Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Ar 24 Mawrth eleni, fe wnaethom gyrraedd carreg filltir arwyddocaol wrth i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (‘y Ddeddf’) dderbyn Cydsyniad Brenhinol. Mae’r ddeddfwriaeth nodedig hon yn arwain y ffordd ar gyfer cyfres o newidiadau pwysig sydd â'r nod o wella sut y mae gofal a chymorth yn cael eu darparu ledled Cymru.
Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth sydd â'r bwriad o atal darparwyr cartrefi plant, lletyau diogel a gwasanaethau maethu rhag gwneud elw, ac i alluogi cyflwyno taliadau uniongyrchol am ofal iechyd, ar gyfer unigolion sy'n gymwys am Ofal Iechyd Parhaus y GIG i ddechrau. Mae'r Ddeddf hefyd yn gwneud nifer ddiwygiadau amrywiol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i sicrhau bod ein deddfwriaeth bresennol yn gallu gweithredu'n llawn ac yn effeithiol.
Heddiw, rwy'n falch o lansio tri ymgynghoriad ar reoliadau arfaethedig o dan y Ddeddf, i gefnogi gweithredu rhai o'i darpariaethau allweddol o 1 Ebrill 2026.
Yn ystod y broses graffu, nodais yn glir ei bod yn fwriad gan y Llywodraeth hon i ddeddfu fel na fyddai unrhyw ddarparwyr newydd cartrefi plant, lletyau diogel neu wasanaethau maethu (a elwir gyda'i gilydd yn ‘wasanaethau plant cyfyngedig’), o 1 Ebrill 2026 ymlaen, yn gallu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru – ac felly gweithredu'n gyfreithlon yng Nghymru – oni bai eu bod yn awdurdod lleol neu'n un o'r pedwar math o endid nid-er-elw a ganiateir gan y Ddeddf. Yr endidau hyn yw:
- cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau;
- sefydliad corfforedig elusennol;
- cymdeithas gofrestredig elusennol;
- cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau.
Er mwyn cefnogi ei roi ar waith, mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnig newidiadau i'r rheoliadau presennol sy'n ymwneud â chofrestru darparwyr gwasanaeth, ac i ffurflenni blynyddol darparwyr, fel bod gan Arolygiaeth Gofal Cymru (sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru) yr wybodaeth a'r sicrwydd sydd eu hangen arni i benderfynu a yw darparwr yn bodloni'r amodau nid-er-elw a nodir yn y Ddeddf.
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn amlinellu dull arfaethedig o fonitro a gorfodi darpariaethau'r Ddeddf yn ymwneud â threfniadau ariannol afresymol neu anghymesur a wnaed gan ddarparwyr gwasanaethau plant cyfyngedig. Mae hyn er mwyn sicrhau nad ydynt yn tanseilio bwriad ein polisi – i atal tynnu elw o ofal plant.
Gan adeiladu ar Ran 1 o'r Ddeddf, mae'r ymgynghoriad hwn yn gam pwysig o ran cyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal. Ein nod yw sicrhau nad yw arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn gofal pobl ifanc yn gwneud elw i unigolion nac endidau corfforaethol, ond yn cael ei ail-fuddsoddi i wella profiadau a chanlyniadau i blant, gwella darpariaeth gwasanaethau a chefnogi datblygiad proffesiynol i'r rhai sy'n darparu gofal.
Ymgynghoriad ar y cynigion ynghylch rheoliadau ar gyfer taliadau uniongyrchol ym maes gofal iechyd
Newid arloesol arall a alluogwyd gan y Ddeddf yw cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd. Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi cynigion manwl ar gyfer rheoliadau a fydd yn sail i hyn ac yn darparu'r fframwaith cyfreithiol y gall Byrddau Iechyd Lleol (sy'n arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru) eu defnyddio i gynnig taliadau uniongyrchol i unigolion sy'n gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG, gan eu galluogi i drefnu a rheoli eu gofal a'u cymorth eu hunain.
Mae taliadau uniongyrchol yn ddarpariaeth wedi’i hen sefydlu ym maes gofal cymdeithasol, sy’n grymuso pobl i wneud dewisiadau ynglŷn â sut y caiff eu hanghenion eu diwallu. Mae ehangu’r dull gweithredu hwn i ofal iechyd parhaus yn gam sylweddol ymlaen o ran unioni iechyd a gofal cymdeithasol, ac o ran hyrwyddo gofal sy’n canolbwyntio ar unigolion ar draws y system.
Mae'r newid hwn i'w groesawu, gan ei fod yn creu opsiwn newydd i bobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor sy'n gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG, gan roi mwy o lais, dewis a rheolaeth iddynt dros eu gofal. Mae hefyd yn ategu ein huchelgais ehangach i alluogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl a chael gofal wedi’i deilwra i’w hanghenion a’u dewisiadau unigol.
Mae’r cynigion yr ydym yn ymgynghori arnynt yn mynd i'r afael â meini prawf cymhwysedd, yr amodau ar gyfer cael taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd a chyfrifoldebau unigolion a Byrddau Iechyd Lleol. Maent wedi eu datblygu â mewnbwn rhanddeiliaid ac yn adeiladu ar yr egwyddorion yn ymwneud â chydgynhyrchu a gweithio mewn partneriaeth.
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn tynnu sylw at ddiwygiadau a wnaed i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol ar gyfer gofal cymdeithasol. Bydd y diwygiadau hyn yn galluogi unigolion â galluedd meddyliol i enwebu unigolyn i dderbyn a rheoli taliadau ar eu rhan. Y bwriad yw y bydd y rheoliadau a’r cod ymarfer sy’n llywodraethu taliadau uniongyrchol yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r newid hwn.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar gynigion ar gyfer rheoliadau i gefnogi diwygiadau a wnaed gan y Ddeddf i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae'r newidiadau hyn yn ymwneud â chyhoeddi datganiadau blynyddol darparwyr gwasanaeth a cheisiadau a wneir gan ddarparwyr i ganslo eu cofrestriad.
Mae’r cynigion yn cwmpasu:
- Ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaeth gyhoeddi eu datganiad blynyddol ar eu gwefan o fewn 91 diwrnod i ddiwedd y flwyddyn ariannol (erbyn 30 Mehefin);
- Galluogi hysbysiad cosb i gael ei gyflwyno am y drosedd o fethu â chyhoeddi datganiad blynyddol o fewn y terfyn amser sy'n ofynnol;
- Pennu gwybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yng nghais darparwr i ganslo ei gofrestriad.
Gyda'i gilydd, nod y cynigion hyn yw sicrhau bod pob darparwr gwasanaeth yn cyhoeddi gwybodaeth amserol, dryloyw a chymharol am eu gwasanaethau a bod Arolygiaeth Gofal Cymru (sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru) yn derbyn gwybodaeth hanfodol gan ddarparwyr sy'n dymuno canslo eu cofrestriad, am eu cynlluniau i gau gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys manylion am weithrediad arfaethedig y gwasanaethau, a gofal, diogelwch a llesiant parhaus unigolion sy'n defnyddio neu'n byw yn y gwasanaethau yn ystod y cyfnod cau.
Y camau nesaf
Rwy’n annog pob parti â buddiant - yn unigolion, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol neu sefydliadau - i ymateb i’r ymgyngoriadau hyn. Mae eich safbwyntiau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y rheoliadau terfynol yn gadarn, yn ymarferol, ac yn adlewyrchu anghenion a dyheadau’r rhai a fydd yn eu defnyddio.
Bydd pob ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 12 wythnos, ac yn cau ar 8 Hydref 2025, a byddant ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at gael eich ymatebion, a fydd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o lunio'r ddeddfwriaeth a gweithredu'r newidiadau pwysig hyn.
