Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf lansio ein Papur Gwyrdd, Llunio Dyfodol Llywodraethu Dŵr yng Nghymru. Mae ein huchelgais yn glir ac yn flaengar – afonydd glân a ffyniannus, dŵr yfed diogel o ansawdd uchel, gwasanaethau teg a fforddiadwy a seilwaith modern sy'n barod ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn atgyfnerthu atebolrwydd, ailadeiladu ymddiriedaeth a chreu system sy'n symlach, yn gryfach ac yn fwy tryloyw.

Mae'r Papur Gwyrdd yn nodi ein hymateb i argymhellion a thystiolaeth y Comisiwn Dŵr Annibynnol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025, ac sy'n amlinellu llwybr at ddŵr glanach yng Nghymru. Sefydlodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU y Comisiwn ar y cyd i gynnal yr archwiliad mwyaf cynhwysfawr o'r sector dŵr ers preifateiddio, gan gydnabod yr angen i lanhau ein hafonydd a'n moroedd fel mater o frys a gwella ein system ddŵr. Yn ei hanfod, nod yr adolygiad oedd llunio gweledigaeth gyffredin glir o'r hyn y mae pobl yng Nghymru yn ei ddisgwyl o'u system ddŵr. Roedd y Comisiwn yn glir bod rhaid i'r weledigaeth hon fod yn uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy, wedi'i gwreiddio ym mhrofiadau cymunedau, ynghyd â'r gallu i ennill a chynnal ymddiriedaeth y cyhoedd.

Mae'r Papur Gwyrdd hwn yn nodi'r cam nesaf yn y daith honno. Mae'r cynigion yn rhoi cyfle nad yw'n codi ond unwaith mewn cenhedlaeth – i ailosod llywodraethu dŵr yng Nghymru  Rydyn ni'n cynnig sefydlu rheoleiddiwr economaidd pwrpasol yng Nghymru ar gyfer dŵr, a fyddai'n cael ei gefnogi gan ddeddfwriaeth newydd a fframwaith rheoleiddio modern sy'n annog buddsoddi ac yn darparu system ddŵr sy'n gweithio i Gymru. 

Mae dŵr yn hanfodol i bob rhan o fywyd yng Nghymru, a thros y degawd diwethaf rydyn ni wedi gwneud cynnydd gwirioneddol, gan wella ansawdd dŵr yfed, buddsoddi mewn diogelu'r amgylchedd a gwella cefnogaeth i ddefnyddwyr. Ers 2022, rydyn ni wedi buddsoddi mwy na £56 miliwn i fynd i'r afael â heriau ansawdd dŵr drwy orfodi, monitro ac atebion sy'n seiliedig ar natur. Rydyn ni wedi gwneud cynnydd wrth wella ansawdd dŵr ond mae llawer mwy i’w wneud. 

Mae Cymru bellach yn wynebu argyfwng gwirioneddol. Mae'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, seilwaith sy'n heneiddio a phryderon y cyhoedd am ollyngiadau carthion yn golygu bod angen gweithredu mewn ffordd benderfynol. Cafodd y system sydd gennyn ni heddiw ei chynllunio ar gyfer oes wahanol. Nid yw bellach yn diwallu anghenion ein pobl, ein hamgylchedd na'n heconomi. Hen bryd inni ailosod y cyfan. 

Mae ein cynigion yn rhoi diogelu'r amgylchedd, iechyd y cyhoedd a gwydnwch ecosystemau wrth wraidd llywodraethu dŵr. Mae pobl eisiau afonydd, arfordiroedd a llynnoedd glanach, a system reoleiddio sy'n deg, yn effeithiol, yn dryloyw ac yn addas i'r diben. Er mwyn gwneud hyn mae angen dull system gyfan. Nid yw'n ymwneud â'r diwydiant dŵr yn unig – mae'n ymwneud â sut mae pob sector o'n heconomi a'n cymdeithas yn rheoli'r pwysau ar ein hamgylchedd dŵr. Dim ond os ydyn ni i gyd yn atebol y gallwn ni ddiogelu'r adnodd hanfodol hwn ar gyfer cenedlaethau heddiw a'r dyfodol. 

Mae'r Papur Gwyrdd hwn yn amlinellu'r cyfle sydd gennyn ni. Er mwyn trawsnewid ein system ddŵr bydd angen buddsoddi parhaus, ac felly mae'n hanfodol bod buddsoddwyr yn teimlo'n hyderus. Rydyn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd rheoleiddio sy'n cefnogi buddsoddiadau hirdymor yn seilwaith dŵr Cymru – o rwydweithiau dŵr yfed i atebion sy'n seiliedig ar natur – fel bod y prosiectau cywir yn cael eu cynnal yn y lleoedd cywir ac yn darparu'r gwerth mwyaf posibl i'r cyhoedd. Bydd amgylchedd rheoleiddio dibynadwy a rhagweladwy yn denu buddsoddiadau wrth hefyd ddiogelu budd y cyhoedd. Mae seilwaith sy'n addas ar gyfer y dyfodol yn golygu swyddi heddiw a gwydnwch ar gyfer yfory. Bydd adeiladu system ddŵr fodern a gwydn yn cefnogi swyddi medrus, hirdymor ledled Cymru. 

Mae hyder buddsoddwyr yn bwysig, fel y mae atebolrwydd. Dyna pam rydyn ni o blaid cefnogi sefydlu fframwaith deddfwriaethol cliriach – un sy'n galluogi rheoleiddwyr i weithredu'n benderfynol a dal pob sector i gyfrif. A dyna pam rydyn ni am greu rheoleiddiwr dŵr economaidd newydd yng Nghymru sydd â'r awdurdod a'r annibyniaeth i weithredu dros Gymru mewn ffordd benderfynol. Er mwyn gwneud hyn, rhaid inni sicrhau bod gennyn ni'r pwerau datganoledig sydd eu hangen. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i geisio cymhwysedd deddfwriaethol ychwanegol a chyflwyno Bil Dŵr newydd sy'n rhoi gwerth i'r cyhoedd ac sydd â gwydnwch amgylcheddol wrth ei wraidd. 

Nid y cynllun terfynol mo'r Papur Gwyrdd hwn – yn hytrach mae'n ddatganiad o fwriad lefel uchel a gwahoddiad i ymuno â ni. Rydyn ni'n gofyn am farn, tystiolaeth a gwybodaeth i helpu i lunio cam nesaf y diwygio, gan sicrhau bod trefniadau yn y dyfodol yn gydlynol, yn atebol ac yn gallu cyflawni ar gyfer Cymru. Byddwn yn croesawu eich cyfraniad at y sgwrs genedlaethol hon. 

Mae hon yn adeg gritigol. Mae newidiadau'n cael eu gwneud ledled y DU, ac rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod y newidiadau hyn yn cyd-fynd â'i gilydd lle mae'n bwysig, gan osgoi dyblygu a chefnogi cyfnod pontio didrafferth. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n rhannu cyfrifoldeb i adael ein hamgylchedd dŵr mewn cyflwr gwell nag yr oedd inni – yn wydn, yn gynaliadwy ac yn barod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae'r gwaith hwnnw'n dechrau nawr.