Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Polisi hirdymor Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynwaith (pEPR) yw iddo gynnwys gwastraff Pecynwaith wedi'i daflu mewn biniau ac ar y stryd yng Nghymru. Ymgynghorwyd ar hyn yn flaenorol ym mis Mawrth 2021 ac adlewyrchwyd hyn yn ymateb y llywodraeth i'r ymgynghoriad.
Felly, mae Llywodraeth Cymru bellach yn ymgynghori ar opsiynau ar sut y gellid datblygu'r cynllun pEPR i gyfrif am wastraff pecynwaith 'wrth fynd' sy'n cael ei roi mewn biniau cyhoeddus neu ei ollwng ar lawr yng Nghymru.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 12 wythnos o heddiw tan 20 Ebrill 2026.
Bydd fersiwn ddrafft o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cyd-fynd â'r ymgynghoriad.
Mae'r dogfennau ar gael yn: Diwygiadau i Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynwaith
