Neidio i'r prif gynnwy

Comisiynwyd y gwerthusiad hwn gan Lywodraeth Cymru i adolygu Protocol Treth Gyngor Cymru a gyflwynwyd yn 2019 i ddeall y broses o weithredu'r Protocol a'i effaith.

Cwblhawyd yr ymchwil yn 2022 ac roedd yn cynnwys ymchwil desg, gwaith dadansoddi ystadegau meintiol a gwaith maes.

Prif ganfyddiadau

  • Ychydig o newid sydd wedi bod o ran dull gweithredu cynghorau ar gyfer casglu a gorfodi Treth Gyngor o ganlyniad i'r Protocol Treth Gyngor. Dywedodd y mwyafrif o'r cynghorau fod mesurau a geir yn y Protocol eisoes ar waith cyn cyflwyno'r Protocol yn 2019
  • Roedd cynghorau o'r farn fod ganddynt berthynas dda ag asiantau gorfodi, fel yr hyn a nodir yn y Protocol. Roedd pob cyngor o'r farn fod eu hasiantau gorfodi yn amlygu bregusrwydd ac yn gweithredu'n briodol mewn ymateb i angen pan ddaw i'r amlwg.
  • Nodwyd bod diffyg cysondeb i'w weld mewn sawl agwedd, gan gynnwys parodrwydd i wneud trefniadau sy'n addas i'r dyledwr, llymder y camau gorfodi a defnyddio data i amlygu preswylwyr bregus.
  • Roedd rhai o’r ffactorau sy'n gallu creu rhwystr rhag gweithredu'r Protocol Treth Gyngor yn cynnwys: deddfwriaeth sydd wedi dyddio ar gasglu a gorfodi; problemau rhannu data; diffyg hyfforddiant ac arweiniad; a threfniadaeth fewnol cyngor.
  • Roedd sefydliadau trydydd parti yn gefnogol o'r Protocol ond o'r farn nad oedd wedi cael llawer o effaith ar weithgarwch casglu a gorfodi mewn cynghorau.
  • Nid oes tystiolaeth ystadegol ddigonol o effaith y Protocol Treth Gyngor. Mae hyn yn bennaf oherwydd y diffyg data sydd ar gael ar weithgarwch gorfodi a'r ffaith fod COVID-19 a'r argyfwng costau byw yn taflu cysgod dros yr effaith.

Adroddiadau

Deall Effaith Ymyriadau Treth Gyngor yng Nghymru: cyflwyno Protocol Treth Gyngor Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1012 KB

PDF
1012 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Deall Effaith Ymyriadau Treth Gyngor yng Nghymru: cyflwyno Protocol Treth Gyngor Cymru (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 281 KB

PDF
281 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Nerys Owens

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.