Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw y crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar Reoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl unigolion a sefydliadau a roddodd o'u hamser i ymateb i'r ymgynghoriad.
Casglodd yr ymgynghoriad farn a fydd yn llywio'r Rheoliadau newydd, a fydd yn dirymu ac yn ail-wneud â diwygiadau Reoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010, Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003 yn un gyfres o Reoliadau.
Roedd cefnogaeth eang i'r diwygiadau arfaethedig sydd â'r nod o ddarparu mwy o hyblygrwydd er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol gefnogi ysgolion yn well i reoli eu cyllidebau, a chynyddu tryloywder, y gallu i gymharu a chysondeb o ran system ariannu ysgolion yng Nghymru. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i drafodaethau cyllidebol fod yn seiliedig ar wybodaeth ar bob lefel.
Bydd ein cynigion, felly, yn mynd rhagddynt heb newid, i raddau helaeth. Ceir rhagor o fanylion am y cynigion penodol yn y crynodeb o'r ymatebion.
Rwy'n bwriadu gosod Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 ym mis Mawrth 2026. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau digon o amser i awdurdodau lleol ymgynghori, a gweithredu unrhyw newidiadau i'w prosesau neu eu polisïau o ganlyniad i'r Rheoliadau diwygiedig, bwriedir iddynt ddod i rym ar 1 Ebrill 2027. Bydd yn ofynnol, felly, i awdurdodau lleol gydymffurfio â'r Rheoliadau diwygiedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2027-28.
