Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o gael lansio'r ymgynghoriad ar Reoliadau drafft ‘Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy'n Colli Addysg) (Cymru)’. Yn fy Natganiad Llafar ym mis Mehefin 2023, cyhoeddais fy mwriad i lunio rheoliadau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol cael cronfa ddata o'r plant nad ydynt wedi'u cofrestru mewn ysgol, nad ydynt yn derbyn addysg y tu allan i'r ysgol, neu nad yw'n hysbys i'r awdurdod lleol eu bod yn cael eu haddysgu'n briodol gartref, ac i ymgynghori ar y rheoliadau yn fuan yn 2024.  Mae colli addysg ynddo'i hun yn fater lles, a nod y cynigion ar gyfer cronfa ddata yw cyfrannu at ein hymrwymiad i lwyddiant a lles pob dysgwr. 

Mae'r cynnig yn seiliedig ar yr ymgynghoriad cyntaf ar Reoliadau drafft Cronfa Ddata Deddf Plant 2004 (Cymru) yn 2020. Ystyriwyd yr ymatebion yn fanwl, ac rydym wedi gweithio i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol mewn perthynas ag addysg a sicrhau bod y broses o rannu data rhwng cyrff cyhoeddus yn gymesur ac at ddiben nodi plant a allai fod yn colli addysg yn unig. 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgysylltu â'n prif randdeiliaid ar y cynigion hyn ac wedi gofyn am adborth. Bydd y Rheoliadau yn cael eu treialu i ddechrau ar draws nifer fach o awdurdodau lleol er mwyn asesu pa mor effeithiol ydynt o ran nodi plant nad ydynt yn hysbys i'r awdurdod lleol. Bydd y peilot yn cael ei werthuso, a chaiff unrhyw newidiadau gofynnol eu gwneud cyn cyflwyno'r cynllun yn ehangach ledled Cymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau heddiw ac yn dod i ben ar 25 Ebrill 2024.