trefniadau mewnol.
  • Mae safonau cadw cofnodion yn golygu bod angen cadw cofnodion am rai o'r safonau eraill, ac am unrhyw gwynion a ddaeth i law corff mewn perthynas â chydymffurfio â'r safonau. Bydd y cofnodion hyn yn helpu'r Comisiynydd i reoleiddio cydymffurfiaeth y corff â'r safonau.
  • Mae safonau atodol yn ymdrin â materion amrywiol, gan gynnwys llunio adroddiad blynyddol, trefniadau monitro a darparu gwybodaeth i'r Comisiynydd. 

2.7 Ni chaiff CCC ei restru yn Atodlen 6 i'r Mesur ar hyn o bryd. Gall corff gael ei ychwanegu at Atodlen 6 os yw’n dod o fewn categori sydd wedi’u rhestru yn Atodlen 5 i’r Mesur. Mae Atodlen 5 o'r Mesur hefyd yn galluogi personau sy'n cydsynio i gael eu hychwanegu at Atodlen 6 i'r Mesur. Ein cynnig ni yw ychwanegu CCC at Atodlen 6 i'r Mesur er mwyn iddo allu cael ei ychwanegu at Atodlen 6 i Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) sy'n cynnwys sicrhau bod y pum categori safonau uchod yn gymwys i'r corff. Mae Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) eisoes yn gosod y safonau mewn perthynas â'r pum categori uchod o safonau. 

Darparwyr Tai Cymdeithasol

3.1 Mae rhai egwyddorion cyffredinol y Rheoliadau drafft isod: 

Rheoliadau sy'n gymwys i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig 

3.2 Prif ddarparwyr tai cymdeithasol yw awdurdodau lleol a LCCiaid. Mae'r Rheoliadau drafft yn pennu safonau ar gyfer LCCiaid yn benodol. Mae eisoes yn ofynnol i awdurdodau lleol gydymffurfio â safonau o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1). Ystyriwn fod unrhyw weithgareddau a gwasanaethau y mae awdurdodau lleol yn eu darparu yn eu capasiti fel darparwr tai cymdeithasol eisoes yn dod o dan y safonau sydd eisoes wedi’u gosod arnynt. Mae yna rai darparwyr tai cymdeithasol eraill (er enghraifft y rhai sydd wedi cofrestru yn Lloegr ond sy'n darparu nifer bach o dai yng Nghymru) - ni fydd y safonau yn gymwys i'r cyrff hynny. Nid yw'r Rheoliadau drafft yn sicrhau bod safonau'n gymwys i unrhyw ddarparwyr tai cymdeithasol eraill. 

3.3 Mae'r Rheoliadau drafft yn enwi ‘Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig’ fel grŵp o bersonau a all fod yn ddarostyngedig iddynt (yn hytrach nag enwi LCCiaid yn unigol). Bydd y dull hwn yn galluogi'r Comisiynydd i ymateb i unrhyw newidiadau i'r dyfodol a gosod safonau ar gorff sy'n dod o fewn y grŵp hwnnw nawr ac yn y dyfodol heb fod angen i Weinidogion Cymru ychwanegu cyrff unigol at Reoliadau.

Safonau i'w cymhwyso yng Nghymru

3.4 Mae sawl un o'r safonau drafft o fewn y Rheoliadau yn gymwys i'r graddau y caiff gweithgaredd neu wasanaeth ei ddarparu yng Nghymru. Mae mwyafrif helaeth o'r LCCiaid yn darparu gwasanaethau i bobl yng Nghymru yn unig, felly prin iawn o wahaniaeth ymarferol y mae pennu cyfyngiad daearyddol yn y Rheoliadau yn debygol o'i wneud. Fodd bynnag, mae'n golygu na fydd yn ofynnol i LCC, sydd hefyd yn darparu gweithgareddau a gwasanaethau i'r rhai y tu allan i Gymru, gydymffurfio â'r safonau wrth ymdrin â'r rhai sy'n byw y tu allan i Gymru. Er enghraifft, ni fydd angen i LCC ddarparu llythyr na ffurflen yn Gymraeg i denant sydd wedi'i leoli yn Lloegr.

‘Aelod o'r cyhoedd’ 

3.5 Bydd y Rheoliadau drafft yn galluogi ‘aelod o'r cyhoedd’ i ymdrin â LCCiaid yn y Gymraeg. Ar y cyfan, mae Cynlluniau Iaith Gymraeg sy'n cael eu paratoi gan gyrff yn nodi sut y bydd LCCIaid yn darparu gwasanaethau i'r ‘cyhoedd’. Ystyriwn y bydd y dull hwn yn sicrhau bod yr un lefel o ddarpariaeth o leiaf yn parhau o dan safonau ac yn cynnig cyfleoedd i LCCiaid ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg ymhellach. 

Trefniadau trydydd parti 

3.6 Bydd safonau yn gymwys pan fydd LCCiaid yn darparu gwasanaethau yn uniongyrchol neu drwy drefniadau trydydd parti, fel isgontractio corff arall i ddarparu gwasanaeth ar eu rhan, er enghraifft gwasanaeth cynnal a chadw'r cartref neu wasanaethau atgyweirio. Fodd bynnag, ni fydd safonau sy'n cael eu gosod ar LCCiaid yn gymwys pan fydd LCCiaid yn darparu gwasanaethau ar ran corff arall, fel Awdurdod Lleol. Yn yr achosion hynny, rhaid i LCCiaid gydymffurfio â'r safonau a osodwyd ar y corff arall, os yn berthnasol.

Safonau Cyflenwi Gwasanaethau

3.7 Mae’r Rheoliadau drafft yn gosod safonau mewn perthynas â'r pum categori o safonau a restrwyd ym mharagraff 2.6 uchod. Nid yw'r ddogfen ymgynghori hon yn trafod pob safon na chategori o weithgaredd yn unigol, ond mae paragraffau 3.8 i 3.16 yn amlygu rhai materion a all fod o ddiddordeb penodol i ymatebwyr, a materion rydym yn awyddus iawn i gael barn arnynt yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn.

3.8 Mae'r Rheoliadau drafft i LCCiaid yn cynnwys safonau cyflenwi gwasanaethau sy'n ymwneud â'r gweithgareddau a restrir isod:

  • gohebiaeth
  • galwadau ffôn
  • dogfennau a ffurflenni
  • cyfarfodydd
  • digwyddiadau cyhoeddus
  • cyhoeddusrwydd a hysbysebu
  • arddangos deunydd yn gyhoeddus
  • gwefannau a gwasanaethau ar-lein
  • peiriannau hunanwasanaeth
  • arwyddion a hysbysiadau
  • derbyn ymwelwyr
  • dyfarnu grantiau
  • codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg
  • hunaniaeth gorfforaethol
  • cyrsiau
  • systemau annerch cyhoeddus

Safonau yn ymwneud â ‘chyfleusterau sgwrsio ar-lein’ (safon 46)

3.9 Rydym yn ceisio sicrhau bod y Rheoliadau'n cael eu cadw'n gyfoes ac yn adlewyrchu'r ffordd y mae cyrff yn rhyngweithio â'u defnyddwyr. Gan ystyried hyn, rydym wedi cynnwys safonau ar gyfer cyfleusterau sgwrsio ar-lein mewn Rheoliadau mwy diweddar. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys safonau penodol ar gyfer cyfleusterau sgwrsio ar-lein. Rydym yn ymwybodol bod sawl LCC yn darparu swyddogaeth sgwrsio ar-lein. Rydym am sicrhau bod y cyhoedd yn gallu defnyddio'r Gymraeg ym mha bynnag ffordd maent yn penderfynu cysylltu â'r LCCiaid.

Safonau sy'n ymwneud â ‘gwefannau a gwasanaethau ar-lein’ (safonau 40 - 45)

3.10 Mae'r safonau hyn yn nodi'r gofynion ar gyfer gwefannau ac apiau. At ddibenion safon 45, rhaglen feddalwedd yw ‘ap’ a ddyluniwyd i gyflawni tasg benodol ar ddyfais electronig. Ystyriwn y byddai'r diffiniad hwn o ap yn cynnwys gwasanaethau ar-lein a ddarperir i aelodau'r cyhoedd (er enghraifft trwy borth deiliad contract). 

3.11 Rhaid i LCCiaid ddarparu tai cymdeithasol o ansawdd da a bydd y safonau'n galluogi aelodau'r cyhoedd i gysylltu â'u LCCiaid yn y Gymraeg os byddai'n well ganddynt wneud hynny. Er enghraifft, bydd deiliad contract yn gallu cysylltu â'i LCC yn Gymraeg pan fydd pethau'n mynd o'i le, pan fydd yn cael trafferthion neu pan fydd nam neu berygl yn dod i'r amlwg yn ei gartref.

3.12 Mae gennym ddiddordeb mewn clywed a yw'r gweithgareddau uchod yn ddigonol i gwmpasu'r holl weithgareddau y mae LCCiaid yn eu darparu ac a yw'r safonau'n adlewyrchu disgwyliadau'r sawl sy'n ymdrin ag LCCiaid, neu a oes unrhyw weithgareddau eraill sydd heb eu cynnwys gan y safonau yn y Rheoliadau drafft efallai.

Is-gyrff

3.13 Nid yw'r Rheoliadau drafft yn eithrio safonau rhag bod yn gymwys i is-gyrff. Ystyriwn y bydd y dull hwn yn rhoi hyblygrwydd i'r Comisiynydd osod safonau mewn ffordd sydd wedi'i theilwra i gyrff unigol.

Gweithgareddau masnachol

3.14 Ystyrir mai cyrff nid-er-elw yw LCCiaid. Fodd bynnag, gallant ddewis darparu rhai gwasanaethau a gweithgareddau ar sail fasnachol i greu incwm sy'n cael ei ail-fuddsoddi i wella eiddo sy'n bodoli neu i ddarparu rhagor o dai cymdeithasol. Rydym wedi ystyried p'un a ddylai fod eithriad ar gyfer eu gweithgareddau masnachol. Fodd bynnag, mae wedi profi'n anodd ar adegau i wahanu elfen fasnachol gwasanaeth oddi wrth wasanaeth a ddarperir i ddeiliaid contract fel arfer. Er enghraifft, mae gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw i ddeiliaid contract fel arfer yn gynwysedig yn eu rhent a'u taliadau gwasanaeth. Fodd bynnag, mae rhai LCCiaid hefyd yn dewis cynnig gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw am ffi i bobl nad ydynt yn ddeiliaid contract ar sail fasnachol. 

3.15 Nid yw'r Rheoliadau drafft yn eithrio safonau rhag bod yn gymwys i weithgareddau masnachol. Mater i'r Comisiynydd bydd penderfynu i ba raddau y dylai safonau fod yn gymwys i weithgareddau masnachol. Ystyriwn y bydd hyn rhoi hyblygrwydd i'r Comisiynydd osod safonau mewn ffordd sydd wedi'i theilwra ac sy'n rhesymol i gyrff unigol. 

Eithriadau

3.16 Mae'r Rheoliadau drafft yn nodi rhai amgylchiadau pan na fyddai'r safonau a osodwyd ar LCCiaid yn gymwys. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • ymweliadau cynnal a chadw ac atgyweirio. Dim ond yr ymweliad fydd wedi'i eithrio rhag y safonau. Mae hyn yn golygu y bydd y safonau yn parhau i fod yn gymwys i weithgareddau cysylltiedig (er enghraifft gohebiaeth neu alwadau ffôn i drefnu ymweliad)
  • mewn argyfwng lle mae risg bosibl i fywyd. Byddai gennym ddiddordeb mewn clywed a yw'r Rheoliadau fel y maent wedi'u drafftio yn nodi cwmpas argyfyngau yn effeithiol

Cartrefi Cymunedol Cymru (‘CCC’)

4.1 Mae CCC yn gorff aelod, yn yr un modd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd eisoes o dan ddyletswydd i gydymffurfio â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2). Mae'n darparu gwasanaethau sydd wedi'u bwriadu'n bennaf ar gyfer ei aelodau (h.y. LCCiaid) yn hytrach na deiliaid contract, preswylwyr a'r cyhoedd yn ehangach. Felly, ein cynnig yw ychwanegu CCC at Atodlen 6 o'r Mesur, drwy Orchymyn, ac yna at Atodlen 6 i Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2).

4.2 Rydym yn bwriadu sicrhau bod yr holl safonau o fewn Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) yn benodol gymwys i CCC. Yna, mater i'r Comisiynydd fydd penderfynu a yw'r safonau yn rhesymol ac yn gymesur er mwyn eu cynnwys mewn hysbysiad cydymffurfio. 

Hysbysiadau cydymffurfio

5.1 Mae'r Rheoliadau drafft yn nodi'r ystod o safonau a allai gael eu gosod ar gorff. Nid oes angen i'r Comisiynydd ofyn i gorff gydymffurfio â phob safon.

5.2 Mae gan y Comisiynydd hyblygrwydd i ddewis pa safonau, ac i ba raddau y mae'n rhaid i gorff gydymffurfio. Gall y Comisiynydd hefyd bennu'r dyddiad y mae angen i'r corff gydymffurfio â safon. Mae'r Comisiynydd yn gosod y wybodaeth honno mewn hysbysiad cydymffurfio a roddir i'r corff.

5.3 Felly, bydd gan y Comisiynydd sawl opsiwn pan ddaw hi i osod safonau ar gorff. Mae'n bosibl y bydd rhaid i gorff ond cydymffurfio â safon dan rai amgylchiadau yn unig ac nid dan amgylchiadau eraill (yn dibynnu ar beth sy'n briodol iddynt). Mae'r dull hwn yn galluogi'r Comisiynydd i hwyluso proses raddol o wella darpariaeth Gymraeg gan gyrff. Fodd bynnag, ni all y Comisiynydd newid geiriad safon.

5.4 Bydd corff yn gallu herio'r gofyniad arno i gydymffurfio â safon benodol o ran a yw'n rhesymol ac yn gymesur iddo wneud hynny.

5.5 Yn y lle cyntaf, gall corff gyflwyno her i'r Comisiynydd, gan ofyn i'r Comisiynydd gadarnhau a yw'r gofyniad arno i gydymffurfio â safon benodol yn yr hysbysiad cydymffurfio yn rhesymol ac yn gymesur. Os na allant ddatrys yr anghydfod, mae modd apelio i Dribiwnlys y Gymraeg, ac ar ôl hynny i'r Uchel Lys (ar gwestiwn yn ymwneud â'r gyfraith).

Asesiad Effaith Rheoleiddiol (AERh)

6.1 Diben AERh yw helpu Gweinidogion Cymru i ystyried effaith y cynigion ac i ystyried costau a buddiannau pob opsiwn sydd ar gael iddynt cyn rhoi polisi ar waith. Mae hefyd yn ffordd o gyflwyno tystiolaeth i'w chraffu ar effeithiau cadarnhaol a negyddol polisïau.

6.2 Rydym yn gofyn i LCCiaid a Chartrefi Cymunedol Cymru, fel cyrff y bwriedir iddynt fod yn ddarostyngedig i'r cynigion hyn, gwblhau'r cwestiynau yn y ffurflen AERh sydd wedi'i chyhoeddi ar y wefan er mwyn i ni allu paratoi AERh mor gywir â phosibl, a deall effeithiau'r cynigion hyn. Noder nad yw'r ffurflen AERh yn gymwys i unrhyw un ar wahân i'r cyrff sy'n ddarostyngedig i'r cynigion.

Sut i ymateb 

6.3 Gellir cwblhau'r ffurflen ar-lein neu ei dychwelyd drwy ebost neu yn y post erbyn 16 Medi 2025. Os bydd gennych unrhyw broblemau, cysylltwch â Cymraeg2050@llyw.cymru.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

  1. A oes gennych unrhyw sylwadau am y safonau cyflenwi gwasanaethau a gynigir yn y rheoliadau drafft ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (LCCiaid)? (Mae croeso i chi gyfeirio at y materion a godwyd yn y ddogfen ymgynghori, neu at unrhyw fater arall.)
  2. Mae Rhan 3 Atodlen 1 y Rheoliadau yn cynnwys dehongliadau mewn perthynas â rhai o'r safonau cyflenwi gwasanaethau. A oes gennych unrhyw sylwadau ar y ffordd y dehonglir y safonau yn Rhan 3?
  3. A oes gennych unrhyw sylwadau am y safonau llunio polisïau a gynigir yn y rheoliadau drafft ar gyfer LCCiaid?
  4. A oes gennych unrhyw sylwadau am y safonau gweithredu a gynigir yn y rheoliadau drafft ar gyfer LCCiaid?
  5. A oes gennych unrhyw sylwadau am y safonau cadw cofnodion a'r safonau sy'n ymdrin â materion atodol a gynigir yn y rheoliadau drafft ar gyfer LCCiaid?
  6. A oes gennych unrhyw sylwadau am sut y gallai'r safonau a gynigir yn y rheoliadau ar gyfer LCCiaid fod yn gymwys i is-gyrff neu weithgareddau masnachol LCCiaid?
  7. Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i ychwanegu Cartrefi Cymunedol Cymru at Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2)? (Os mai nac ydw yw eich ateb, mae croeso i chi restru set arall o reoliadau safonau'r Gymraeg presennol a allai fod yn fwy priodol i'r corff yn eich barn chi.)
  8. Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i wneud pob safon o fewn Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) yn benodol gymwys i CCC? (Os nad ydych, esboniwch pam).
  9. Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
  10. A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi?
  11. A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi?
  12. Yn eich barn chi, a allai unrhyw rai o'r cynigion gael eu llunio neu eu newid er mwyn iddynt:
  13. gael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
  14. liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
  15. Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad er mwyn ymateb i'r cwestiynau uchod.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl graidd a swyddogaethau Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (er enghraifft sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: Wefan ICO