Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Heddiw rwy'n cyhoeddi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn casglu barn ar ddiwygiadau arfaethedig i'r Rheoliadau ar gyllido ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro.
Ers blynyddoedd lawer, mae pryderon wedi'u codi am lefel y gwariant ysgol fesul disgybl, a'r gwahaniaethau ar draws awdurdodau lleol a rhwng ysgolion. Ar 7 Chwefror cyhoeddais adroddiad cryno ar yr Adolygiad o'r Fformiwla Cyllido Ysgolion. Mae'r adroddiad yn darparu sawl argymhelliad ar sut y gellir gwella'r system i wneud y broses o gyllido ysgolion yn fwy tryloyw, cymaradwy a chyson ar draws ysgolion Cymru.
Wrth fwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad hwn, mae'n bleser gennyf lansio ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig sy'n diwygio ac yn cyfuno Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010, Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003.
Nod y newidiadau arfaethedig a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad yw darparu system fwy tryloyw, cymaradwy a chyson ar gyfer cyllido ysgolion, er mwyn caniatáu trafodaethau gwybodus am gyllidebau ar bob lefel.
Caiff yr ymgynghoriad ei gynnal rhwng 24 Mehefin a 2 Medi 2025 a bydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwy'n annog yr holl randdeiliaid sy'n ymwneud â chyllid ysgolion i gyfrannu at yr ymgynghoriad pwysig hwn. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni.
