Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 8 Mawrth, cadeiriais yr ail Uwchgynhadledd Llygredd Afonydd i drafod ansawdd dŵr afonydd a’i effaith ar ddatblygiadau. Roedd hyn yn dilyn uwchgynhadledd a gynhaliwyd yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf 2022.

Daeth uwch-gynrychiolwyr o reoleiddwyr, cwmnïau dŵr, datblygwyr, llywodraeth leol, undebau ffermio, y byd academaidd, a chyrff amgylcheddol at ei gilydd yn yr uwchgynhadledd i drafod datblygu dull strategol a chydgysylltiedig i fynd i’r afael â llygredd ffosfforws.

Trafodwyd yr angen i allu symud yn gyflym a sbarduno camau gweithredu, i gael gwared ar unrhyw gymhlethdod diangen a darparu sicrwydd a negeseuon cyson ar draws yr ystod o heriau gwahanol. Bydd hyn yn rhoi’r hyder sydd mawr ei angen ar ein partneriaid i allu gwneud penderfyniadau.

Mae angen inni gyflwyno, yn gyflym, fesurau lliniaru i greu hyblygrwydd i gefnogi datblygiadau cynaliadwy nawr gan hefyd sicrhau'r buddsoddiad mwy hirdymor i adfer ein hafonydd.

Yn dilyn trafodaeth gadarn, mae'n bleser gennyf ddweud bod yr holl sefydliadau wedi cytuno i gydweithio i ddarparu'r 'Cynllun Gweithredu ar Leihau Pwysau ar Ddalgylchoedd Afonydd Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC) i Helpu i Gyflenwi Tai Fforddiadwy'.

Mae’r cynllun gweithredu yn hoelio sylw ar y themâu a ganlyn:

  • yr angen am ddull cydgysylltiedig ac am drefniadau llywodraethu a goruchwylio pwrpasol i gefnogi penderfyniadau mewn perthynas ag afonydd SAC sy’n methu;
  • yr angen i ddefnyddio atebion naturiol yn fwy effeithiol er mwyn darparu manteision lluosog;
  • yr angen i weithio'n adeiladol gyda'r sector amaethyddiaeth i ganfod atebion i leihau maetholion gormodol yn y pridd ac afonydd SAC Cymru, a mynd i'r afael â hynny;
  • darparu atebion tymor byr i fynd i'r afael â'r cyfyngiadau cynllunio presennol;
  • datblygu cyfrifiannell maeth unedig i gynorthwyo penderfyniadau cynllunio yn uniongyrchol ar niwtraliaeth faethol a fydd yn gallu ystyried data lefel dalgylch, nodweddion lleol ac anghenion;
  • rhoi eglurder i randdeiliaid ar addasrwydd gweithredoedd lliniaru posibl ac ymyriadau i leihau llygredd;
  • dull unedig o gydsynio dalgylch mewn perthynas ag afonydd SAC sy’n methu; a
  • chynyddu ein dealltwriaeth o fesurau ymarferol o fewn dalgylchoedd y gellid eu darparu drwy Fasnachu Maetholion.

Drwy gyflawni’r camau a nodwyd, hyderaf y gellir ailddechrau’r datblygiadau tai yn y dalgylchoedd afonydd SAC yr effeithir arnynt.

Nid oes un ffordd o ddatrys y broblem hon a bydd hyd yn oed cyfuniad o fesurau yn cymryd amser i ddadwneud niwed cronnus y gorffennol.

Ledled Llywodraeth Cymru rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd ein hafonydd ledled Cymru ac mae cynlluniau Rheoli Basn Afonydd, a gyhoeddwyd y llynedd, yn amlinellu'r camau sydd eu hangen i ganiatáu i'n hafonydd ffynnu. Er y bu gwelliannau, mae angen inni gymryd dull dalgylch integredig sy'n canolbwyntio ar gydweithrediad aml-sector ac atebion sy'n seiliedig ar natur i sbarduno gwelliannau i ansawdd dŵr. Dim ond drwy gyfuno gweithredoedd pob sector y gallwn fynd i'r afael â sawl risg gan effeithio ar ein llynnoedd, afonydd a'n nentydd a sicrhau gwelliannau gwirioneddol i ansawdd ein dyfrffyrdd

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr uwchgynhadledd – mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o ran gwella ansawdd dŵr yn ein hafonydd a lleihau llygredd ffosfforws.